8. Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?

– Senedd Cymru am 5:17 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:17, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Eitem 8 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Ardaloedd Menter: Mynd Ymhell?' a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor, Russell George, i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6768 Russell George

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei ymchwiliad, 'Ardaloedd Menter: Mynd ymhell?', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:18, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae Cadeirydd y pwyllgor newydd golli ei bapurau i gyd ar lawr mewn trefn wahanol. Diolch byth, mae'r nodiadau wedi'u rhifo.

Rwy'n cynnig y cynnig y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad byr i'r ardaloedd menter yng Nghymru. Roedd pum mlynedd ar ôl sefydlu'r ardaloedd i'w gweld yn adeg synhwyrol ar gyfer pwyso a mesur. Bum mlynedd yn ôl, dywedwyd wrthym y byddai ardaloedd menter yn hybu swyddi a thwf. A ydynt wedi gwneud hynny? Yn anffodus, nid 'do' neu 'naddo' syml yw'r ateb. Clywodd ein hymchwiliad dystiolaeth gan chwech o gadeiryddion byrddau'r wyth ardal fenter a chan Ysgrifennydd y Cabinet. Hefyd, teithiodd tri aelod o'r pwyllgor i Eryri ac Ynys Môn i gyfarfod â chadeiryddion y byrddau hynny.

Mae adroddiad y pwyllgor yn gwneud 10 o argymhellion, ac mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwech yn llwyr, a phedwar mewn egwyddor—sydd i'w gweld yn thema y prynhawn yma i nifer o adroddiadau pwyllgor lle y cafodd argymhellion eu derbyn mewn egwyddor. Dechreuodd y polisi ardaloedd menter presennol yng Nghymru fel ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ym mis Mawrth 2011 ynglŷn â chreu ardaloedd menter yn Lloegr. Roedd Llywodraeth Cymru wedi creu saith ardal fenter yng Nghymru erbyn mis Ionawr 2012, a phob un yn datgan amcanion i greu swyddi a thwf. Roedd yr ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru yn adlewyrchu dulliau amrywiol o weithredu. Dewiswyd rhai, megis Caerdydd a Glannau Dyfrdwy, i fanteisio ar gryfderau economaidd amrywiol. Bwriadwyd i eraill, fel Ynys Môn ac Eryri, fynd i'r afael â heriau lleol sylweddol.

Photo of Russell George Russell George Conservative 5:20, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod yna gwestiwn dilys yn codi ynglŷn ag a oedd angen ardaloedd menter mewn rhai o'r ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig Caerdydd, lle y clywodd y pwyllgor fod yr ardal yn gwthio yn erbyn drws agored mewn termau economaidd. Ar y llaw arall, clywodd y pwyllgor gan gadeirydd bwrdd ardal fenter Eryri fod y bwrdd wedi sylweddoli'n fuan iawn eu bod yn annhebygol iawn o allu cyflawni effeithiau tymor byr sylweddol ar dwf neu swyddi. Yn lle hynny, newidiodd eu ffocws i ymchwilio i'r cyfleoedd ar gyfer datblygu'r ardaloedd yn hirdymor, a chlywodd y pwyllgor fod nifer o ardaloedd eraill mewn sefyllfa debyg hefyd.

Roeddem yn teimlo nad oedd y newid yn y ffocws i rai o'r ardaloedd yn cael ei gyfleu'n eang, ac efallai'n fwy pwysig, ni châi ei adlewyrchu yn y dangosyddion perfformiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cychwyn ar lefel Cymru gyfan. Mae adeiladu ar waith y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Menter a Busnes y pedwerydd Cynulliad wedi gwthio Llywodraeth Cymru i ryddhau gwybodaeth fanwl ar berfformiad pob ardal o ran creu swyddi—yr amcan a nodwyd, wrth gwrs—ynghyd â gwybodaeth fanwl ar wariant Llywodraeth Cymru ar bob ardal. Croesawodd y pwyllgor benderfyniad Ysgrifennydd y Cabinet i ryddhau'r wybodaeth fwyaf manwl o'r natur hon hyd yn hyn, er bod hynny ar ôl y sesiwn dystiolaeth olaf.

Mae ein hadroddiad yn datgan:

'Dyma enghraifft, dros y pump neu’r chwe blynedd diwethaf, o’r modd y gall rhannu gwybodaeth yn dameidiog ac yn achlysurol gydag Aelodau’r Cynulliad a’r Pwyllgorau atal proses graffu glir a gwrthrychol rhag digwydd, a hefyd creu argraff o dangyflawni ac aneffeithlonrwydd. Ni ddylai fod mor anodd â hyn, na chymryd cymaint o amser, i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth er mwyn inni allu deall yn iawn berfformiad a gwerth am arian un o’i pholisïau economaidd blaenllaw, a chraffu’n briodol arno. Mae’r Pwyllgor yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw dyledus i’r feirniadaeth adeiladol hon wrth lunio a gweithredu polisïau yn y dyfodol.'

Fel pwyllgor, cytunwn fod rhinwedd yn y dull rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd, a bod y pwyslais ar gynorthwyo ardaloedd difreintiedig yn beth da, a dylai barhau. Fodd bynnag, roeddem yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, ar gyfer pob rhanbarth ac ardal leol unigol, fod nodau unrhyw ddulliau rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd yn y dyfodol yn glir ac yn realistig, yn ddigon manwl i ganiatáu dealltwriaeth o'r heriau a wynebir, yn ogystal â data monitro manwl, agored, tryloyw a phriodol. Cafodd argymhelliad 6, ynghyd â dau arall a oedd hefyd â'r nod o gynyddu tryloywder a gwella argaeledd data monitro, eu derbyn mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru, a rhaid aros i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r argymhellion hyn yn ymarferol.

