Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor yn nodi fy ymateb manwl i argymhellion yr adroddiad. Rwyf wedi derbyn y 10 argymhelliad yn llawn neu mewn egwyddor, ac rwy'n falch o nodi y gwneir cynnydd da yn erbyn pob un ohonynt. Yn benodol, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y Trysorlys i ofyn am ymestyn lwfansau cyfalaf uwch yng Nghymru am bum mlynedd arall tan fis Mawrth 2025, fel y gallwn gadw'r cymhelliant pwysig hwn i ddenu neu gyflwyno buddsoddiad o fewn ein hardaloedd menter ac ar hyn o bryd rwy'n aros am eu hymateb.
Er fy mod yn falch o'ch hysbysu bod y rhaglen yn parhau i gyflawni ar draws pob un o'r ardaloedd menter, gyda 1,550 o swyddi'n cael eu cefnogi yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, rwyf wedi gwrando ar argymhellion y pwyllgor nad yw'r dangosyddion perfformiad cyhoeddedig yn adlewyrchu'r sefyllfa cystal ag y gallent o bosibl. Felly, mewn ymateb, byddaf yn cyhoeddi data perfformiad allweddol cyn hir ar gyfer yr ardaloedd menter yn y flwyddyn ariannol 2017-18 gan gynnwys dadansoddiad manylach fel rhan o adroddiad blynyddol ehangach. Gan edrych tua'r dyfodol, er na all dangosyddion byth gyfleu'r cynnydd a wneir ar draws yr wyth ardal wahanol yng Nghymru yn llawn, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion ystyried dangosyddion ymhellach fel rhan o'r adolygiad ehangach o'r rhaglen ardaloedd menter.
Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r argymhelliad ar y cynnig i uno byrddau Eryri ac Ynys Môn. Gan ystyried barn y cadeiryddion, rwyf wedi cytuno i ymestyn tymor y ddau fwrdd presennol am gyfnod pellach o 12 mis i helpu i hwyluso proses uno amserol ac effeithiol maes o law.
Rwy'n parhau'n falch o'r cyflawniadau a'r llwyddiant ar draws y rhaglen ardaloedd menter ers ei chychwyn yn 2012. Nid oes unrhyw amheuaeth fod gan y rhaglen hanes cryf o gyflawni. Cefnogwyd mwy na 12,250 o swyddi ers sefydlu'r ardaloedd, ac rwy'n derbyn bod cyflymder y gwaith wedi amrywio ar draws yr ardaloedd. Rwyf wedi siarad o'r blaen ynglŷn â sut y mae hyn yn adlewyrchu dull o weithredu sy'n seiliedig ar le a mannau cychwyn gwahanol pob ardal a'u gwahanol gyfleoedd a heriau, fel y nodwyd yn glir gan David Rowlands. Mae ymdeimlad o le a sicrhau gwahanolrwydd rhanbarthol yn elfen hanfodol o'r cynllun gweithredu economaidd newydd.
Fel y cyfle a gafwyd yn sgil y cynllun gweithredu entrepreneuriaeth, pan oeddem yn dewis lleoliadau'r ardaloedd, ni ddewiswyd yr opsiynau hawsaf. Roedd yn amlwg o'r cychwyn cyntaf y byddai'r ardaloedd mwy parod ar gyfer buddsoddiad yn gallu cyflawni yn y tymor byr, a byddai eraill angen canolbwyntio ar osod sylfeini ar gyfer twf economaidd a chanlyniadau yn llawer mwy hirdymor. Dangoswyd enghraifft dda o hyn y mis diwethaf pan lansiwyd cytundeb twf ynni niwclear Llywodraeth y DU yn Nhrawsfynydd. Deilliodd hyn i raddau helaeth o ymdrech barhaus y bwrdd a John Idris Jones yn arbennig i hyrwyddo'r achos dros adweithwyr modiwlar bach.
Gwnaed sylwadau parhaus ynghylch gwerth am arian y rhaglen hon. Rwy'n credu bod y rhaglen nid yn unig wedi darparu gwerth am arian yn gyson, mae hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer ffyniant yn y dyfodol mewn ardaloedd ledled Cymru. Bydd y buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith, er enghraifft, a'r cysylltiadau ffordd newydd pwysig yn Ynys Môn, Glannau Dyfrdwy, Maes Awyr Caerdydd, Sain Tathan a Glynebwy, a hefyd, wrth gwrs, gorsaf reilffordd newydd yn ardal Glynebwy yn hwyluso datblygiad swyddi cynaliadwy yn yr ardal ac wrth gwrs, gan ddefnyddio'r ardal fel canolbwynt yn yr ardal leol ehangach, nid yn unig yn y tymor byr, ond hefyd yn llawer mwy hirdymor.
