Prosiectau Seilwaith Mawr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:30, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod gwanwyn 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fwriad Llywodraeth Cymru i ymgymryd â thri chynllun seilwaith mawr gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer eleni. Ac yn ôl gwybodaeth Llywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw werth cyfalaf cyfunol—y tri phrosiect hynny—o £1 biliwn. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y model buddsoddi cydfuddiannol, neu MIM, yn golygu y bydd partneriaid preifat yn adeiladu ac yn cynnal asedau cyhoeddus. Yn gyfnewid, bydd Llywodraeth Cymru yn talu ffi i'r partner preifat, a fydd yn talu costau adeiladu, cynnal a chadw ac ariannu'r prosiect, ac, ar ddiwedd y prosiect, bydd yn cael ei drosglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus. Felly, a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog a wnaiff ef amlinellu'r gwahaniaethau allweddol rhwng MIM a'r fenter cyllid preifat, a nodi pa un a fydd cynlluniau eraill yn cael eu defnyddio, gan ddefnyddio'r model MIM, yn y dyfodol, yn ystod y tymor Cynulliad hwn?