Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
O ystyried lefel bresennol cyfraddau llog a chyfraddau blwydd-daliadau, byddai rhwymedigaeth gwasanaeth dyled o tua £150 miliwn, dros gyfnod o 30 mlynedd, yn datgloi tua £2.5 biliwn, gan ddefnyddio'r math o ddull ariannu arloesol fel MIM y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato. A ydych chi'n credu bod hynny yn cynnig gwerth am arian, ac, os ydyw, oni ddylem ni fod yn llawer mwy uchelgeisiol o ran maint y rhaglen buddsoddi cyfalaf i fanteisio i'r eithaf ar y cyfle hanesyddol hwn o gyfraddau llog isel?