Part of the debate – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, roedd Llywodraeth Cymru yn sôn am gyflwyno deddfwriaeth iechyd y cyhoedd i wella bywydau pobl sy'n byw yng Nghymru, ac rwy'n nodi o'r datganiad fod deddfwriaeth ar y ffordd. Mae'r digwyddiadau ym mwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dangos methiant difrifol atebolrwydd yn ein gwasanaeth iechyd ac mae'r Prif Weinidog yn iawn i ddweud bod angen inni weld gwasanaeth iechyd sy'n agored a thryloyw ac sy'n gallu dysgu oddi wrth ei gamgymeriadau.
Llywydd, un o'r biliau a gynigwyd ym maniffesto fy mhlaid i yn 2016 oedd Bil llywodraeth a chyllid y GIG, a fyddai'n cynyddu atebolrwydd drwy ei gwneud yn ofynnol i gomisiynwyr iechyd a phrif weithredwyr y GIG ymddangos ddwywaith y flwyddyn gerbron pwyllgorau awdurdod lleol ac yn flynyddol gerbron y Cynulliad. Mae'r Llywodraeth yn ystyried deddfwriaeth i gyflwyno corff newydd i warchod cleifion, ond mae gennym ni gorff gwarchod cleifion eisoes ar ffurf cynghorau iechyd cymuned. Felly, efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym sut y bydd y corff newydd hwn yn gweithredu ochr yn ochr â chynghorau iechyd cymuned.
Mae ein cynigion hefyd yn ceisio sefydlu comisiynwyr iechyd a etholir yn uniongyrchol, a fyddai yn ein barn ni yn rhoi llawer mwy o lais i gymunedau yn y penderfyniadau iechyd lleol sy'n effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn rhywbeth a fyddai'n cael derbyniad gwresog mewn ardaloedd fel fy etholaeth i, sy'n wynebu newidiadau diangen i'w gwasanaethau. Gan hynny, byddwn yn ddiolchgar pe gallai'r Prif Weinidog gadarnhau a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried y cynnig deddfwriaethol hwn o ddifrif fel rhan o'r symudiad ehangach i wella atebolrwydd yn y GIG yng Nghymru.
Wrth gwrs, nid atebolrwydd yn y GIG yw'r unig fater iechyd sy'n wynebu Cymru. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r ffigurau a gyhoeddwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr sy'n dangos bod cynifer â 1,300 o bobl yn marw'n gynamserol bob blwyddyn yng Nghymru oherwydd eu bod wedi anadlu aer llygredig. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi disgrifio llygredd aer yn argyfwng brys o ran iechyd y cyhoedd, yn ail yn unig i ysmygu ac yn fwy o achos pryder na gordewdra ac alcohol. Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog gadarnhau yn ei ymateb y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno unrhyw gamau deddfwriaethol ar y mater arbennig hwn.
Llywydd, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol yn ddiamau o'r ymrwymiadau deddfwriaethol a rheoleiddiol niferus sydd gan Lywodraeth Cymru ym maes amaethyddiaeth a lles anifeiliaid. Felly, efallai y gallai roi rhywfaint o arweiniad eglur ar yr amseriad o ran pryd y byddwn ni'n debygol o weld Bil amaethyddiaeth Cymru yn cael ei gyflwyno, er enghraifft, o ystyried na chyfeirir ato yn y datganiad hwn heddiw. Mae datganiad y prynhawn yma yn cadarnhau y bydd y gwahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau yn cael ei weithredu yn awr o'r diwedd ac rwy'n falch fod hynny'n digwydd. Yn wir, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi ei gwneud yn glir bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cryn nifer o wahanol lwybrau deddfwriaethol a rheoleiddiol yn ei briff hi. Felly, o ystyried yr ymrwymiadau hynny, efallai y gallai ef hefyd daflu mwy o oleuni ynghylch pa Filiau yn ei phortffolio hi a gaiff eu cyflwyno mewn gwirionedd yn y pumed Cynulliad.
Mae lles anifeiliaid hefyd yn faes polisi lle mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chefnogaeth i ddeddfwriaeth gan Lywodraeth y DU, yn enwedig felly ynghylch y Bil Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad) ac ynghylch polisi Llywodraeth y DU ar wahardd gwerthiant cŵn bach trydydd parti. Efallai y gallai roi asesiad cyffredinol o sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda San Steffan ar ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar Gymru a sut y gellid cryfhau'r prosesau hynny fel bod gweithredu'r Biliau mor syml ag y bo modd.
Mae datganiad heddiw yn cadarnhau y bydd Bil arall eto yn cael ei gyflwyno i leihau nifer y cynghorau ledled Cymru. Mae arnaf ofn y bydd yn rhaid i'r Prif Weinidog faddau inni am fod yn amheus i dderbyn haeriad Llywodraeth Cymru y bydd yn diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, gan yr ymddengys fel petai'r un syniad yn parhau i gael ei ailgylchu a'i ollwng bob rhyw flwyddyn neu ddwy. Rwy'n sylweddoli y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad gyda rhagor o wybodaeth am hyn yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ond efallai y gallai'r Prif Weinidog ddweud wrthym ni unwaith ac am byth a fydd yn derbyn bod yr un hen ddadleuon dros ganoli llywodraethau lleol yn groes i ewyllys y bobl wedi eu rhoi o'r neilltu nawr, ac a wnaiff ef ystyried defnyddio pwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru bellach i edrych ar agweddau eraill ar Lywodraeth Leol yma yng Nghymru.
Rwy'n siŵr y byddai'r Prif Weinidog yn dadlau bod y ddeddfwriaeth a basiwyd gan Lywodraeth Cymru mewn nifer o achosion yn rhoi baich ariannol ar gyllideb Cymru. Felly mae'n hanfodol bod eglurder ar y canlyniadau a ddisgwylir gan y ddeddfwriaeth newydd ac a yw'r costau a nodwyd yn y gyllideb yn rhoi gwerth am arian mewn gwirionedd. Efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym pa fecanweithiau sydd yn eu lle i sicrhau bod unrhyw ganlyniadau yn sgil deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i gywirdeb a dibynadwyedd y costau a amcangyfrifwyd sydd wedi eu rhoi gan Lywodraeth Cymru yn yr asesiadau effaith rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth. Efallai y gallai'r Prif Weinidog roi diweddariad i ni hefyd ar sefyllfa Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad y pwyllgor hwnnw.
Yn olaf, Llywydd, hoffwn gyfeirio'n fyr at fy Mil awtistiaeth arfaethedig, a gaiff ei gyflwyno brynhawn yfory. Yn y gorffennol, mae'r Prif Weinidog wedi nodi'n glir nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau da. Rwy'n gobeithio'n wir y bydd ef yn bresennol yn ystod fy natganiad i yfory i glywed am y manteision gwirioneddol y bydd gweithredu deddfwriaeth sylfaenol yn eu rhoi i bobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru. Felly, rwy'n gofyn eto iddo ailystyried ei safbwynt ar y Bil hwn a bod, o leiaf, yn feddwl agored i'r posibilrwydd o weithredu deddfwriaeth ar awtistiaeth.
Wrth gloi, Llywydd, rwy'n edrych ymlaen at graffu ar gynigion deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. Byddwn ni, fel gwrthblaid, yn gweithio mewn ffordd agored ac adeiladol gyda Llywodraeth Cymru pan fydd, yn ein barn ni, yn gwneud yr hyn sy'n iawn. Hyderaf y bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau yn y ffordd orau bosibl i lunio deddfwriaeth a fydd yn gwneud gwahaniaeth ac a fydd yn gwella bywydau pobl yma yng Nghymru.