Hygyrchedd Mannau Chwarae Plant

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 17 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae canllawiau statudol yn cyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried anghenion amrywiol yr holl blant a phobl ifanc yn eu hardal, gan gynnwys y rhai sydd ag anableddau. Gwn, ym mis Ebrill, bod y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol wedi ymweld â maes chwarae Oaklands yn Rhondda Cynon Taf, sy'n enghraifft dda o faes chwarae hygyrch. Mae'n dangos yr hyn y gellir ei gyflawni. Ym mis Mai, atgoffwyd awdurdodau lleol o'r disgwyliad i bob awdurdod lleol ddatblygu adran chwarae wedi ei nodi'n eglur ar ei wefan. Dylid rhoi'r wybodaeth honno ar gael mewn ffordd sy'n cynorthwyo plant a theuluoedd i wybod beth sydd ar gael yn eu hardaloedd lleol. Dylai hefyd gynnwys camau gweithredu y mae awdurdodau lleol yn bwriadu eu cymryd i sicrhau cyfleoedd digonol ac i wella cyfleoedd chwarae cynhwysol. Gallaf ddweud hefyd bod prosiect Chwarae Cynaliadwy SNAP Cymru Groundwork Cymru wedi hyfforddi gweithwyr chwarae mewn ymwybyddiaeth o anabledd a chynhwysiant a bod hwnnw'n llwyddiannus iawn o ran cynnwys pobl anabl mewn chwarae yn yr awyr agored.