Hefyd mae'n bwysig cydnabod y prosiectau pwysig ac arwyddocaol iawn sydd wedi dod i'r amlwg o ganlyniad i'r rhaglen hon—prosiectau sy'n creu newid sylfaenol a fydd yn cyfrannu'n enfawr at ein heconomïau rhanbarthol, er enghraifft datblygu'r athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy a rhaglen y Cymoedd Technegol ym Mlaenau Gwent. Bydd y ddwy raglen hon yn sicrhau newid sylfaenol yn eu hardaloedd, ac yn sicr ni fyddent wedi digwydd heb fewnbwn y byrddau. Rhagwelir y bydd y prosiectau'n cynhyrchu biliynau o bunnoedd mewn gwerth ychwanegol crynswth ar gyfer economïau rhanbarthol Cymru ac ni fyddai wedi digwydd oni bai am fodolaeth rhaglen yr ardaloedd menter.
Rwy'n falch fod Adam Price wedi croesawu gwaith ardal fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau yn archwilio potensial creu porthladd rhydd, gan mai fi a ofynnodd iddynt wneud hynny. Credaf fod y syniad o borthladd rhydd yn Airbus, er ei fod efallai'n swnio'n syniad newydd a beiddgar iawn, y ffaith amdani yw ei fod yn anymarferol oherwydd mae'r maes awyr ym Mrychdyn yn cael ei gadw ar gyfer gweithgareddau Airbus. Credaf ei bod hi'n bwysig cydnabod bod Airbus yn gwbl ganolog yn ardal fenter Glannau Dyfrdwy a bod y bwrdd yno, o fewn yr ardal, wedi penderfynu mai'r cyfrwng gorau ar gyfer twf yn ardal Glannau Dyfrdwy yw creu'r athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch, a fydd, yn wir, yn cyfrannu oddeutu £4 biliwn mewn gwerth ychwanegol crynswth dros y ddau ddegawd nesaf.
Fel y gwyddoch, fel rhan o weithredu'r cynllun gweithredu economaidd, rwyf wedi adolygu'r holl gyrff cynghori yn fy mhortffolio, ac rwyf wedi nodi cyfleoedd i symleiddio'r tirlun. O dan fwrdd cynghori'r Gweinidog trosfwaol sydd newydd ei ffurfio, mae strwythur llywodraethu'r ardaloedd ar gyfer y dyfodol wedi'i gynllunio yn y ffordd orau ar gyfer y cam y mae pob ardal arno, a'u cyfleoedd a'u hanghenion unigryw. Fel rhan o'r gwaith hwnnw, rwyf wedi gofyn i gadeiryddion yr ardaloedd menter adolygu eu cynlluniau strategol, er mwyn adlewyrchu eu blaenoriaethau a'u dyheadau ar gyfer yr ardaloedd hynny dros y tair blynedd nesaf. Bydd y cynlluniau newydd hyn yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, ac ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi gofyn hefyd i fy swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhaglen ardaloedd menter yn ei chyfanrwydd, adolygiad a fydd yn ystyried yr amodau economaidd cyfredol, blaenoriaethau'r cynllun gweithredu entrepreneuriaeth a chynllun diweddaraf pob ardal a'u cyfeiriad yn y dyfodol. Ni ddylem ofni cau'r drws ar y gorffennol pan fo atebion mwy effeithiol yn bodoli ar gyfer y dyfodol.
Rwyf am inni ddatblygu ffocws strategol clir ar gyfer y rhaglen wrth symud ymlaen, ac mae'n bwysig ein bod yn parhau i gynnig y cymhellion iawn i fusnesau, a hefyd ein bod yn parhau'n gystadleuol mewn perthynas ag ardaloedd menter eraill yn y DU, yn enwedig, fel y nododd David Rowlands, y rhai gerllaw ar ochr Lloegr i'r ffin. Bydd yr adolygiad rwyf wedi gofyn i swyddogion ei gynnal yn rhoi sylw i'r materion hyn ac yn ystyried canfyddiadau adroddiad y pwyllgor mewn meysydd megis argaeledd eiddo masnachol, a gallaf sicrhau Mark Isherwood ein bod eisoes yn cael trafodaethau gyda Banc Datblygu Cymru yn hynny o beth.
Mae'r ardaloedd menter yn cofleidio pwysigrwydd cydnabod ymdeimlad o le, ac mae gan fy uwch-swyddogion, ac yn benodol, y prif swyddogion rhanbarthol sydd newydd eu penodi, rôl glir iawn fel llais pob rhanbarth yn Llywodraeth Cymru, ac maent eisoes yn adeiladu cysylltiadau cryf gyda'r gymuned fusnes, ardaloedd menter a rhanddeiliaid allweddol eraill i greu cynlluniau rhanbarthol ar gyfer datblygu economaidd. Heb os, mae presenoldeb ardaloedd menter ym mhob un o'n rhanbarthau yn rhan bendant o'r sylfaen asedau y byddwn yn adeiladu arni yn y blynyddoedd i ddod, wrth inni weithredu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn sicrhau twf cynhwysol ledled Cymru.