Roedd y pwyllgor yn cydnabod ymrwymiad, ysgogiad a phroffesiynoldeb pawb a oedd yn gysylltiedig â byrddau'r ardaloedd menter. Roedd pob un o'r cadeiryddion yn hyrwyddo'u hardaloedd yn bwerus ac yn angerddol. Fodd bynnag, teimlai'r pwyllgor ar y cyfan nad yw'r cysyniad o ardal fenter wedi profi ei hun hyd yma yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth a glywsom yn awgrymu mai'r ardaloedd sydd wedi cyflawni yn erbyn nodau datganedig Llywodraeth Cymru oedd y rhai a oedd eisoes yn y sefyllfa orau i wneud hynny—er enghraifft, Canol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy—ac nad oedd mentrau ardaloedd menter penodol ond wedi chwarae rhan fach yn eu llwyddiant.

Gwelodd ardaloedd eraill a ddechreuodd o fan gwahanol iawn fod y cymhellion o ryw fudd. Cydnabu'r pwyllgor fod yr ardaloedd hyn, megis Ynys Môn, Eryri a Glynebwy, yn dal i fod ar daith, ac rydym wedi canolbwyntio ar roi'r blociau adeiladu yn eu lle ar gyfer y tymor hwy. Daethom i'r casgliad nad yw amcanion gwreiddiol y polisi ardaloedd menter i greu swyddi a thwf wedi eu cyflawni ym mhobman. Ar yr un pryd, roeddem yn cydnabod bod y rhain yn afrealistig ar y cychwyn yn ôl pob tebyg, o ystyried mannau cychwyn amrywiol pob ardal fenter.

Defnyddiodd Ysgrifennydd y Cabinet ei ymddangosiad gerbron y pwyllgor i gyhoeddi cyfres o newidiadau i'r ffordd y bydd yr ardaloedd menter yn gweithredu. Aeth ati i fapio dyfodol, ac rydym yn cefnogi hynny'n rhannol, ond ceir ardaloedd lle y credwn y dylai ailystyried. Mae rhywfaint o apêl i uno arfaethedig ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri. Mae'r ddwy'n dibynnu ar ddatblygiadau niwclear y tu allan i reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru ac mae'r ddwy wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn pryderu bod perygl y bydd yr uno yn colli'r ffocws penodol ar yr heriau gwahanol iawn y mae pob ardal yn eu hwynebu. Mae ffordd arall ymlaen yn bosibl.

Yn ei ymateb, awgrymodd Ysgrifennydd y Cabinet ei fod yn fater o amseru. Gobeithiaf y bydd y ddadl hon yn egluro beth yn union y mae hynny'n ei olygu. Nid wyf yn argyhoeddedig y bydd yna byth amser cywir ar gyfer yr uno hwn. Mae'n ymddangos i mi y gallai gadael i'r ddwy barhau, yn y tymor byr o leiaf, ganiatáu i'r ddau fwrdd gyflawni eu hamcanion mewn ffordd gliriach a mwy effeithiol. Ar gyfer ardal fenter Port Talbot, mae ein hadolygiad wedi dod yn rhy fuan i fod yn ystyrlon. Iddynt hwy, rydym yn gobeithio bod cymryd rhan yn y broses hon wedi canolbwyntio meddyliau ar sut y maent yn adrodd ar eu llwyddiannau a'u huchelgeisiau wrth iddynt ddatblygu eu cynlluniau. Edrychaf ymlaen at ddadl dda y prynhawn yma ymhlith yr Aelodau ac edrychaf ymlaen at ymateb Ysgrifennydd y Cabinet i'n hadroddiad heddiw.

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:26, 11 Gorffennaf 2018

Mae'n bleser i ddilyn Cadeirydd y pwyllgor. Mae'n anodd i wybod beth i ddweud ynglŷn â'r polisi yma, achos mae'n bolisi oedd ag amcanion cymysg mewn ardaloedd cymysg, ac yn sicr mae'r canlyniadau wedi bod yn gymysg iawn, fel roedd y Cadeirydd yn cyfeirio atyn nhw. At ei gilydd, fe allwn ni wahaniaethu rhwng ardaloedd menter a oedd wedi cael eu creu fel canlyniad i gyfleoedd penodol, ac wedyn ardaloedd menter a oedd wedi cael eu creu fel adwaith i grisis economaidd. Rhaid dweud, ar gyfer y saith ardal, ni allwn ni ddim dweud gydag unrhyw sicrwydd fod y polisi yma wedi llwyddo yn un o'r ddwy achos yna, a dweud y gwir. Yn yr achosion fel Canol Caerdydd, mae'n anodd iawn, er bod y canlyniadau o ran creu swyddi ac yn y blaen yn well—mae'n anodd iawn i briodoli hynny i'r ardaloedd menter. Wedyn, wrth gwrs, yn yr ardaloedd eraill, mae'r ffigurau yn siarad drostyn nhw eu hunain. 

