1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch chi ddweud wrthym ni pa ardaloedd o Gymru sydd â'r cyfraddau uchaf o ddiagnosis canser cyfnod hwyr?
Mae hynny'n rhywbeth y byddai'n rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod yn ei gylch, ond rydym ni yn gwybod, cyn belled ag y mae'r targedau yn y cwestiwn yng Nghymru, bod ein ffigurau'n cymharu'n dda iawn.
Cyfoethog neu dlawd, gwledig neu drefol, dyn neu fenyw, mae canser yn glefyd nad yw'n gwahaniaethu, ac eto mae diagnosis yn gwbl i'r gwrthwyneb. Mae gwaith ymchwil diweddar gan Macmillan yn dangos bod diagnosis canser yn y wlad hon yn parhau i fod yn loteri cod post, ac mae ein cymunedau tlotaf yn wynebu diagnosis cyfnod diweddarach yn gyson. Pan fo'r cyfnod yn cael ei gofnodi, cafodd mwy nag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru ddiagnosis o ganser yn ei gyfnod hwyraf, sef cyfnod 4. Nid yn unig y mae hyn yn annerbyniol yng nghyd-destun y ffaith mai ein cyfraddau ni yw'r gwaethaf o unrhyw wlad yn y DU, nid yw'n dderbyniol o gwbl. O ran rhai mathau o ganser, mae'r amser aros rhwng amau i gychwyn bod rhywbeth o'i le a diagnosis yr hwyaf yn Ewrop. Rydym ni i gyd yn gwybod bod dal canser yn gynnar yn achub bywydau. Prif Weinidog, gallwch chi achub bywydau. A wnewch chi ymrwymo i bennu a glynu at darged diagnosis canser 28 diwrnod i bawb fel y gallwn ni ddal canser yn gynnar?
Yr hyn y mae meddygon yn ei ddweud wrthyf yw na ellir gwneud hynny ar gyfer pob math o ganser—ei bod hi weithiau'n cymryd mwy o amser i gael diagnosis o rai mathau o ganser. Nawr, mae hi'n gwneud y pwynt ei bod hi'n hynod bwysig, er enghraifft, i bobl gael eu hannog i gysylltu'n gynnar, a hefyd, wrth gwrs, i feddygon teulu gyfeirio pobl yn gynnar ar y llwybr. Rydym ni'n gwybod bod mwyafrif llethol y cleifion canser yng Nghymru yn dechrau eu triniaeth o fewn amseroedd targed. Rydym ni'n gwybod bod nifer yr achosion o ganser yn parhau i gynyddu, a bod triniaeth yn cynyddu o ran cymhlethdod. Mae nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer amheuaeth o ganser y mae angen ymchwilio iddi wedi codi mwy na 36,000 dros gyfnod o bum mlynedd i tua 96,000 o atgyfeiriadau y flwyddyn, sy'n newyddion da yn rhannol o leiaf rwy'n credu, gan ei fod yn golygu bod pobl yn cael eu cyfeirio ymlaen yn gyflymach. Rwy'n ni'n gwybod, wrth gwrs, bod 85.5 y cant o gleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser drwy'r llwybr canser tybiedig brys wedi dechrau triniaeth bendant o fewn yr amser targed o 62 diwrnod, a bod 97 y cant o'r rheini a gafodd ddiagnosis nad oedd drwy'r llwybr brys wedi dechrau triniaeth bendant o fewn eu hamser targed o 31 diwrnod.
Felly, rydych chi'n sôn am driniaeth ac rwyf i'n eich holi am ddiagnosis. Mae Cancer Research UK wedi ei hyrwyddo, mae clinigwyr yn galw amdano, mae Lloegr yn ei wneud, ac eto, Prif Weinidog, rydych chi'n parhau i ddadlau gyda'r arbenigwyr. Rydych chi'n gwrthod targedau 28 diwrnod nid er lles y cleifion, ond er lles eich cysylltiadau cyhoeddus eich hun. Ni fyddwch yn cyrraedd y targedau hynny ac ni fyddwch yn diwallu anghenion y cleifion hynny.
