Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Rwy'n cytuno ag ef o ran uchelgais, ond mae'n rhaid ei gymedroli gyda doethineb, wrth gwrs. Gallaf ddweud bod y MIM yn cynnwys y gorau o fodel nad yw'n dosbarthu yr Alban—dyraniad risg optimwm, costio oes gyfan a thaliadau seiliedig ar berfformiad, gan sicrhau bod buddsoddiad newydd yn cael ei ddosbarthu i'r sector preifat, sydd yn fater hynod bwysig wrth gwrs y bu'n rhaid i ni ymdrin ag ef yn y Siambr hon lawer gwaith. Ac felly mae'n ychwanegiad gwirioneddol at fuddsoddiad gan wasanaethau cyhoeddus eraill. Felly, mae'n wahanol fodel i PFI. Byddwn bob amser yn ceisio sicrhau bod cymaint â phosibl o gyllid ar gael drwy'r cynllun, ond mae'n rhaid i ni bob amser roi sylw i fforddiadwyedd ein huchelgais ar gyfer Cymru.