Beth sydd yn wir—ac mae'r Cadeirydd yn iawn yn hynny o beth—yw bod yr ardaloedd menter, fel unrhyw ymyriad economaidd lleol sydd yn esgor ar greu partneriaethau, yn medru creu brwdfrydedd a momentwm, ac fe welsom ni hynny yn ein hymweliad ni, er enghraifft, i ardal menter Ynys Môn. Ond, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn ai'r polisi yma a'r incentives ac yn y blaen sy'n gysylltiedig ag ardaloedd menter sydd wedi creu hynny, neu a fyddai modd adlewyrchu neu greu yr un fath o effaith a momentwm economaidd lleol trwy ddulliau eraill.

Rhaid dweud, yr hyn rwy'n credu sy'n glir oedd bod yr ardaloedd menter fel polisi wedi cael eu creu bron â bod yn adwaith i'r datblygiad dros y ffin yn Lloegr, a chreu y partneriaethau economaidd lleol oedd yn bodoli yn bobman. Rhaid dweud, rwy'n credu ein bod ni wedi gweld, dros flynyddoedd maith nawr, methiant yng Nghymru i ddod lan â pholisi economaidd gofodol, naill ai ar y lefel leol neu ar y lefel rhanbarthol. Rwy'n credu ein bod ni'n dal i ymrafael â hynny, er bod yna bwyslais mawr yn strategaeth economaidd newydd y Llywodraeth ar ranbarthedd, ar bolisi gofodol. Nid wyf yn credu ein bod ni wedi ffeindio'r cyfrwng cywir ar gyfer hynny,  ac, wrth gwrs, mae'r newidiadau fydd yna ar gyfer yr ardaloedd menter sydd wedi cael eu cyhoeddi yn adlewyrchu hynny. Wrth edrych ymlaen, rydw i'n credu mai un o'r prif wersi ydy i ffocysu ar incentives penodol ar gyfer yr ardaloedd—ar gyfer maint yr ardaloedd menter. 

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 5:30, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Gan feddwl yn benodol am senario ôl-Brexit, roedd y dystiolaeth a glywsom gan gadeirydd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a soniai am y potensial o borthladdoedd rhydd ac ardaloedd economaidd rhydd yn ddiddorol iawn, oherwydd, mewn gwirionedd, dyna syniad polisi lle y ceir tystiolaeth gref yn fyd-eang ei fod yn gweithio. Mae'n llawer mwy penodol na'r syniad bras o ardal fenter. Yn arbennig, beth bynnag sy'n digwydd dros yr ychydig ddyddiau ac wythnosau nesaf, os cawn ein hunain mewn sefyllfa 'dim bargen' yn y pen draw, gallai porthladdoedd rhydd fod yn offeryn pwysig iawn i lawer o rannau o Gymru, gyda rhai ohonynt yn perthyn i'r ardaloedd menter. Byddai'n lliniaru rhywfaint o'r difrod economaidd gwaethaf a allai ein hwynebu.

Felly, buaswn yn annog Llywodraeth Cymru i edrych yn rhagweithiol ar hyn. Mae sawl un o feiri gogledd Lloegr wedi datblygu cynigion manwl ar gyfer porthladdoedd rhydd. Maent yn lobïo Llywodraeth y DU yn weithredol iawn, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, pe ceid dynodiad gan Lywodraeth y DU, dylai Cymru gael ei chyfran deg. Mae angen inni wneud yn well na hynny. Mae angen inni fod yn datblygu'r achosion busnes yn awr. Ac wrth gwrs, gallai porthladdoedd rhydd gynnwys meysydd awyr—gallai gynnwys Maes Awyr Caerdydd, gallai gynnwys Airbus, wrth gwrs, lle y gallem ddynodi bod gan safle Airbus ym Mrychdyn ei borthladd rhydd ei hun. Mae ganddo'r maes awyr, wrth gwrs, ac mae'n ei ddefnyddio i gludo ei adenydd i Toulouse. Gallai dynodi'r safle Airbus fel porthladd rhydd fod yn ffordd o ymdrin ag unrhyw niwed economaidd o ganlyniad i bolisïau gan Lywodraeth y DU.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 5:32, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor a'r tîm cymorth am lunio'r hyn y credaf ei fod yn adroddiad diddorol a defnyddiol. Yn groes i'r hyn y mae'r pennawd yn ei awgrymu o bosibl, roedd yr ymchwiliad yn gyfle i ailedrych ar wyth ardal fenter Cymru, yn hytrach na mynd i ble nad oedd unrhyw un wedi bod o'r blaen. Drwy wneud hynny, roeddem yn gallu asesu eu cynnydd hyd yma a helpu i egluro'r ffordd ymlaen, rwy'n gobeithio.

Rwyf am gyfyngu fy mhwyntiau y prynhawn yma i brosiect Dyfrffordd y Ddau Gleddau, ac mae'r prif ffigurau yn hynod o galonogol, gyda mwy na 1,000 o swyddi wedi'u creu, eu diogelu neu eu cefnogi drwy'r cymorth a roddwyd, ac mae hynny'n newyddion rhagorol. Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau i ni, bydd bwrdd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn parhau am dair blynedd arall, hyd at fis Gorffennaf 2021, a'r math hwnnw o sefydlogrwydd sy'n galluogi'r math o gynllunio strategol sy'n sail i lwyddiant y model ardal fenter o ddatblygu economaidd.

