Part of the debate – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Efallai y gallaf innau ddechrau gyda'r gwaharddiad ar smacio hefyd, os caf i. Yn amlwg, rydym yn cydnabod eich amcan polisi ar hyn. Ond mae problem o hyd gan fod yr amddiffyniad presennol wedi'i lunio o gyfraith trosedd ac nid yw dileu'r amddiffyniad yn diddymu'r drosedd wirioneddol sy'n aros o faes cyfraith trosedd chwaith. Felly, pa un a oes erlyniad neu beidio—ac rwy'n gwybod nad hyn yw eich bwriad—ond bydd yn gadael y rhieni mewn perygl o fod yn droseddwyr yn dechnegol. Felly, sut ydych yn disgwyl gweithio gyda Llywodraeth y DU i oresgyn y gwirionedd gweddol anghyfleus hwn, o'ch safbwynt chi, fod curo heb wneud niwed yn parhau i fod yn drosedd?
Rydym yn cytuno bod y CCUHP yn bwysig, felly byddwn yn awyddus i wybod lle mae eich Bil i sicrhau bod y CCUHP, hawliau plant a'r parch dyledus yn cael eu cadw ar bob lefel o wasanaeth cyhoeddus. Mae'n iawn ein bod ni yma yn gwneud polisïau a deddfwriaeth wedi rhoi'r ystyriaeth ddyledus i hawliau plant. Ond os nad yw gweithredu'r polisïau hynny na'r dehongliad ohonyn nhw yn destun i'r ystyriaeth ddyledus honno, yna nid oes unrhyw warant y bydd gwasanaethau cyhoeddus yn darparu yn y ffordd yr ydym yn ei bwriadu. Rwy'n gweld y cwestiwn hwn yn berthnasol i hawliau pobl hŷn hefyd. Roeddech yn sôn—wel, rwy'n credu mai Paul Davies, a grybwyllodd, mewn gwirionedd—nad oes gennych chi fonopoli ar y syniadau gwych i gyd. Wel, pam na wnewch chi gynnwys y ddau syniad hyn, y ddau syniad gwych hyn gan y Ceidwadwyr Cymreig, yn eich rhaglen ddeddfwriaethol i'r dyfodol tra bod y cyfle gennych i wneud hynny? Rydych wedi gwneud felly gydag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, a gallwch weld fod gennym ni rai pethau da i'w dweud, ac, ar yr un pryd, efallai y gallech chi edrych ar ein syniadau ar gyfer lleoliaeth a dinasyddiaeth, y gellid eu gwireddu drwy Fil hefyd.
Yn olaf, Dirprwy Lywydd, roeddwn yn awyddus i sôn am ansawdd y ddeddfwriaeth sy'n debygol o gael ei chyflwyno. Mae gennym ni bwyslais enfawr yma o hyd ar Filiau fframwaith, sydd weithiau yn seiliedig ar dystiolaeth anghyflawn, ac rwy'n cyfeirio at Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris Alcohol) (Cymru) i gefnogi'r ddadl honno. Ond yn bendant mae'r pwyslais ar ormod o ddeddfwriaeth eilaidd, a dim digon o gyfle i graffu, gyda Senedd cyn lleied ei maint, wrth gwrs. Credaf ei fod yn etifeddiaeth o'r cyffyrddiad â'r cod Napoleonaidd, nad yw erioed wedi cydweddu â'n system gyfraith gyffredin ni yma yn y DU. Mae wedi arwain at lawer o orgymhlethu yma. Felly, a ydych chi'n gweld ffurf deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn newid efallai dros amser wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda mwy o fanylion ar wyneb Biliau drafft, lle y byddan nhw, wrth gwrs, yn wynebu ein gwaith craffu manwl ni? Diolch.