Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadawladr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 17 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:03, 17 Gorffennaf 2018

Dyma'r un ateb rydw i wedi bod yn ei gael ers pum mlynedd o ofyn yr un cwestiwn, i bob pwrpas, ac rŷm ni wedi clywed cyfeiriad at adroddiad damniol arall sydd wedi cael ei gyhoeddi nawr yn ddiweddar. Mae e, wrth gwrs, yn anghenfil o fwrdd iechyd, onid yw e; y corff cyhoeddus mwyaf, yn sicr y bwrdd iechyd mwyaf, sydd gennym ni yng Nghymru. Ond dros y tair blynedd diwethaf mae e wedi bod mewn mesurau arbennig ac felly mae e wedi bod yn uniongyrchol atebol i'ch Llywodraeth chi, yn uniongyrchol o dan arolygiaeth eich Ysgrifennydd Cabinet iechyd chi, ac felly mae'r buck yn stopo yn uniongyrchol gyda'ch Llywodraeth chi. Ni allwch chi ddim gwadu hynny. Dywedwch wrthym ni, faint yn rhagor o adroddiadau damniol a faint yn rhagor o sgandalau sydd eu hangen cyn i chi dderbyn bod y sefyllfa fel ag y mae hi yn anghynaliadwy a'i bod hi'n amser am newid a bod yn rhaid edrych eto nawr ar strwythurau delifro gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru?