Part of the debate – Senedd Cymru am 3:36 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Am fwy na dwy flynedd bellach, mae'r holl wlad wedi trafod sut i fynd i'r afael â'r amgylchiadau a grëwyd gan y refferendwm Brexit. Cymerodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â Phlaid Cymru, chwe mis i lunio ein Papur Gwyn, 'Diogelu Dyfodol Cymru', yn seiliedig ar ddadansoddiad economaidd cynhwysfawr o fuddiannau Cymru. Mae hi wedi cymryd dwy flynedd gyfan i Lywodraeth y DU gynhyrchu Papur Gwyn yr wythnos diwethaf ynglŷn â'i sefyllfa negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Dirprwy Lywydd, mae'n anodd dechrau datganiad fel hyn heb sôn am yr anhrefn a'r camreoli digyffelyb a fu i'w gweld ers amser maith bellach yn ymagwedd Llywodraeth y DU ac sydd wedi dod â ni i'r sefyllfa druenus yr ydym ni ynddi heddiw. Mae Llywodraeth y DU mewn cyflwr o anhrefn, y rhaniadau ynddi yn amlygu eu hunain bob dydd, os nad bob awr. Holir cwestiynau difrifol ar bob ochr am ei chymhwysedd sylfaenol. Ar adeg pan mae'r DU gyfan yn wynebu ein her bwysicaf ers cenhedlaeth, mae gennym ni Lywodraeth yn y DU sy'n analluog i wneud y gwaith dan sylw.
Cymerodd ddwy flynedd i Brif Weinidog y DU sicrhau cytundeb Cabinet ar y cyd, ond dim ond dau ddiwrnod i'r Ysgrifennydd Gwladol oedd yn gyfrifol am gyflawni'r polisi hwnnw ymddiswyddo. Ymadawodd yr Ysgrifennydd Tramor—y person sy'n gyfrifol am gynrychioli'r DU dramor—yn fuan wedyn, gan gyhuddo'i Lywodraeth ei hun o chwifio'r faner wen. Ac mae'r ymddiswyddiadau yn parhau, fel y gwyddom ni, bron bob dydd. Mae hynny i gyd, Dirprwy Lywydd, o bwys i ni yma yng Nghymru. Mae agweddau pwysig ar Bapur Gwyn y DU, gan gynnwys trafnidiaeth a physgodfeydd, wrth gwrs, o fewn ein cymhwysedd datganoledig ni. Mae safbwynt y DU ar ba fath o fframwaith symudedd a pherthynas economaidd a fydd gennym ni yn y dyfodol yn hanfodol bwysig i Gymru a'r broses o ddarparu gwasanaethau datganoledig.
Ar bob cyfle, Dirprwy Lywydd, mae Prif Weinidog Cymru, Rebecca Evans drwy gyfrwng ei swyddogaeth ar y fforwm gweinidogol newydd a minnau wedi dadlau'n gyson o blaid Brexit sy'n amddiffyn buddiannau Cymru. Mae ein safbwynt ni yr un fath ag yr oedd ar y cychwyn: un sy'n rhoi dyfodol swyddi a'n heconomi yn gyntaf. Rydym ni'n dweud bod angen i'r DU aros mewn undeb tollau gyda chyfranogiad llawn a dirwystr yn y farchnad sengl. Yn ei Phapur Gwyn, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd rhai camau sigledig i'r cyfeiriad yr ydym ni wedi ei nodi'n gyson. Mae Llywodraeth y DU bellach yn cyfaddef pa mor bwysig yw cyfrannu yn y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a chynhyrchion amaethyddol. Rydym ni'n cytuno. Maen nhw'n nodi'r angen i sicrhau aliniad deinamig â rheoliadau'r UE wrth i'r Undeb Ewropeaidd barhau i esblygu a datblygu rheolau cyffredin. Unwaith eto, Dirprwy Lywydd, rydym ni'n cytuno.