Prif Weinidog, mae'r dystiolaeth yn eglur: mae pobl mewn ardaloedd tlotach yn cael diagnosis yn hwyrach. Mae data Macmillan data yn dangos bod diagnosis cam 4 yn ein hardaloedd tlotaf hyd at 9 y cant yn uwch o'u cymharu â'u cymdogion cyfoethocach. Ni allwch chi fforddio bod yn dlawd ac yn sâl yng Nghymru y Blaid Lafur. Gallai ymgyrch wybodaeth, mynediad mwy parod at feddygon teulu a gwasanaethau diagnosis newid hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo i greu gwasanaethau diagnosis canser hygyrch ym mhob rhan o Gymru fel nad yw eich diagnosis o ganser yn cael ei adael yn rhy hwyr, pa un a ydych chi'n gyfoethog neu'n dlawd?
Fel rhywun sydd yn briod â rhywun sy'n gweithio i Macmillan, rwy'n cael fy lobïo yn feunyddiol o ran y ffordd yr ymdrinnir â chanser yng Nghymru. A gallaf ddweud nad oes unrhyw dystiolaeth glinigol o gwbl i awgrymu y byddai targed o 28 diwrnod yn gweithio. O ble mae hwnnw wedi dod? Ble mae'r dystiolaeth glinigol i ddweud bod 28 diwrnod yn rhyw fath o ffigur euraid? Mae gwleidyddion wrth eu boddau â'r ffigurau hyn, ond, mewn gwirionedd, nid wyf i'n gweld unrhyw dystiolaeth glinigol ar gyfer hynny.
Ceir materion—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw bwynt gweiddi. Os gwnaethoch chi ofyn y cwestiwn, mi wnaf i ateb y cwestiwn i chi nawr.
Rhan o'r broblem yw amharodrwydd mewn rhai ardaloedd i bobl ddod ymlaen yn gynnar, ac nid yw hynny'n helpu. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod yr holl feddygon teulu yn atgyfeirio cyn gynted â phosibl, gan fod mynediad at driniaeth yr un fath i bawb. Mae'n fater syml o annog pobl i ddod ymlaen mor gynnar â phosibl ac i feddygon teulu atgyfeirio mor gyflym â phosibl. Ac mae hynny'n rhywbeth sy'n hynod bwysig o ran yr ymgyrchoedd yr ydym ni wedi eu cynnal o ran codi ymwybyddiaeth o wahanol fathau o ganser, gan ein bod ni'n gwybod os gofynnir i bobl wirio eu symptomau, maen nhw'n fwy tebygol o gysylltu'n gynnar, a dyna'r ffordd o wneud yn siŵr bod mwy o bobl nid yn unig yn cael eu gwella o ganser, ond sy'n byw gyda chanser, gan wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r gwahanol fathau o ganser a'u symptomau. A dyna'n union yw'r gwaith y mae Macmillan yn ei wneud. Rhan o'u gwaith yw codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ganserau a darparu tystiolaeth i bobl. Byddan nhw yn y Sioe Frenhinol. Un o'r themâu y bu ganddynt yn y Sioe Frenhinol fu ymdrin â chanser y croen, melanoma, yn enwedig gyda sioe a gynhelir yn yr haf, ac maen nhw’n canolbwyntio'n gryf iawn, iawn ar bobl yn canfod canser yn gynnar eu hunain, neu'r hyn a allai fod yn symptomau o ganser, fel y gallan nhw gysylltu ac, yna, wrth gwrs, gallan nhw gael gwell canlyniad.
