– Senedd Cymru am 3:40 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Yr eitem nesaf yw'r cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 18 mewn perthynas â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Paul Davies.
Cynnig NDM6767 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 18—Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Gorffennaf 2018.
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn atodiad B i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.