Pan roddodd cadeirydd ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau dystiolaeth i ni ym mis Ionawr, gofynnodd am waith penodol—ac rwy'n mynd i'w ailadrodd—i edrych ar botensial porthladdoedd rhydd ar ôl Brexit. Dyna oedd argymhelliad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol hefyd, pan ddaeth i ben â'i waith ar borthladdoedd yn yr ymchwiliad Brexit yr haf diwethaf. A gwn ei fod wedi'i grybwyll eisoes, ond rwyf am ailadrodd hynny.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi mynd ati'n rhagweithiol i sefydlu tîm porthladdoedd dynodedig gyda'r Llywodraeth, ac yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor cadarnhaodd ei fod wedi comisiynu gwaith penodol mewn perthynas â photensial porthladdoedd rhydd, a chynnig unigryw ar gyfer Cymru ar ôl Brexit. Tybed a yw'n gallu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny yma heddiw.

Os caf symud ymlaen at ddatblygiad arall, y parth arddangos ynni newydd—gwerthwyd safle Waterstone ac mae'r cwmni'n ceisio caniatâd cynllunio i'w droi'n ganolfan rhagoriaeth ynni adnewyddadwy, ac rwy'n siŵr ei fod yn deilwng o ystyriaeth ddifrifol. Mae ganddo botensial ar gyfer swyddi, hyfforddiant a mewnfuddsoddiad i orllewin Cymru, ond hefyd i'r economi ehangach. Ac yn sgil ffiasgo morlyn llanw Abertawe, credaf ei bod yn hanfodol fod Cymru a Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiectau ynni gwyrdd o'r fath a ddatblygwyd yng Nghymru, prosiectau na allwn eu hymddiried i'r Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan, mae'n amlwg.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:35, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Un o'r ffactorau mwyaf diddorol i ddeillio o waith craffu'r pwyllgor ar yr ardaloedd menter oedd y gwahaniaeth rhyngddynt. Roedd ardal fenter Glannau Dyfrdwy ac ardal fenter Caerdydd wedi datblygu'n dda eisoes yn eu sectorau eu hunain, tra bod Ynys Môn, Eryri a Glynebwy yn dechrau o'r dechrau i bob pwrpas, gyda Phort Talbot yn dod iddi'n hwyr yn y dydd. Felly rhaid inni fod yn ochelgar iawn yn ein dadansoddiad o lwyddiant un ardal yn erbyn y llall. Ffactor arall sy'n rhaid inni ei ystyried yw diffyg manylder cymharol y ffigurau a roddwyd yn y lle cyntaf, ar gyfer y gost fesul swydd a grëwyd. Er enghraifft, awgrymwyd bod Glynebwy wedi derbyn £94 miliwn i sicrhau 390 o swyddi'n unig, neu £241,000 ar gyfer pob swydd. Mae'r ffigurau hyn yn gamarweiniol iawn, gan fod dadansoddiad y Llywodraeth o ble y dyrannwyd arian yn yr ardal fenter, yn rhoi ffigur o £88 miliwn ar gyfer trafnidiaeth i ardal fenter Glynebwy. Gan mai cyfeirio at ymestyn y rheilffordd o safle parc yr ŵyl i ganol y dref oedd hwn yn ei wneud, dylid ei ystyried felly fel gwelliant seilwaith cyffredinol ar gyfer y rhanbarth cyfan, nid ar gyfer yr ardal fenter ei hun. Felly, mae'n gamarweiniol iawn inni gyferbynnu'r ffigur hwn ar gyfer y gost fesul swydd a grëwyd neu a ddiogelwyd â Glannau Dyfrdwy, dyweder, lle'r oedd y gost yn ddim ond £4,822. Felly, a allai Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae'n bwriadu dadansoddi effeithiolrwydd ardaloedd menter yn y dyfodol?

Daeth yn amlwg i'r pwyllgor, ac yn wir i aelodau'r byrddau menter, y byddai'n rhaid diwygio nodau gwreiddiol yr ardaloedd yn sylweddol. Sylweddolodd byrddau'r rhan fwyaf o'r ardaloedd y byddai eu rolau'n tyfu i fod yn alluogwyr twf economaidd yn hytrach na chreu swyddi uniongyrchol. Mewn llawer o achosion, maent wedi gosod y seilwaith ffisegol a gofodol ar gyfer caniatáu i'r twf hwn ddigwydd. Cyfeiriodd llawer ohonynt at y ffactor amser sydd ynghlwm wrth sicrhau bod rhai o'r prosiectau hyn yn dwyn ffrwyth. Dywedodd Mark Langshaw, o fwrdd ardal fenter Glynebwy, y dywed Ysgrifennydd y Llywodraeth y bydd yn cau eleni, fod ganddynt nifer o brosiectau yn yr arfaeth a mynegodd ei bryder ynglŷn â phwy fyddai'n cyflawni'r rhain. Felly, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ein hysbysu sut y caiff y prosiectau hyn, ac yn wir y gwaith cyffredinol a wnaed gan yr ardaloedd menter sydd i gau, eu diogelu yn y dyfodol.

Os gofynnwn i ni ein hunain, 'A yw'r ardaloedd menter wedi bod yn llwyddiant?', mae'n anodd dod i gasgliad cadarn oherwydd y gwahanol elfennau sy'n gysylltiedig â'r ardaloedd a'u hamcanion cyffredinol. Efallai mai un o'r pethau cadarnhaol go iawn yw'r mewnbwn a gafwyd gan y byrddau eu hunain, sydd i'w gweld wedi gweithio'n dda gyda llawer o randdeiliaid ac wedi creu rhwydweithiau a mentrau cadarnhaol iawn ar sail leol.