Ar ran yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rhoddodd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan archwilydd annibynnol, Donna Ockenden, yr wythnos diwethaf ddarlun brawychus o'r ddarpariaeth o wasanaethau yn y gogledd. Dangosodd yr adroddiad damniol bod arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd wedi bod yn gwbl amhriodol ac yn sylweddol ddiffygiol ers ei greu, a bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ddifrifol brin o staff ar adeg pan roedd nifer y cleifion ac aciwtedd yn cynyddu. Prif Weinidog, a oes gennych chi gywilydd o reolaeth eich Llywodraeth o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Wel, bydd datganiad ar hyn yn ddiweddarach ar yr agenda y prynhawn yma. Yr hyn y gallaf ei ddweud, wrth gwrs, yw bod hwn yn adroddiad anodd. Tynnodd yr adroddiad sylw at feysydd o gynnydd yng nghyflwyniad y bwrdd yr wythnos diwethaf. Mae gan PBC wahanol dîm arweinyddiaeth gweithredol erbyn hyn. Ers 2016, penodwyd prif weithredwr newydd, saith swyddog gweithredol, gan gynnwys cyfarwyddwr meddygol a chyfarwyddwr nyrsio a chyfarwyddwr iechyd meddwl newydd, i arwain ar y gwelliannau sydd eu hangen. Bydd cadeirydd newydd yn dechrau yn ei swydd yn fuan. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig. Bydd, fel y dywedaf, yn gwneud datganiad llafar ar yr adolygiad yn ddiweddarach y prynhawn yma ac mae wedi bod yn eglur ynghylch yr hyn y mae'n ei ddisgwyl gan y bwrdd.
Prif Weinidog, dylai fod arnoch gywilydd o'r ffordd yr ydych chi wedi rhedeg y bwrdd iechyd hwn mewn gwirionedd. Bydd yn dair blynedd yn ôl yr haf hwn pan wnaeth Llywodraeth Cymru fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn destun mesurau arbennig, ac mae adroddiad Ockenden wedi dangos, dros y cyfnod hwnnw, bod y cynnydd wedi bod yn araf ac nad oes gwelliannau sylweddol wedi eu gwneud eto. Yn syml, nid yw gwersi wedi cael eu dysgu a bydd pobl yn y gogledd yn teimlo gwylltineb a dicter, a hynny'n briodol, at y diffyg cynnydd dros y tair blynedd diwethaf o ran mynd i'r afael â'r methiannau difrifol hyn. Mae hwn yn fwrdd iechyd nad yw ond yn wyth oed, ac mae wedi bod yn destun mesurau arbennig am dair o'r blynyddoedd hynny. Cyfrifoldeb eich Llywodraeth chi yw rhedeg y bwrdd iechyd hwn. Chi sy'n gyfrifol. Mae eich Ysgrifennydd Cabinet yn atebol i chi am y ddarpariaeth o wasanaethau iechyd yng Nghymru. Beth ydych chi'n ei wneud i wneud yn siŵr ei fod yn clirio'r llanastr hwn a sut ydych chi'n rheoli perfformiad yr Ysgrifennydd dros iechyd i wneud yn siŵr ei fod yn gwella bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr? Mae'n amlwg nad oes gennych chi unrhyw dargedau ar gyfer gwella'r bwrdd iechyd. A ydych chi wedi pennu unrhyw dargedau ar gyfer eich Ysgrifennydd dros iechyd?
Gallaf ddweud y comisiynwyd Donna Ockenden gan PBC yn 2015 i adolygu'r trefniadau llywodraethu yn ymwneud â gofal cleifion yn Betsi Cadwaladr. Cyflwynodd ei chanfyddiadau i'r bwrdd ar 12 Gorffennaf. Mae'r adroddiad oddeutu 500 o dudalennau o hyd, ac mae'r grynodeb weithredol yn unig yn 50 o dudalennau. Tybed a yw ef wedi darllen yr adroddiad hwnnw. Mae'r canfyddiadau yn cyd-fynd ag adroddiadau blaenorol. Mewn llawer o achosion, mae'n grynodeb o adolygiadau blaenorol ers 2009. Yr hyn sy'n hynod bwysig, gan fod gennym ni'r adroddiad hwnnw erbyn hyn, yw y gallwn ni adeiladu ar yr adroddiad hwnnw nawr, fel y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei amlinellu y prynhawn yma, a nawr ein bod ni'n gwybod beth yw'r heriau, gallwn ymateb i'r heriau hynny.
