Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Wel, gadewch i ni aros i weld beth mae'r adolygiad yn ei ddweud. Nid ydym ni'n ddibynnol ar yr hyn y mae'r Adran Drafnidiaeth yn ei wneud, am resymau amlwg. Mae eu gwaith o ddiddordeb i ni, wrth gwrs, ond mae gennym ni ein hadolygiad ein hunain. Ar ôl i hwnnw gael ei gyhoeddi yna, wrth gwrs, gellir gwneud penderfyniadau pellach ynghylch pa un a fyddwn ni'n cyflwyno terfyn 20 mya cynhwysfawr ai peidio.