Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Wel, nid oes dim nad yw ar y bwrdd cyn belled ag y mae polisïau yn y dyfodol yn y cwestiwn. Ceir y cwestiwn, wrth gwrs, o nodi'r adnoddau er mwyn gwneud hynny, ond, hefyd, mae gennym ni'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, yr wyf yn amau fyddai'n berthnasol, o bosibl, i lawer o ofalwyr. Ond, wrth gwrs, os bydd cynigion eraill yn cael eu cyflwyno, byddwn, wrth gwrs, yn eu hystyried.