Part of the debate – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Roedd nifer o gwestiynau yma. Yn gyntaf oll, y pum Mesur yr ydym wedi eu cyflwyno—maen nhw'n caniatáu rhywfaint o slac inni er mwyn gallu rhyddhau adnoddau i ymdrin ag unrhyw Filiau, neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, y bydd eu hangen o ganlyniad i Brexit. O ran beth fydd y blaenoriaethau, ni wyddom, oherwydd nid oes gennym unrhyw syniad beth yw dymuniad Llywodraeth y DU. Roeddwn ym Mrwsel ddoe, a'r rhwystredigaeth a deimlir yno yw hyn yn gwbl syml: beth mewn gwirionedd yw dymuniad y DU? Does neb yn gwybod. Roeddem yn gwybod ar y penwythnos, ac yna newidiodd popeth ddoe, ac erbyn hyn nid oes syniad gennym eto beth yw safbwynt Llywodraeth y DU. Felly, rydym yn ymbalfalu yn y tywyllwch, o ran beth fydd canlyniad terfynol Brexit. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod a fydd Llywodraeth gan y DU erbyn diwedd yr wythnos, felly mae angen sicrwydd yno.
O ran iechyd, mae gennym, wrth gwrs, y Bil ansawdd a llywodraethu ym maes iechyd a gofal, yr wyf wedi ei grybwyll eisoes. Mae tryloywder a dyletswydd o onestrwydd, yn fy marn i, yn bwysig iawn, ac maen nhw'n arbennig o bwysig fel bod gan bobl obaith, lle bo camgymeriadau yn digwydd, y gellir eu cywiro wedyn. O ran comisiynwyr iechyd, credaf mai'r anhawster o gael unigolyn etholedig mewn ardal neilltuol yw y bydd yn canolbwyntio yn unig ar y gwasanaethau a ddarperir i'w etholwyr ei hunan. Os oes Comisiynydd Iechyd wedi ei ethol ar gyfer, dyweder, Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, pa sicrwydd sydd y gwnaiff y Comisiynydd Iechyd gymryd unrhyw ddiddordeb o gwbl yn yr hyn sy'n digwydd yn Hywel Dda? Dyna'r broblem. Felly, mae perygl mawr y byddai'r Comisiynydd Iechyd yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn ei ardal ei hun yn unig gan y byddai hynny'n effeithio ar ei etholwyr ei hun. O ganlyniad, nid ydym yn argyhoeddedig y byddai comisiynwyr iechyd yn gwneud unrhyw wahaniaeth gwirioneddol.
O ran ansawdd aer, mae e'n iawn, wrth gwrs, i bwysleisio bod ansawdd aer yn bwysig. Mae gennym gynlluniau sydd ar waith. Nid ydym yn gweld bod angen ymyriad deddfwriaethol ar hyn o bryd. Mae gennym ni, wrth gwrs, fetro de Cymru. Mae'n drueni mawr na wnaeth ei blaid ef gefnogi trydaneiddio'r brif reilffordd o Gaerdydd i Abertawe, ac yn drueni mawr iawn na wnaeth ei blaid ef gefnogi—wel, nid yw hynny'n deg, gan fod yna rai ar ei feinciau ef oedd yn cefnogi'r morlyn llanw, ond ni wnaeth ei blaid ef yn Llundain gefnogi'r prosiect a fyddai wedi creu cynifer o swyddi ac a fyddai wedi gwella ansawdd yr aer yn rhinwedd y ffaith mai ynni adnewyddadwy fyddai wedi cael ei gynhyrchu. Nid yw hynny wedi helpu dim, o ran gwneud yn siŵr bod ansawdd yr aer yn gwella.