I gloi, credaf fod yn rhaid i bawb ohonom ystyried eu cyflawniad yn erbyn y cwestiwn, 'Beth fyddai wedi digwydd pe na baent wedi'u creu?' Mae yna enghreifftiau o rai, yn enwedig rhai sy'n agos at y ffin â Lloegr, a fyddai wedi bod dan anfantais pe na baent wedi'u gwneud yn ardaloedd menter. Mae Glannau Dyfrdwy, a Glynebwy i ryw raddau, yn enghreifftiau o'r fath. Fodd bynnag, rhaid inni gydnabod bod yr ardaloedd menter hyd at y 2000au yn brosiectau gwahanol iawn i'r rhai yn yr 1980au, ac felly rhaid ystyried eu cyflawniadau neu eu methiannau o bersbectif gwahanol iawn. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn dal i fod yn argyhoeddedig fod gan yr ardaloedd menter a fydd yn aros ran i'w chwarae o hyd yn natblygiad economaidd Cymru, ac a yw'n fodlon rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt er mwyn cyflawni'r hyn a ddylai fod yn nodau diffiniedig eglur ganddynt bellach?

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 5:39, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Fel y mae ein hadroddiad ar hyn yn nodi, ychydig o dystiolaeth a geir i ddangos bod wyth ardal fenter Cymru wedi bod yn drawsnewidiol o ran creu swyddi, ond mae gwahanol ganlyniadau'n anochel oherwydd mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol ac amgylchiadau lleol gwahanol. Mae'n bosibl y gellid ystyried ymddygiad Ysgrifennydd y Cabinet pan fynychodd y pwyllgor ar gyfer ei sesiwn graffu derfynol gyda ni ar yr ymchwiliad hwn, a chyhoeddi ei fwriad i ad-drefnu ardaloedd menter, gan gynnwys uno byrddau Eryri a Môn cyn i ni ei holi a chyn ei fod yn gwybod am ein hargymhellion seiliedig ar dystiolaeth, yn amharchus i'r pwyllgor, yn anffodus. Gan gyfeirio at y gyfatebiaeth â Star Trek yn nheitl Saesneg ein hadroddiad, nid camu'n eofn i fannau lle nad aeth dyn o'r blaen oedd hyn, ond o leiaf mae'n ymddangos ei fod wedi ailfeddwl am yr ad-drefnu yn rhannol bellach.

Wrth dderbyn ein argymhelliad 2, mae'n disgrifio cynnydd rhagorol yn argaeledd gofod llawr masnachol modern. Felly rwy'n ei annog i ailddarllen ein hadroddiad a nodi bod y datganiadau gan dystion yn dweud mai thema gyfredol ymhlith cadeiryddion ardaloedd menter oedd diffyg argaeledd eiddo ar gyfer busnesau a bod yna brinder gofod llawr modern ledled Cymru.

Rwy'n gobeithio y bydd ei ddatganiad y bydd yn gofyn am gyngor gan Fanc Datblygu Cymru er mwyn canfod y potensial ar gyfer cronfa eiddo masnachol yn rhoi sylw i'r dystiolaeth yn ein hadroddiad fod yna brinder unedau yn gyffredinol, ac ar draws Cymru, fod yna, efallai, ac rwy'n dyfynnu, ddau neu dri o adeiladau diwydiannol gwag yn unig, ac ar wahân i 1 filltir sgwâr ein prifddinas, ni cheir datblygiad hapfasnachol mawr yn unman.

Roedd yn anffodus nad yw Ysgrifennydd y Cabinet ond wedi derbyn mewn egwyddor yn unig ein hargymhellion y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd at adroddiadau blynyddol ar yr ardaloedd menter gyda data clir wedi'i ddarparu ar gyfer pob ardal, ac y dylai wneud ei blaenoriaethau ar gyfer pob un o'r ardaloedd menter yn eglur, gan gyhoeddi targedau blynyddol clir.

Mae derbyniad mewn egwyddor Ysgrifennydd y Cabinet i'n hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried ei chynnig i uno byrddau Môn ac Eryri o leiaf yn welliant ar ei safbwynt blaenorol. Mae'n cyfiawnhau hyn drwy ddatgan ei fod wedi cymryd cyngor gan gadeiryddion byrddau cynghori ardaloedd menter Ynys Môn ac Eryri, a chyda'i swyddogion, bydd yn ystyried priodoldeb ac amseru uno'r ddau fwrdd ymhellach. Wel, yr wythnos cyn ei ddatganiad i'r pwyllgor ei fod yn bwriadu uno'r ddau fwrdd, cadeiriais y pwyllgor yng ngogledd-orllewin Cymru pan glywsom dystiolaeth gan y byrddau hyn. Mae'n drueni nad oedd ef hefyd wedi cymryd y dystiolaeth hon cyn cyhoeddi ei fwriad rhy gynnar i'w huno.