Yn amlwg, mae eich Ysgrifennydd y Cabinet wedi methu pan ddaw i fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hanes Llywodraeth Cymru o ddarparu gwasanaethau iechyd yn y gogledd yn siarad drosto'i hunan. Gadewch i mi roi rhai enghreifftiau i chi, Prif Weinidog: bu Margaret Megan Evans, sy'n 93 mlwydd oed, yn aros ar lwybr concrit am fwy na thair awr ar ôl cwympo a thorri ei chlun, ac wedyn ni chafodd ei gweld gan feddyg yn yr adran achosion brys tan bron i 11 awr ar ôl gofyn gyntaf am gymorth; bu Ester Wood, a oedd yn 46 mlwydd oed, yn aros pum awr mewn ambiwlans cyn cael ei derbyn i'r ysbyty, lle bu hi farw wedyn; bu farw Neville Welton, a oedd yn 78 mlwydd oed, ar ôl oedi ei driniaeth oherwydd capasiti, staffio, camgymeriadau gweinyddol a phroblemau llif cleifion. Prif Weinidog, mae'r rhain yn bobl go iawn. Cyhoeddwyd rhybuddion fod bywydau yn parhau i fod mewn perygl gan swyddfa'r crwner yn dilyn marwolaethau mewn ysbytai, ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, derbyniodd y bwrdd iechyd 294 hawliad newydd ar sail anaf personol neu esgeulustod clinigol neu feddygol. Mae'n amlwg bod diwylliant o wadu, amddiffyn a diystyru wrth wraidd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a'ch Llywodraeth chi. Prif Weinidog, pryd wnaiff eich Llywodraeth gymryd cyfrifoldeb am y catalog o fethiannau mewn gofal ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ers iddo fod yn destun mesurau arbennig? A wnewch chi ymddiheuro nawr i bobl y gogledd am y traed moch o system y mae eich Llywodraeth wedi bod yn gyfrifol amdani ac am y diffyg atebolrwydd wrth ymdrin â'r gwasanaethau hyn?
Mae hyn yn cyferbynnu, onid yw, â'r ffordd y mae ei blaid ef yn ymdrin â phethau yn Lloegr, lle os oes mater fel Gosport, mae'r bai bob amser—[Torri ar draws.] Mae'r bai bob amser—[Torri ar draws.] Gwn mai'r gystadleuaeth i fod yn arweinydd yw hyn, ond efallai yr hoffai i mi ateb y cwestiwn.
Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb, os gwelwch yn dda. Gadewch i'r Prif Weinidog ymateb.
Mae'r bai am yr holl bethau hyn yn cael ei roi ar y byrddau iechyd; nid yw byth yn fai ar Lywodraeth y DU. Rydym ni'n cymryd cyfrifoldeb am yr hyn sy'n digwydd yn Betsi Cadwaladr gan ei fod yn destun mesurau arbennig. Dyma'r adroddiad y byddwn ni'n ei ddefnyddio i greu'r gwelliant hwnnw. Rydym ni'n arallgyfeirio ac yn neilltuo adnoddau i faes iechyd yn y ffordd orau y gallwn, er gwaethaf y cyni cyllidol—[Torri ar draws.] Wel, gallan nhw gwyno amdano, ond mae er gwaethaf y cyni cyllidol a gyflwynwyd gan ei blaid ef. Pe byddai'n sefyll ar ei draed ac yn galw am yr un peth i Gymru ag y mae ei blaid wedi ei roi i Ogledd Iwerddon, byddai ganddo fwy o hygrededd yn y dadleuon y mae'n eu cyflwyno. Fel y dywedaf, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad ar hyn y prynhawn yma. Mae'n bryd iddo ef a'i blaid ymddiheuro am flingo pobl Cymru dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru sydd ar fin gadael y swydd wedi bod yn feirniadol iawn—[Torri ar draws.]
