Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae'n bleser cael dilyn y Cadeirydd i gyflwyno, rwy'n credu, yn gynhwysfawr ac yn gadarn iawn yr hyn sydd, rwy'n credu—rhaid i ni dderbyn—yn adroddiad go ddamniol. Ac yn wir, mae'n anodd meddwl am adroddiad pwyllgor mwy damniol nac yn wir adroddiad archwilydd cyffredinol a ddaeth gydag ef sy'n fwy damniol. Ar yr wyneb, fel y dywedodd, mae'r Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion i gyd, ond pan edrychwch yn iawn ar y manylion, wrth gwrs, mae yna amheuaeth o hyd a yw'r gwirionedd sy'n sail i'r feirniadaeth wedi gwneud argraff ac yn mynd i newid yr arferion a ddatgelwyd gennym.
Rwyf mewn penbleth. Y £100,000 yn y cyfrif ysgrow, hynny yw, beth, nid oedd y Llywodraeth yn gwybod? Roeddent wedi anghofio? Un posibilrwydd, wrth gwrs, yw mai blaendal nad oedd yn ad-daladwy ydoedd, opsiwn i bob pwrpas, a gweld bod yr opsiwn felly'n ddi-rym oherwydd bod y Llywodraeth wedi penderfynu dirwyn y prosiect i ben. Mae hynny'n bosibl, ond byddent wedi gwybod, does bosib, oherwydd byddai hynny wedi'i gynnwys yn y papurau ar y pryd. Felly, efallai y gall yr Ysgrifennydd Cabinet ein goleuo ar y pwynt hwnnw.
Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei ddatgelu, rwy'n credu, yw diffygion sylfaenol yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn gwneud ei phenderfyniadau, a'r tryloywder, sy'n ffinio ar anhryloywder, sy'n ffinio ar—i ddefnyddio'r ymadrodd hwnnw—ddiffyg ystyriaeth rhyfygus ynghylch y gwirionedd ar adegau. Mae'n rhaid iddo fod yn onest am hynny. Mae'r penderfyniadau gwael hyn yno, wrth wraidd y ffordd y mae'r Llywodraeth yn mynd i'r afael â llu o fuddsoddiadau, bach a mawr, sydd, wrth gwrs, wedi bod yn ganolog iawn i waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Hoffwn ganolbwyntio ar un o'r ymatebion i'r argymhellion oherwydd, fel y dywedodd y Cadeirydd, yr hyn sy'n allweddol mewn gwirionedd, yw beth sy'n digwydd yn awr, mewn ymateb. Os ydym yn parhau i wneud yr un camgymeriadau, ni fyddwn byth yn dod allan o'r mathau o drafferthion rydym ynddynt mewn perthynas â'r prosiect hwn.
Dywed y Llywodraeth, mewn ymateb i argymhelliad 13, am y ddyled sydd heb ei thalu i'r Llywodraeth gan Gwmni Datblygu Blaenau'r Cymoedd, ei bod yn ymwybodol o nifer o gynigion i atgyfodi'r prosiect, ac mae'n ymwybodol yn arbennig, o hyrwyddwr newydd y mae'n dweud ei fod wedi gofyn i Lywodraeth Cymru eu rhyddhau o'r atebolrwydd sy'n gysylltiedig â'r benthyciad hwnnw o £7.3 miliwn. Nawr, credaf fod angen inni wybod mwy am hynny, onid oes?
Credaf y dylai Ysgrifennydd y Cabinet ddefnyddio'r cyfle hwn i ddweud mwy wrthym am y cynnig hwnnw, oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'n gynnig gan fuddsoddwyr neu ddatblygwyr eiddo tirol sy'n gweithio yn yr Unol Daleithiau, Rocksteady Partners—enw rhyfedd, fe gredaf, ar gwmni buddsoddi. Rwy'n credu eu bod yn protestio gormod, o bosibl. Mae Rocksteady, sy'n rhestru casinos mawr fel un o'i feysydd profiad allweddol ac yn wir, sydd ag un o'i nifer o swyddfeydd, mae'n deg dweud, yn Las Vegas, Nevada, yn hyrwyddo cynnig sy'n cyfuno'r trac rasio gyda datblygu cyrchfan hamdden ac mae'n cynnwys casino fel rhan o'i gynnig.
Mae'r Llywodraeth, yn ei hymateb, yn dweud, yn gyfnewid am eu rhyddhau o'r rhwymedigaeth, mai'r quid pro quo yw bod Llywodraeth Cymru yn cael cyfran ecwiti. A yw Llywodraeth Cymru o ddifrif yn dweud ei bod yn agored i unrhyw gynnig a fyddai'n golygu ei bod hi, ac felly'r cyhoedd yng Nghymru, yn dal cyfran ecwiti mewn casino yn un o'r rhannau tlotaf o Gymru? Hynny yw, mae'n gwbl annerbyniol y gellid ystyried hynny fel cynnig hyd yn oed. Felly, a all Ysgrifennydd y Cabinet, pan fydd yn codi i gyfrannu at y ddadl hon, gadarnhau mai'r hyrwyddwr newydd y mae'n sôn amdano yw Rocksteady Partners?
Y gwir mwy, rwy'n meddwl, a ddatgelwyd yma, yw pa mor echrydus o wael yr ydym am ymdrin â phrosiectau mawr. Rydym yn gwegian, mewn gwirionedd, o un prosiect sy'n creu newid sylfaenol i'r llall, ac ychydig iawn ohonynt sy'n cyflawni unrhyw beth. LG Semicon, Legend Court, Valleywood, Pinewood, nawr, wrth gwrs, Sain Tathan a'r morlyn llanw—rhesymau gwahanol dros fethiant y prosiectau hyn, ond mae'r map o Gymru yn frith o sbwriel breuddwydion briw, a rhaid inni dorri'r cylch hwnnw. Ceir rhai eithriadau: campws arloesedd bae Abertawe, Celtic Manor, y ganolfan lled-ddargludyddion cyfansawdd newydd. Y gwahaniaeth yw pan fyddwn yn penderfynu creu rhywbeth ein hunain yn hytrach na dibynnu ar weithredwyr allanol, pa un a ydynt wedi'u lleoli yn Nevada ai peidio. Bydd hi bob amser yr un fath oni bai ein bod ni'n mynd y tu ôl i'r llyw. Os na wnawn hynny, ni chyrhaeddwn unman, a charwn apelio ar Lywodraeth Cymru: mae angen inni edrych ar adeiladu ein gallu i gyflawni prosiectau mawr, oherwydd yr hyn a ddatgelwyd yn hwn yw nad oes gan Lywodraeth Cymru mo'r sgiliau na'r profiad i wneud hynny ar hyn o bryd.