Yn Nhrawsfynydd, yn ogystal â chynnydd bwrdd Eryri gyda Chanolfan Awyrofod Eryri yn Llanbedr, clywsom ei fod yn gyfrifol am liniaru'r gostyngiad cynyddol yn y lefelau cyflogaeth lleol yn hen orsaf niwclear Trawsfynydd. Ar nodyn cadarnhaol, clywsom hefyd fod y safle'n ymgeisydd ar gyfer datblygu adweithydd modiwlar bach yn y DU yn y dyfodol. Pwysleisiodd y bwrdd yn gadarn ei angen i barhau mewn bodolaeth, ac yn annibynnol oddi ar Ynys Môn gerllaw, er y byddai'n cadw ac yn datblygu ei gysylltiadau cryf â datblygiadau ar Ynys Môn. Roedd lansiad cytundeb sector niwclear newydd £200 miliwn Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd bythefnos yn ôl yn atgyfnerthu pwysigrwydd hyn, gydag awgrym fod Trawsfynydd yn geffyl blaen ar gyfer datblygu adweithyddion modiwlar uwch, gan rannu hyd at £44 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu, a Pharc Gwyddoniaeth Menai ar Ynys Môn yn lleoliad a ffafrir ar gyfer cyfleuster hydroleg thermol gwerth £40 miliwn. Pan gyfarfuom â bwrdd Ynys Môn, roeddent hwy hefyd yn pwysleisio eu hangen i aros yn annibynnol fel y gallant fwrw ymlaen â'u gwaith ar ardal arddangos ynni llanw Morlais gorllewin Ynys Môn, ar ehangu porthladd Caergybi, ac ar yr orsaf niwclear newydd yn Wylfa Newydd.

Mae adroddiad a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU ac a gyhoeddwyd ym mis Mai 2018 yn cadarnhau manteision economaidd sylweddol posibl ynni ffrwd lanw. Gall Ynys Môn fod yn ganolbwynt i arweinyddiaeth fyd-eang ym maes ynni'r llanw, ac mae cynnig twf gogledd Cymru yn cynnwys cyllid ar gyfer Morlais. Clywsom hefyd y mis diwethaf y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau trafodaethau ffurfiol gyda Hitachi ar ddatblygu ac adeiladu gorsaf niwclear newydd yn Wylfa ar Ynys Môn. Ac fel y dywedodd cadeirydd ardal fenter Ynys Môn, Neil Rowlands, wrth Ysgrifennydd y Cabinet a minnau,

Cyfansoddir y bwrdd o bobl Ynys Môn yn bennaf, ac mae'r safon yn eithriadol o uchel ac yn uniongyrchol gysylltiedig. Mae'n hanfodol fod bwrdd ardal fenter Ynys Môn yn parhau.

Diolch yn fawr.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:44, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates?

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, a gaf fi ddiolch am y cyfle i ymateb i'r ddadl bwysig hon heddiw? Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am ei adroddiad ar ardaloedd menter. Roeddwn yn falch o allu cynorthwyo'r pwyllgor yn ei ymchwiliad, fel roedd cadeiryddion byrddau cynghori'r ardaloedd menter. Roeddwn yn arbennig o falch o weld bod gwaith byrddau cynghori'r ardaloedd menter wedi ei gydnabod mor gadarn yn adroddiad y pwyllgor. Mae'r cadeiryddion a'r byrddau wedi bod yn allweddol, rwy'n credu, wrth sicrhau llwyddiant a chyflawniadau'r rhaglen hyd yn hyn, ac rwyf innau hefyd yn diolch iddynt am eu holl ymdrechion.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 5:45, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor yn nodi fy ymateb manwl i argymhellion yr adroddiad. Rwyf wedi derbyn y 10 argymhelliad yn llawn neu mewn egwyddor, ac rwy'n falch o nodi y gwneir cynnydd da yn erbyn pob un ohonynt. Yn benodol, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am ymestyn lwfansau cyfalaf uwch yng Nghymru am bum mlynedd arall tan fis Mawrth 2025, fel y gallwn gadw'r cymhelliant pwysig hwn i ddenu neu gyflwyno buddsoddiad o fewn ein hardaloedd menter ac ar hyn o bryd rwy'n aros am eu hymateb.

Er fy mod yn falch o'ch hysbysu bod y rhaglen yn parhau i gyflawni ar draws pob un o'r ardaloedd menter, gyda 1,550 o swyddi'n cael eu cefnogi yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, rwyf wedi gwrando ar argymhellion y pwyllgor nad yw'r dangosyddion perfformiad cyhoeddedig yn adlewyrchu'r sefyllfa cystal ag y gallent o bosibl. Felly, mewn ymateb, byddaf yn cyhoeddi data perfformiad allweddol cyn hir ar gyfer yr ardaloedd menter yn y flwyddyn ariannol 2017-18 gan gynnwys dadansoddiad manylach fel rhan o adroddiad blynyddol ehangach. Gan edrych tua'r dyfodol, er na all dangosyddion byth gyfleu'r cynnydd a wneir ar draws yr wyth ardal wahanol yng Nghymru yn llawn, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried dangosyddion ymhellach fel rhan o'r adolygiad ehangach o'r rhaglen ardaloedd menter.

Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r argymhelliad ar y cynnig i uno byrddau Eryri ac Ynys Môn. Gan ystyried barn y cadeiryddion, rwyf wedi cytuno i ymestyn tymor y ddau fwrdd presennol am gyfnod pellach o 12 mis i helpu i hwyluso proses uno amserol ac effeithiol maes o law.

Rwy'n parhau'n falch o'r cyflawniadau a'r llwyddiant ar draws y rhaglen ardaloedd menter ers ei chychwyn yn 2012. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gan y rhaglen hanes cryf o gyflawni. Cefnogwyd mwy na 12,250 o swyddi ers sefydlu'r ardaloedd, ac rwy'n derbyn bod cyflymder y gwaith wedi amrywio ar draws yr ardaloedd. Rwyf wedi siarad o'r blaen ynglŷn â sut y mae hyn yn adlewyrchu dull o weithredu sy'n seiliedig ar le a mannau cychwyn gwahanol pob ardal a'u gwahanol gyfleoedd a heriau, fel y nodwyd yn glir gan David Rowlands. Mae ymdeimlad o le a sicrhau gwahanolrwydd rhanbarthol yn elfen hanfodol o'r cynllun gweithredu economaidd newydd.

