1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Gorffennaf 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o ofal cartref gyda'r nos? OAQ52564
Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am asesu anghenion gofal a chymorth unigolion, gan gynnwys unrhyw ofal cartref yn ystod y nos sydd ei angen, ac am fynd ati i ddiwallu’r anghenion hynny drwy gynllun gofal a chymorth.
Diolch yn fawr am yr ateb yna.
Mae Age Cymru wedi gwneud gwaith pwysig i ddadansoddi'r ddarpariaeth, neu'r diffyg darpariaeth yn hytrach, o ofal cartref yn ystod y nos yng Nghymru. Yn anffodus, dim ond wyth o'r 22 o awdurdodau lleol wnaeth ddarparu ffigurau o ran nifer yr oedolion sy'n derbyn gofal cartref yn ystod y nos. O'r awdurdodau lleol hynny a allai ddarparu ffigurau, gwyddom mai dim ond 1.92 y cant o asesiadau gofal a chymorth arweiniodd at ofal cartref yn ystod y nos. Arweiniodd llai na 2 y cant o asesiadau at ofal cartref yn ystod y nos, gydag amrywiadau eang rhwng awdurdodau lleol.
Beth, felly, mae eich Llywodraeth yn ei wneud i fynd i'r afael â'r diffyg casglu data yn y lle cyntaf ac, yn bwysicach, y diffyg cysondeb a darpariaeth o ran cymorth yn ystod y nos i'n dinasyddion mwyaf agored i niwed?
Wel, rydym ni eisoes wedi cymryd camau i wella telerau ac amodau'r gweithlu. Rydym ni wedi darparu £19 miliwn o gyllid rheolaidd i awdurdodau lleol er mwyn iddyn nhw weithio gyda darparwyr i gynorthwyo'r gweithlu ymhellach. Rydym ni'n ymwybodol bod nifer o awdurdodau yn defnyddio rhan o'r cyllid hwnnw i dalu cyfradd uwch am gymorth cysgu i mewn. Byddwn, wrth gwrs, yn parhau i weithio gan ddefnyddio, er enghraifft, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 gydag awdurdodau lleol er mwyn gwneud yn siŵr bod awdurdodau lleol yn deall eu dyletswyddau ac i greu mwy o gysondeb. Mae'n anodd iawn, wrth gwrs, deall ar sail unigol a yw rhywun wedi cael ei asesu ai peidio ar gyfer gofal cartref yn ystod y nos, ond mae'n bwysig dros ben bod awdurdodau lleol yn ddigon hyblyg yn eu dehongliad o'r rheoliadau ac yn eu hasesiadau i wneud yn siŵr bod pobl yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.
Wel, rwy'n credu mai'r cwbl y mae'r ffigurau hynny'n ei wneud yw tynnu sylw at swyddogaeth hanfodol gofalwyr di-dâl o ran gofal dros nos, i bobl yn eu teulu fel rheol. Yn amlwg, o dan yr amgylchiadau hynny, gofal iechyd meddwl yw hwn yn aml iawn ac nid yw gofal cartref traddodiadol yn briodol beth bynnag. Byddwch yn cofio bod y Ceidwadwyr Cymreig wedi lansio polisi y mis diwethaf i roi grantiau i oedolion ifanc sy'n ofalwyr i'w helpu i aros mewn addysg ôl-16, yn rhannol ar y sail bod angen cydnabod y dylai lwfans gofalwyr fod yn daladwy i'r unigolion hynny, gan gymryd eu cyfrifoldebau gofalu dros nos i ystyriaeth yn rhan o'u horiau ar gyfer cymhwysedd. A allwch chi roi rhywfaint o arweiniad i ni ynghylch pa un a yw'r polisi hwn yn mynd i gael ei ystyried gan y corff cynghori sy'n cynorthwyo'r Gweinidog, sydd, ar hyn o bryd, yn ceisio cael polisïau at ei gilydd i gynorthwyo gofalwyr?
Wel, nid oes dim nad yw ar y bwrdd cyn belled ag y mae polisïau yn y dyfodol yn y cwestiwn. Ceir y cwestiwn, wrth gwrs, o nodi'r adnoddau er mwyn gwneud hynny, ond, hefyd, mae gennym ni'r lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru, yr wyf yn amau fyddai'n berthnasol, o bosibl, i lawer o ofalwyr. Ond, wrth gwrs, os bydd cynigion eraill yn cael eu cyflwyno, byddwn, wrth gwrs, yn eu hystyried.