Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ni chafodd erioed ei wneud yn glir i ni, fel pwyllgor, pam y gwnaed y penderfyniad hwn. Ai oherwydd mater technegol yn ymwneud ag a fyddai'r prosiect ar y fantolen ai peidio? Neu rywbeth arall? Canfuom ei fod yn ymwneud â nifer o faterion ac mae'n ddirgelwch o hyd sut y bu i Lywodraeth Cymru, a oedd wedi treulio cryn amser ac wedi gwario arian sylweddol ar y prosiect, ei ddirwyn i ben yn y pen draw ar sail yr hyn a ymddangosai fel trafodaeth 20 munud yn y Cabinet. Mae'r cwestiynau hyn yn dal i fod heb eu hateb.
Felly, beth y gallwn ei ddysgu o hyn i gyd? Wel, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn dangos rheolaeth effeithiol ar arian cyhoeddus Cymru ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mewn ymateb i adroddiadau olynol yn y blynyddoedd diweddar gan yr archwilydd cyffredinol, a chan y pwyllgor hwn a a'i ragflaenwyr, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu sicrwydd inni ar sawl achlysur fod gwersi wedi'u dysgu. Ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi. Bwriedir i'n gwaith craffu fod yn adeiladol a'n nod yw sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu'n well er budd pawb, yn enwedig y trethdalwr, ond rhaid i'r Llywodraeth ddysgu a datblygu o'n hadroddiadau er mwyn i'n gwaith craffu fod yn effeithiol.
Yn sicr nid ydym yn disgwyl gweld camgymeriadau sylfaenol, hepgoriadau a chrebwyll gwael yn cael eu hailadrodd ar ran swyddogion fel y daeth yn amlwg o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Yn anffodus, mae stori drist Cylchffordd Cymru yn amlygu diffygion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phrosiectau buddsoddi ar raddfa fawr. Cymerodd y prosiect penodol hwn saith i wyth mlynedd i ddatblygu cyn cael ei ddirwyn i ben. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn llawer mwy doeth wrth wneud penderfyniadau. Mae angen iddi fod yn gyflymach ac mae angen iddi fod yn fwy hyblyg. Fel arall, ceir risg i Gymru yn ehangach fel lleoliad ar gyfer buddsoddi. Nid yw ein beirniadaeth wedi'i chyfeirio tuag at unigolion, ond yn hytrach tuag at fethiant yn y system ehangach ac mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny. Mae angen buddsoddiad ar Gymru ac mae angen gallu mewnol i wneud penderfyniadau cyflym ynglŷn â phrosiectau buddsoddi ar raddfa fawr.
Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gryfhau ei mesurau rheoli i sicrhau gwerth am arian cyhoeddus mewn perthynas â deall cysylltiadau rhwng y rhai sy'n derbyn cyllid a'u contractwyr a'u cyflenwyr; fod ariannu pryniant FTR Moto Ltd yn cael ei ddefnyddio fel astudiaeth achos at ddibenion hyfforddiant mewnol gan Lywodraeth Cymru, o ystyried y penderfyniadau anghyffredin iawn a wnaed ar lefel swyddogol, y diffyg dogfennau cysylltiedig a methiant ymddangosiadol swyddogion i geisio cael y cymeradwyaethau angenrheidiol gan eu Gweinidog priodol; ac yr atgoffir holl Ysgrifenyddion y Cabinet, Gweinidogion ac uwch-weision sifil Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r gofynion yn y codau gweinidogol a chodau'r gwasanaeth sifil ar gyfer sicrhau cywirdeb yr holl wybodaeth a gaiff ei rhyddhau.
Rydym yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor. Fodd bynnag, mewn mannau, mae'r derbyniad i'w weld yn cuddio bwriad y Llywodraeth ac wedi'i guddio yn y manylion cysylltiedig, mae'n ymddangos nad yw'r argymhellion wedi cael eu derbyn yn yr ysbryd y'u gwnaethpwyd. Mae hon wedi bod yn thema gyson mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i'n hargymhellion, ac rydym wedi mynegi'r pryderon hyn o'r blaen, a hynny'n gyson.
Mewn perthynas â'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad ar Gylchffordd Cymru, rydym yn credu bod ymateb Llywodraeth Cymru'n ddiffygiol mewn nifer o fannau allweddol. Wrth dderbyn argymhelliad 1, nid yw Llywodraeth Cymru ond wedi derbyn, mewn amgylchiadau penodol, fod angen iddi gryfhau ei mesurau rheoli er mwyn sicrhau gwerth am arian. Rydym yn teimlo bod angen gwneud rhagor i sicrhau bod swyddogion yn arfer crebwyll proffesiynol, ac roedd ein hargymhelliad yn canolbwyntio ar yr angen am well dealltwriaeth o'r berthynas rhwng y rhai sy'n derbyn cyllid a'u contractwyr a'u cyflenwyr. Roeddem am weld diwedd ar naïfrwydd masnachol cyson Llywodraeth Cymru, ac nid ymdrinnir â hyn yn yr ymateb i'n hargymhelliad, nac yn wir yn yr ymatebion i adroddiadau blaenorol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus sydd wedi galw am ddysgu gwersi.
Mae'r pwyllgor yn pryderu hefyd ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 3 o'n hadroddiad, lle rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cadarnhau i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei bod wedi adfer y £100,000 o'r cyfrif ysgrow ers hynny. Nid yw'r ymateb yn ei gwneud yn glir pa bryd y dechreuodd camau i adfer y cronfeydd hyn, neu yn wir, a oedd unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i adfer yr arian tan iddi gael ei hysgogi i wneud hynny gan ein hargymhelliad. Mae hon yn enghraifft dda o naïfrwydd masnachol ymddangosiadol Llywodraeth Cymru. Pan wnaed y penderfyniad i beidio â buddsoddi, dylai adfer yr arian fod wedi digwydd fel mater o drefn, a dylai'r ymateb i'n hargymhelliad fod wedi dweud yn syml, 'Rydym wedi adfer yr arian hwn.'
Yn olaf, mewn perthynas ag argymhelliad 6, mae ymateb Llywodraeth Cymru yn mynegi bod ganddi brosesau cadarn ar waith eisoes ar gyfer ymdrin â phryderon am gyfarwyddiadau gan swyddogion awdurdodi i wneud taliadau: maent yn abl ac yn hyderus i ddwyn y pryderon i sylw'r uwch-reolwr annibynnol. Nid ydym wedi ein hargyhoeddi, a byddem yn croesawu mwy o wybodaeth gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â faint o achosion a fu yn ystod y blynyddoedd diwethaf lle y mynegwyd pryderon fel y rhain, a rhyw eglurhad ynglŷn â sut y mae'r prosesau hyn wedi profi'n gadarn. Edrychaf ymlaen at wrando ar y ddadl heddiw. Diolch.