Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Wel, y gwahaniaeth yw bod gwerth am arian ymhlith amcanion craidd MIM. Ni fydd yn cael ei ddefnyddio i ariannu gwasanaethau meddal, fel glanhau ac arlwyo, sydd wedi arwain at gontractau drud ac anhyblyg yn y model PFI hanesyddol, ac ni fydd yn cael ei ddefnyddio ychwaith ar gyfer ariannu offer cyfalaf. Rydym ni'n buddsoddi swm bach o gyfalaf risg ym mhob cynllun, gan sicrhau bod y sector cyhoeddus yn cael rhan o unrhyw elw ar y buddsoddiad. Felly, mae'n wahanol fodel i PFI. Gallaf ddweud y bydd cyfarwyddwr budd y cyhoedd yn cael ei benodi gan y Llywodraeth i reoli cyfranddaliadau cyhoeddus ac i hybu diddordeb y cyhoedd yn ehangach, a bydd y swydd honno'n sicrhau bod tryloywder ynghylch costau a pherfformiad partneriaid preifat.