Roedd yn holi ynghylch Bil amaethyddiaeth Cymru. Nid ydym yn gwybod eto beth sydd ym Mil amaethyddiaeth y DU—nid ydym wedi ei weld, ac rwy'n tybio nad oes neb wedi ei weld yn Whitehall. Mae'n debyg y caiff ei gyhoeddi ym mis Medi. Hyd nes y byddwn yn ei weld, mae'n anodd inni wybod yn union pa ymyriadau deddfwriaethol y bydd angen i ni eu gwneud. Yr hyn nad yw'n glir ar hyn o bryd yw beth fydd yn digwydd ar ôl 2021. Beth fydd yn digwydd i gymorthdaliadau amaethyddol? Nid oes gennym unrhyw sicrwydd y daw'r un geiniog i Gymru. Daw rhyw £260 miliwn o arian i ffermwyr bob blwyddyn. Nid oes gwarant o geiniog y tu hwnt i'r dyddiad sydd eisoes wedi ei ddatgan yn gyhoeddus. Ni allwn ddod o hyd i'r arian hwnnw. Yr hyn a ddywedwyd wrth Lywodraeth y DU yw, 'Rhowch swm cyfatebol o arian o'r neilltu a'i ddosbarthu yn yr un ffordd yn union ag yn awr, hyd nes y ceir cytundeb rhwng y Llywodraethau i newid y system pe bai angen hynny.' Hyd yma, ni chafwyd ateb.
O ran lles anifeiliaid, unwaith eto, byddwn yn gweithio gyda Senedd y DU, yn ôl yr angen i wneud hynny. Bu achlysuron pan gawsom ein cario ar gefn deddfwriaeth y DU, a phan nad yw'r ddeddfwriaeth honno'n ddadleuol, nid oes unrhyw reswm pam na ddylem ni wneud felly yn y dyfodol—lle nad oes prawf o unrhyw angen am ddeddfwriaeth ar wahân i Gymru a phan fyddwn yn cytuno â'r hyn sy'n digwydd dros y ffin. Mae hynny'n rhywbeth sy'n cael ei wneud yn eithaf cyffredin mewn Llywodraeth.
Mae e'n sôn am y Bil Llywodraeth Leol. Nid oes penderfyniadau wedi eu gwneud ar strwythur Llywodraeth Leol. Ond mae'n rhaid imi ddweud, a yw ef yn dweud mewn gwirionedd bod Cyngor Sir Penfro wedi cyflawni gwasanaeth da a chyson i'w ddinasyddion? Wir? Ar ôl yr hyn a dalwyd i'r prif weithredwr, ar ôl y car a gafodd, ar ôl y methiannau mewn addysg, mae'n eistedd yno ac yn amddiffyn hynny. Bobl bach. Ni all wneud hynny cyn belled ag y mae ei etholwyr yn y cwestiwn. Nawr, os nad yw'n hoffi'r hyn yr ydym ni'n ei gynnig, bydded iddo gyflwyno ei syniadau ei hun. Nid wyf wedi clywed dim o feinciau'r Ceidwadwyr am ddiwygio llywodraeth leol. Nid wyf wedi clywed dim o feinciau'r Ceidwadwyr am sut y gallem ni wella llywodraeth leol—dim byd o gwbl. Maen nhw o fewn eu hawliau i wrthwynebu'r hyn a gyflwynwyd gennym ni, ond er mwyn popeth, cyflwynwch rai syniadau a gadewch i ni weld sut y byddai'r syniadau hynny'n gweithio.
Rwyf wedi fy syfrdanu oherwydd bod arweinydd dros dro yr wrthblaid o'r farn bod pobl, yn Sir Benfro, ac mewn nifer o awdurdodau eraill yng Nghymru, rywsut wedi cael gwasanaeth da yn gyson dros lawer o flynyddoedd. Do, efallai fod pethau wedi gwella, ond er mwyn popeth, roedd yn sobr o wael ar un adeg. Nid hwn yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi bod yn y sefyllfa honno ac nid oes unrhyw amheuaeth gennyf i y bydd eraill yn yr un sefyllfa yn y dyfodol. Dyna pam mae mor bwysig mynd i'r afael â hyn nawr, ac nid bod yn wrthbleidiol heb gyflwyno eich syniadau eich hun.
Mae e'n gwneud y pwynt ynghylch gwerth am arian. Mae hwnnw'n bwynt teg o ran system o Asesiadau Effaith Rheoleiddiol sydd gennym. Rydym bob amser yn ceisio sicrhau y ceir gwerth am arian. Mae'n gwestiwn agored bob amser a yw'r ddeddfwriaeth yn dda ai peidio; mae hynny'n dibynnu, mae'n debyg, ar eich safbwynt gwleidyddol, a lle'r Cynulliad yw craffu ar honno.
O ran ei Fil awtistiaeth, bydd yn cael ymateb llawn yfory gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth gwrs.