Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Gallaf ddweud y comisiynwyd Donna Ockenden gan PBC yn 2015 i adolygu'r trefniadau llywodraethu yn ymwneud â gofal cleifion yn Betsi Cadwaladr. Cyflwynodd ei chanfyddiadau i'r bwrdd ar 12 Gorffennaf. Mae'r adroddiad oddeutu 500 o dudalennau o hyd, ac mae'r grynodeb weithredol yn unig yn 50 o dudalennau. Tybed a yw ef wedi darllen yr adroddiad hwnnw. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd ag adroddiadau blaenorol. Mewn llawer o achosion, mae'n grynodeb o adolygiadau blaenorol ers 2009. Yr hyn sy'n hynod bwysig, gan fod gennym ni'r adroddiad hwnnw erbyn hyn, yw y gallwn ni adeiladu ar yr adroddiad hwnnw nawr, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei amlinellu y prynhawn yma, a nawr ein bod ni'n gwybod beth yw'r heriau, gallwn ymateb i'r heriau hynny.