Part of the debate – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Wel, gan ddechrau gyda'r un yn y canol, yr hawsaf, mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn nodio'n hapus ar eich awgrym chi, felly rwy'n siŵr y gallwn ni fwrw ymlaen â hynny. O ran y mater ynghylch tanau naddion pren, byddaf yn trafod hynny â chydweithwyr yn y Cabinet, a byddwn ni'n cyflwyno amserlen ar gyfer hynny, ac, o ran rhan 2, unwaith eto, byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet lle rydym arni yn union gyda hynny ac yn gwneud yn siŵr y bydd y Cynulliad yn cael gwybod ar unwaith.