Fel y cyfle a gafwyd yn sgil y cynllun gweithredu entrepreneuriaeth, pan oeddem yn dewis lleoliadau'r ardaloedd, ni ddewiswyd yr opsiynau hawsaf. Roedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf y byddai'r ardaloedd mwy parod ar gyfer buddsoddiad yn gallu cyflawni yn y tymor byr, a byddai eraill angen canolbwyntio ar osod sylfeini ar gyfer twf economaidd a chanlyniadau yn llawer mwy hirdymor. Dangoswyd enghraifft dda o hyn y mis diwethaf pan lansiwyd cytundeb twf ynni niwclear Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd. Deilliodd hyn i raddau helaeth o ymdrech barhaus y bwrdd a John Idris Jones yn arbennig i hyrwyddo'r achos dros adweithwyr modiwlar bach.

Gwnaed sylwadau parhaus ynghylch gwerth am arian y rhaglen hon. Rwy'n credu bod y rhaglen nid yn unig wedi darparu gwerth am arian yn gyson, mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer ffyniant yn y dyfodol mewn ardaloedd ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, er enghraifft, a'r cysylltiadau ffordd newydd pwysig yn Ynys Môn, Glannau Dyfrdwy, Maes Awyr Caerdydd, Sain Tathan a Glynebwy, a hefyd, wrth gwrs, gorsaf reilffordd newydd yn ardal Glynebwy yn hwyluso datblygiad swyddi cynaliadwy yn yr ardal ac wrth gwrs, gan ddefnyddio'r ardal fel canolbwynt yn yr ardal leol ehangach, nid yn unig yn y tymor byr, ond hefyd yn llawer mwy hirdymor.

Hefyd mae'n bwysig cydnabod y prosiectau pwysig ac arwyddocaol iawn sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r rhaglen hon—prosiectau sy'n creu newid sylfaenol a fydd yn cyfrannu'n enfawr at ein heconomïau rhanbarthol, er enghraifft datblygu'r athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy a rhaglen y Cymoedd Technegol ym Mlaenau Gwent. Bydd y ddwy raglen hon yn sicrhau newid sylfaenol yn eu hardaloedd, ac yn sicr ni fyddent wedi digwydd heb fewnbwn y byrddau. Rhagwelir y bydd y prosiectau'n cynhyrchu biliynau o bunnoedd mewn gwerth ychwanegol crynswth ar gyfer economïau rhanbarthol Cymru ac ni fyddai wedi digwydd oni bai am fodolaeth rhaglen yr ardaloedd menter.

Rwy'n falch fod Adam Price wedi croesawu gwaith ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn archwilio potensial creu porthladd rhydd, gan mai fi a ofynnodd iddynt wneud hynny. Credaf fod y syniad o borthladd rhydd yn Airbus, er ei fod efallai'n swnio'n syniad newydd a beiddgar iawn, y ffaith amdani yw ei fod yn anymarferol oherwydd mae'r maes awyr ym Mrychdyn yn cael ei gadw ar gyfer gweithgareddau Airbus. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod bod Airbus yn gwbl ganolog yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy a bod y bwrdd yno, o fewn yr ardal, wedi penderfynu mai'r cyfrwng gorau ar gyfer twf yn ardal Glannau Dyfrdwy yw creu'r athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch, a fydd, yn wir, yn cyfrannu oddeutu £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol crynswth dros y ddau ddegawd nesaf.

Fel y gwyddoch, fel rhan o weithredu'r cynllun gweithredu economaidd, rwyf wedi adolygu'r holl gyrff cynghori yn fy mhortffolio, ac rwyf wedi nodi cyfleoedd i symleiddio'r tirlun. O dan fwrdd cynghori'r Gweinidog trosfwaol sydd newydd ei ffurfio, mae strwythur llywodraethu'r ardaloedd ar gyfer y dyfodol wedi'i gynllunio yn y ffordd orau ar gyfer y cam y mae pob ardal arno, a'u cyfleoedd a'u hanghenion unigryw. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, rwyf wedi gofyn i gadeiryddion yr ardaloedd menter adolygu eu cynlluniau strategol, er mwyn adlewyrchu eu blaenoriaethau a'u dyheadau ar gyfer yr ardaloedd hynny dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cynlluniau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, ac ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi gofyn hefyd i fy swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen ardaloedd menter yn ei chyfanrwydd, adolygiad a fydd yn ystyried yr amodau economaidd cyfredol, blaenoriaethau'r cynllun gweithredu entrepreneuriaeth a chynllun diweddaraf pob ardal a'u cyfeiriad yn y dyfodol. Ni ddylem ofni cau'r drws ar y gorffennol pan fo atebion mwy effeithiol yn bodoli ar gyfer y dyfodol.

Rwyf am inni ddatblygu ffocws strategol clir ar gyfer y rhaglen wrth symud ymlaen, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i gynnig y cymhellion iawn i fusnesau, a hefyd ein bod yn parhau'n gystadleuol mewn perthynas ag ardaloedd menter eraill yn y DU, yn enwedig, fel y nododd David Rowlands, y rhai gerllaw ar ochr Lloegr i'r ffin. Bydd yr adolygiad rwyf wedi gofyn i swyddogion ei gynnal yn rhoi sylw i'r materion hyn ac yn ystyried canfyddiadau adroddiad y pwyllgor mewn meysydd megis argaeledd eiddo masnachol, a gallaf sicrhau Mark Isherwood ein bod eisoes yn cael trafodaethau gyda Banc Datblygu Cymru yn hynny o beth.

