Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rhoddodd yr adroddiad a gyhoeddwyd gan archwilydd annibynnol, Donna Ockenden, yr wythnos diwethaf ddarlun brawychus o'r ddarpariaeth o wasanaethau yn y gogledd. Dangosodd yr adroddiad damniol bod arweinyddiaeth yn y bwrdd iechyd wedi bod yn gwbl amhriodol ac yn sylweddol ddiffygiol ers ei greu, a bod gwasanaethau iechyd meddwl yn ddifrifol brin o staff ar adeg pan roedd nifer y cleifion ac aciwtedd yn cynyddu. Prif Weinidog, a oes gennych chi gywilydd o reolaeth eich Llywodraeth o Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr?