Part of the debate – Senedd Cymru am 5:20 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Credaf fod yna gwestiwn dilys yn codi ynglŷn ag a oedd angen ardaloedd menter mewn rhai o'r ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig Caerdydd, lle y clywodd y pwyllgor fod yr ardal yn gwthio yn erbyn drws agored mewn termau economaidd. Ar y llaw arall, clywodd y pwyllgor gan gadeirydd bwrdd ardal fenter Eryri fod y bwrdd wedi sylweddoli'n fuan iawn eu bod yn annhebygol iawn o allu cyflawni effeithiau tymor byr sylweddol ar dwf neu swyddi. Yn lle hynny, newidiodd eu ffocws i ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer datblygu'r ardaloedd yn hirdymor, a chlywodd y pwyllgor fod nifer o ardaloedd eraill mewn sefyllfa debyg hefyd.
Roeddem yn teimlo nad oedd y newid yn y ffocws i rai o'r ardaloedd yn cael ei gyfleu'n eang, ac efallai'n fwy pwysig, ni châi ei adlewyrchu yn y dangosyddion perfformiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cychwyn ar lefel Cymru gyfan. Mae adeiladu ar waith y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Menter a Busnes y pedwerydd Cynulliad wedi gwthio Llywodraeth Cymru i ryddhau gwybodaeth fanwl ar berfformiad pob ardal o ran creu swyddi—yr amcan a nodwyd, wrth gwrs—ynghyd â gwybodaeth fanwl ar wariant Llywodraeth Cymru ar bob ardal. Croesawodd y pwyllgor benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ryddhau'r wybodaeth fwyaf manwl o'r natur hon hyd yn hyn, er bod hynny ar ôl y sesiwn dystiolaeth olaf.
Mae ein hadroddiad yn datgan:
'Dyma enghraifft, dros y pump neu’r chwe blynedd diwethaf, o’r modd y gall rhannu gwybodaeth yn dameidiog ac yn achlysurol gydag Aelodau’r Cynulliad a’r Pwyllgorau atal proses graffu glir a gwrthrychol rhag digwydd, a hefyd creu argraff o dangyflawni ac aneffeithlonrwydd. Ni ddylai fod mor anodd â hyn, na chymryd cymaint o amser, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth er mwyn inni allu deall yn iawn berfformiad a gwerth am arian un o’i pholisïau economaidd blaenllaw, a chraffu’n briodol arno. Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i’r feirniadaeth adeiladol hon wrth lunio a gweithredu polisïau yn y dyfodol.'
Fel pwyllgor, cytunwn fod rhinwedd yn y dull rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd, a bod y pwyslais ar gynorthwyo ardaloedd difreintiedig yn beth da, a dylai barhau. Fodd bynnag, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, ar gyfer pob rhanbarth ac ardal leol unigol, fod nodau unrhyw ddulliau rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd yn y dyfodol yn glir ac yn realistig, yn ddigon manwl i ganiatáu dealltwriaeth o'r heriau a wynebir, yn ogystal â data monitro manwl, agored, tryloyw a phriodol. Cafodd argymhelliad 6, ynghyd â dau arall a oedd hefyd â'r nod o gynyddu tryloywder a gwella argaeledd data monitro, eu derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, a rhaid aros i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhellion hyn yn ymarferol.
Roedd y pwyllgor yn cydnabod ymrwymiad, ysgogiad a phroffesiynoldeb pawb a oedd yn gysylltiedig â byrddau'r ardaloedd menter. Roedd pob un o'r cadeiryddion yn hyrwyddo'u hardaloedd yn bwerus ac yn angerddol. Fodd bynnag, teimlai'r pwyllgor ar y cyfan nad yw'r cysyniad o ardal fenter wedi profi ei hun hyd yma yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth a glywsom yn awgrymu mai'r ardaloedd sydd wedi cyflawni yn erbyn nodau datganedig Llywodraeth Cymru oedd y rhai a oedd eisoes yn y sefyllfa orau i wneud hynny—er enghraifft, Canol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy—ac nad oedd mentrau ardaloedd menter penodol ond wedi chwarae rhan fach yn eu llwyddiant.
Gwelodd ardaloedd eraill a ddechreuodd o fan gwahanol iawn fod y cymhellion o ryw fudd. Cydnabu'r pwyllgor fod yr ardaloedd hyn, megis Ynys Môn, Eryri a Glynebwy, yn dal i fod ar daith, ac rydym wedi canolbwyntio ar roi'r blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer y tymor hwy. Daethom i'r casgliad nad yw amcanion gwreiddiol y polisi ardaloedd menter i greu swyddi a thwf wedi eu cyflawni ym mhobman. Ar yr un pryd, roeddem yn cydnabod bod y rhain yn afrealistig ar y cychwyn yn ôl pob tebyg, o ystyried mannau cychwyn amrywiol pob ardal fenter.
Defnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ymddangosiad gerbron y pwyllgor i gyhoeddi cyfres o newidiadau i'r ffordd y bydd yr ardaloedd menter yn gweithredu. Aeth ati i fapio dyfodol, ac rydym yn cefnogi hynny'n rhannol, ond ceir ardaloedd lle y credwn y dylai ailystyried. Mae rhywfaint o apêl i uno arfaethedig ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri. Mae'r ddwy'n dibynnu ar ddatblygiadau niwclear y tu allan i reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ac mae'r ddwy wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn pryderu bod perygl y bydd yr uno yn colli'r ffocws penodol ar yr heriau gwahanol iawn y mae pob ardal yn eu hwynebu. Mae ffordd arall ymlaen yn bosibl.
Yn ei ymateb, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn fater o amseru. Gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn egluro beth yn union y mae hynny'n ei olygu. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd yna byth amser cywir ar gyfer yr uno hwn. Mae'n ymddangos i mi y gallai gadael i'r ddwy barhau, yn y tymor byr o leiaf, ganiatáu i'r ddau fwrdd gyflawni eu hamcanion mewn ffordd gliriach a mwy effeithiol. Ar gyfer ardal fenter Port Talbot, mae ein hadolygiad wedi dod yn rhy fuan i fod yn ystyrlon. Iddynt hwy, rydym yn gobeithio bod cymryd rhan yn y broses hon wedi canolbwyntio meddyliau ar sut y maent yn adrodd ar eu llwyddiannau a'u huchelgeisiau wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau. Edrychaf ymlaen at ddadl dda y prynhawn yma ymhlith yr Aelodau ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n hadroddiad heddiw.