Gadewch i Caroline Jones ofyn y cwestiwn. Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru sydd ar fin gadael ei swydd wedi bod yn feirniadol iawn o anallu sector cyhoeddus Cymru i addasu i gyllidebau llai. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Huw Vaughan Thomas y gallai gwasanaethau cyhoeddus fod yn diwygio er gwell, ond eu hunig ymateb i gyni cyllidol fu torri costau. Dywedodd hefyd ei fod yn rhwystredig nad yw datganoli wedi arwain at ailystyriaeth sylfaenol o sut yr ydym ni'n darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y gwir amdani yw, ni waeth pwy sydd mewn grym yn San Steffan, ni fyddwn yn gweld cynnydd enfawr i wariant cyhoeddus gan fod y DU bron i £2 triliwn mewn dyled erbyn hyn, sy'n cyfateb i tua 85 y cant o gynnyrch domestig gros. Ni allwn fenthyg ein hunain allan o'r llanastr hwn, felly mae'n rhaid i ni wario yn fwy doeth. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â'r Archwilydd Cyffredinol sydd ar fin gadael ei swydd ein bod ni angen ailystyriaeth radical ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?
Rydym ni bob amser yn ceisio rhoi'r system orau y gallwn ni ar waith ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Er enghraifft, fe wnaethom ni gymryd tri chorff a noddwyd gan Lywodraeth Cymru a'u troi nhw'n un—Cyfoeth Naturiol Cymru—a lleihawyd nifer y cyrff sy'n darparu iechyd i wneud yn siŵr bod llai o sefydliadau yr oedd yn rhaid i bobl fod mewn cysylltiad â nhw. Y gwir amdani yw hyn: rydym ni wedi diogelu cyllideb gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ariennir Llywodraeth Leol yng Nghymru yn llawer gwell na'r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Nid ydym ni wedi gweld y dinistriad o wasanaethau cymdeithasol sy'n digwydd o dan Lywodraeth Dorïaidd yn Lloegr. Rydym ni wedi cyfrannu adnoddau at ofal cymdeithasol ac iechyd. Rydym ni hefyd, wrth gwrs, wedi cyfrannu adnoddau at addysg. Rydym ni wedi gweld y toriad i gyllid addysg a welsom yn Lloegr yr wythnos diwethaf, lle mae ysgolion wedi eu hamddifadu o arian gan Lywodraeth Geidwadol. Pam mae hyn yn berthnasol? Oherwydd pe bydden nhw mewn grym, bydden nhw'n gwneud yn union yr un fath yng Nghymru—yn union yr un fath yng Nghymru. Rydym ni wedi ymladd yn erbyn y cyni cyllidol y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei groesawu yng Nghymru, ac rydym ni'n gwybod beth fyddai'n digwydd i'n pobl hŷn, i'n pobl ifanc, i ysgolion, i ysbytai ac i wasanaethau cymdeithasol pe bydden nhw fyth—Duw a'n gwaredo—yn cael eu dwylo ar rym.
