Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Prif Weinidog, mae hyn wedi cael ei archwilio, ei adolygu, yn ddiddiwedd ar draws Ewrop, ac mae gan lawer iawn o wledydd derfyn 20 mya, neu 30 cilometr yr awr yn eu mesurau erbyn hyn. A gaf i gymeradwyo cyngor Caerdydd am fwrw ymlaen â hyn? Ac rwy'n croesawu'r ymgyrchoedd lleol sydd bellach yn ein gwthio ni, fel yr un yn Sili. Dylai fod yn ddiofyn ac ni ddylai'r modurwr fod flaenaf o ran pwy all fynd allan a mwynhau'r amgylchedd awyr agored. Pan fyddwn ni'n gyrru ceir, mae'n rhaid i ni fod yn gyfrifol am hynny, ac mae angen diogelu mwy ar y cerddwr ac mae angen i ni newid i ffurfiau mwy llesol o deithio.