Part of the debate – Senedd Cymru am 3:40 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Llwyddwyd i ddwyn perswâd hefyd ar Lywodraeth y DU i barhau i gefnogi cylchrediad rhydd nwyddau o fewn tiriogaeth tollau cyfunol newydd. Mewn Cymraeg clir, siawns nad yw hynny'n cyfateb i gymryd rhan mewn undeb tollau, ac i'r graddau y mae'n gwneud hynny, rydym ni'n cytuno y gallai'r rhain fod yn gamau i'r cyfeiriad cywir. Ond am bob ateb y mae'r Papur Gwyn yn ceisio ei roi, mae cyfres arall o gwestiynau yn codi. Sut allai cynigion tollau astrus y DU weithio yn ymarferol? Dywedodd David Davis, sy'n ymadael â'i swydd ac a oedd hyd yma yn fythol gadarnhaol, fod y gosodiad yn anymarferol. Pa dystiolaeth sydd yna i gefnogi hepgor y sector gwasanaeth o'r rheolau cyffredin? A sut y bydd Llywodraeth y DU yn rhoi digon o sicrwydd i 27 o wledydd yr UE ynglŷn â materion amgylcheddol a safonau'r farchnad lafur, i sicrhau cydraddoldeb gwirioneddol?
Dirprwy Lywydd, gadewch imi ymhelaethu ar rai agweddau eraill ar y Papur Gwyn sy'n bwysig i Gymru. O ran y fframwaith symudedd, fel y'i gelwir, rydym ni wedi dadlau'n gryf o blaid system sy'n gydnaws â'r egwyddor o ryddid pobl i symud, ond lle bo cyswllt amlwg rhwng mudo a chyflogaeth. Mae gennym ni agwedd gadarnhaol tuag at y cyfraniad y mae dinasyddion yr UE yn ei wneud i fywyd yng Nghymru, ac mae'r Papur Gwyn yn gyfle a gollwyd i roi eglurder i fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus a'r dinasyddion hynny o'r UE y buom ni'n ddigon ffodus i'w denu i fod yn rhan o'n cymuned yma yng Nghymru. Unwaith eto, gan wynebu anawsterau anhydrin yn ei rhengoedd ei hun, mae Llywodraeth y DU yn ceisio lloches mewn amwysedd ac oedi. Mewn gwirionedd, mae angen rhoi sylw brys i faterion yn ymwneud â rhyddid i symud, a hynny gydag eglurder.
Dirprwy Lywydd, mae'r Papur Gwyn yn nodi dyheadau'r DU o ran parhau i gymryd rhan yn rhai, ond nid pob un, o raglenni'r UE, megis Horizon ac Erasmus+, yr ydym ni ein hunain wedi dadlau'n rymus o'i blaid. Eto, nid oes unrhyw sôn am raglenni cydweithredu rhyngdiriogaethol, a fyddai'n galluogi Cymru, er enghraifft, i barhau i weithio ar y cyd ag Iwerddon a chymdogion eraill—gwaith yr ydym ni'n dweud a fydd yn fwy pwysig, nid yn llai felly, ar ôl Brexit. Ac mae ymrwymiad y DU yn y Papur Gwyn wedi ymrwymo i rai, ond eto, nid pob un, o'r asiantaethau Ewropeaidd allweddol sy'n cefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau datganoledig megis yr Asiantaeth Feddyginiaethau Ewropeaidd. Yn y petruso a'r cyfaddawdu hwn, yr hyn a welwn ni yw Prif Weinidog y DU yn dal i geisio rheoli gwleidyddiaeth fewnol fythol-gyfnewidiol ei Chabinet. Mae ei phwyslais ar ddyfodol ei phlaid wleidyddol yn hytrach na lle y dylai fod—ar ddyfodol ein gwlad a bywoliaeth y bobl yr ydym ni yn eu cynrychioli.
Mae angen cynnal trafodaethau difrifol bellach ar fyrder, fel y gellir dod i gytundeb credadwy ym mis Hydref. Mae'r unrhyw lithro o'r amserlen hon yn cynyddu risg Brexit anhrefnus a'r DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Mae angen i Lywodraeth y DU fod yn glir ac yn ddiamwys. Yn hytrach na dyfeisio ffyrdd newydd i ymestyn geiriau—'partneriaeth economaidd', 'rheolau cyffredin', 'tollau', 'tiriogaethau cyfunol'—mae angen i Brif Weinidog y DU ddatgan yn blaen mai bwriad y DU yw aros yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol, a pharhau mewn undeb tollau. Mae'r amser ar ben i geisio plesio'r garfan nad oes modd eu plesio yn ei phlaid ei hun. Mae hi'n bryd bellach canolbwyntio ar y trafodiadau go iawn, rhai â 27 o wledydd yr UE. Ac mae hi yn wir bod angen rhywfaint o hyblygrwydd arnom ni gan yr Undeb Ewropeaidd hefyd. Mae angen inni allu trafod yn agored, nid cael rhwystrau wedi eu diffinnio gan linellau coch. Pan gyfarfu Prif Weinidog Cymru â Michel Barnier ddoe, dywedodd pa mor bwysig yw hi fod yr UE yn dangos haelioni a hyblygrwydd, yn enwedig o ran amserau. Yn amlwg, mae diddordeb cyffredin yn y fantol ar gyfer y DU a'r UE, ac ni ddylem ni fynnu glynu wrth derfynau amser afrealistig ar gyfer pontio os oes perygl y bydd hynny yn ein gwthio'n ddiangen dros ymyl dibyn ffug.
Yn gryno felly, Dirprwy Lywydd, mae Papur Gwyn y DU yn gam hwyr ond sylweddol o bosib. Mae'n cydnabod sawl un o'r pwyntiau allweddol y mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi bod yn eu gwneud dros y 18 mis diwethaf, ond mae angen gweithredu pellach yn awr er mwyn sicrhau Brexit sy'n diogelu swyddi a bywoliaeth pobl yng Nghymru a'r DU yn ei chyfanrwydd. Er mwyn cyflawni hyn mae angen i Lywodraeth y DU ganolbwyntio, nid arni hi ei hun ond ar fuddiannau economaidd hirdymor y wlad gyfan.