Rwy'n cytuno a'r cyn Archwilydd Cyffredinol mai cyni cyllidol yw'r her fwyaf sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r cynnydd mewn galw. Mae'r gwasanaethau hyn yn wynebu pwysau anhygoel. Tra bod gwariant y GIG wedi parhau i gynyddu, mae toriadau awdurdodau lleol yn effeithio ar ofal cymdeithasol, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ofal iechyd. Rydym ni'n gwario mwy y pen ar iechyd nag y maen nhw yn Lloegr, ac eto mae'n rhaid i ni aros yn hwy am apwyntiadau ac yn hwy am driniaeth. Felly, Prif Weinidog, bydd cynllun hirdymor eich Llywodraeth ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn ein helpu i baratoi ar gyfer heriau yn y dyfodol, ond beth am nawr? Sut ydym ni'n ymateb i heriau heddiw? Dywedodd Huw Vaughan Thomas bod angen i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru feddwl yn fwy radical am sut y mae gwasanaethau'n cael eu darparu, gyda phwyslais ar ganlyniadau yn hytrach na strwythurau. Felly, Prif Weinidog, a yw eich Llywodraeth yn canolbwyntio'n ormodol ar strwythurau yn hytrach na chanlyniadau?
Nac ydy, oherwydd, er enghraifft, ym maes iechyd, byddai hynny'n golygu y byddem ni'n edrych ar ad-drefniad arall eto, ac nid yw hynny'n rhywbeth a fyddai'n achosi sefydlogrwydd yn y gwasanaeth iechyd. Mae'n ymwneud ag adnoddau, mae'n ymwneud â sicrhau y gallwn ni ddyrannu cymaint o adnoddau ag y gallwn i iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill, ond mae'n dasg hynod anodd yng nghyd-destun y cyni cyllidol yr ydym ni'n ei wynebu a'r hyn yr ydym ni wedi ei wynebu dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Diolch, Prif Weinidog. Dywedodd Huw Vaughan Thomas bod adroddiad comisiwn Williams yn nodi'n eglur natur problemau systemig y mae angen eu datrys. Ychwanegodd ei fod yn canfod ei fod yn rhwystredig ac yn gynyddol bryderus nad yw llawer o'r galwadau rhybudd eglur i weithredu y mae Cymru wedi eu clywed dros y degawd diwethaf wedi creu'r newidiadau gwirioneddol sydd eu hangen ar frys bellach, ac nad ydym wedi defnyddio datganoli fel cyfle ar gyfer ailystyriaethau sylfaenol. Felly, Prif Weinidog, a oes diffyg ewyllys gan eich Llywodraeth i wneud yr hyn sydd ei angen i sbarduno newid yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru, neu a ydych chi wir yn credu bod y newidiadau a gynigir gan gomisiwn Williams ac eraill yn ddiangen? Diolch.
Nid wyf i'n siŵr a yw'n bolisi UKIP erbyn hyn i gefnogi'r hyn a oedd yng nghomisiwn Williams o ran diwygio llywodraeth leol. Os yw hynny'n wir, yna mae hynny'n ddiddorol. Rydym ni wedi gweld sefyllfa yng Nghymru lle'r ydym ni wedi gweld datblygiad consortia, er enghraifft, ym maes addysg, sydd wedi arwain at ganlyniadau gwell o lawer ar gyfer addysg nad oedd yn wir yn y gorffennol. Ar un adeg, roedd gennym ni chwe awdurdod lleol yn destun mesurau arbennig ac roedd gennym ni un awdurdod lleol a chwalodd yn llwyr yn Ynys Môn—rydym ni'n bell o fod yn y sefyllfa honno. Felly, rydym ni wedi gweithio i wneud yn siŵr bod ein hawdurdodau lleol wedi dod yn fwy cynaliadwy. Ceir heriau o hyd i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd yn y dyfodol, a dyna pryd, wrth gwrs, bydd hi'n ddiddorol clywed barn y pleidiau eraill o ran beth ddylai strwythur gwasanaethau cyhoeddus fod yn y dyfodol, yn hytrach na dweud yn syml, 'Wel, nid ydym ni'n hoffi hyn.' Beth yw barn y pleidiau eraill? Gadewch i ni weld a oes consensws—rydym ni wedi cael yr arolwg seneddol ar iechyd—o ran sut y gallai gwasanaethau cyhoeddus gael eu strwythuro yn y dyfodol.