Mae'r ardaloedd menter yn cofleidio pwysigrwydd cydnabod ymdeimlad o le, ac mae gan fy uwch-swyddogion, ac yn benodol, y prif swyddogion rhanbarthol sydd newydd eu penodi, rôl glir iawn fel llais pob rhanbarth yn Llywodraeth Cymru, ac maent eisoes yn adeiladu cysylltiadau cryf gyda'r gymuned fusnes, ardaloedd menter a rhanddeiliaid allweddol eraill i greu cynlluniau rhanbarthol ar gyfer datblygu economaidd. Heb os, mae presenoldeb ardaloedd menter ym mhob un o'n rhanbarthau yn rhan bendant o'r sylfaen asedau y byddwn yn adeiladu arni yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni weithredu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn sicrhau twf cynhwysol ledled Cymru.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:52, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Russell George i ymateb i'r ddadl?

Photo of Russell George Russell George Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos i mi fod ardaloedd menter wedi bod, efallai, yn gyfres o arbrofion sy'n seiliedig ar le a byddant yn parhau i gael eu hastudio ymhellach dros y blynyddoedd nesaf. Y wers glir hyd yma, rwy'n credu, yw bod budd gwirioneddol i wybod eich cryfderau a dod â phartneriaid at ei gilydd o amgylch gweledigaeth a rennir, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i'r wers hon fod yn sylfaen ar gyfer y dull newydd rhanbarthol o gyflawni datblygu economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddatblygu.

Y cwestiwn a gyflwynais gyntaf yn y sylwadau agoriadol oedd hwn: a yw ardaloedd menter wedi hybu swyddi a thwf fel y cynlluniwyd iddynt ei wneud? Roedd peth ansicrwydd ai 'do' neu 'naddo' oedd yr ateb a chredaf fod Adam Price, yn ei gyfraniad, wedi manylu ychydig ar hynny, a hefyd o ran cael gafael ar y wybodaeth gan y Llywodraeth er mwyn craffu ar y maes hwn yn effeithiol. Rwyf am ddweud mai Adam Price, Mark Isherwood a David Rowlands a aeth i ymweld ag ardaloedd Eryri ac Ynys Môn, felly rwy'n falch iawn fod pob un o'r Aelodau wedi rhoi sylw helaeth i'w hymweliadau yn eu cyfraniadau. Nid yw'n syndod fod Joyce Watson wedi tynnu sylw at brosiect a bwrdd Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn y rhan honno o'r rhanbarth y mae'n ei gynrychioli.

Sylwais fod David Rowlands wedi canolbwyntio ychydig ar fater creu swyddi yn erbyn costau, sy'n rhywbeth na fanylais arno yn fy sylwadau agoriadol, ond mae hyn yn rhywbeth yr edrychodd y pwyllgor arno'n eithaf helaeth. Roedd gan Ysgrifennydd y Cabinet, efallai, ffigurau gwahanol a gyflwynodd o ran hynny, ond credaf efallai fod hyn yn tynnu sylw at y modd na fu'r dull tameidiog o rannu gwybodaeth yn ddefnyddiol iawn. Ond roeddwn yn fodlon iawn gydag ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ar wella dangosyddion a mesurau perfformiad. Credaf fod hynny i'w groesawu'n fawr iawn wir, ac rwy'n hapus iawn gyda'r sylwadau hynny.

Canolbwyntiodd Mark Isherwood ar nifer o feysydd. Roeddwn yn arbennig o falch iddo ganolbwyntio ar fater yr unedau masnachol sydd ar gael, ac argaeledd eiddo a thir. Mae hwn yn fater a godwyd gan nifer o ardaloedd menter, er syndod i mi, oherwydd mae hon yn broblem benodol yn fy etholaeth i, ac roeddwn yn meddwl efallai ei bod yn un sy'n perthyn i ganolbarth Cymru, ond nid yw hynny'n wir, mae'n broblem ledled Cymru—yn y gogledd, yn y de, yn y gorllewin. Gwn fod y pwyllgor yn awyddus iawn i ddod yn ôl at fater argaeledd tir, argaeledd eiddo, unedau masnachol a'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i adeiladu unedau masnachol yn ogystal. Rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet yn dod i fy etholaeth yr wythnos ar ôl nesaf i gyfarfod â busnesau sy'n wynebu'r anhawster hwn—busnesau sydd eisiau ehangu ond na allant ehangu am nad oes unedau masnachol ar gael ar eu cyfer.

Hoffwn ddiolch yn arbennig i holl gadeiryddion yr ardaloedd menter am eu cydweithrediad, ac yn enwedig i John Idris Jones a Neil Rowlands am eu cymorth wrth drefnu ymweliadau â'u hardaloedd. Hoffwn ddiolch i holl aelodau'r pwyllgor a gymerodd ran yn y ddadl hon y prynhawn yma, a holl aelodau'r pwyllgor am eu gwaith; a hefyd, wrth gwrs, diolch am y gefnogaeth wych a gawsom gan y gwasanaethau pwyllgor, fel bob amser, a gyfrannodd tuag at ein adroddiad. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a roddodd dystiolaeth naill ai'n ysgrifenedig neu ar lafar. Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn y ddadl y prynhawn yma. Diolch, Ddirprwy Lywydd.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:56, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.