Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn enaid mor garedig ac yn gymedrol yn ei araith—mae'n anodd anghytuno â'i gondemniadau rhethregol o'r Llywodraeth Geidwadol. Os rhywbeth, roedd yn llawer rhy drugarog. Rwyf wedi dweud o'r blaen bod Theresa May yn waeth Prif Weinidog hyd yn oed na John Major. Fe af ymhellach fyth—tybiaf mai hi yw'r Prif Weinidog gwaethaf yr ydym ni wedi'i gael ers Lord North. O leiaf mai ochr gadarnhaol ei anallu yntau oedd iddo greu cenedl newydd yr ochr arall i'r Iwerydd sydd wedi bod yn esiampl o ryddid, menter a llwyddiant ers 250 o flynyddoedd. Ochr arall anghymhwysedd Theresa May yw y bydd hi yn ein cadw ni'n ddarostyngedig i Undeb Ewropeaidd sydd yn y bôn yn annemocrataidd ac sydd, mewn termau cymharol, yn brosiect ffederal sy'n methu, yn economaidd yn ogystal ag yn wleidyddol.
Nid yw'n syndod mai dyma ganlyniad dwy flynedd heb negodi, mae'n debyg, oherwydd bod Theresa May yn Brif Weinidog sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd sy'n llywyddu dros Gabinet sydd â'i fwyafrif llethol o blaid aros, ac sydd â phlaid iddi'n gymorth yn Nhŷ'r Cyffredin y cefnogodd y mwyafrif sylweddol ohoni yr ymgyrch dros 'aros', ac roedd mwyafrif llethol Tŷ'r Arglwyddi o blaid aros hefyd. Os nad yw'r bobl sydd mewn gwirionedd yn gyfrifol am wireddu refferendwm Brexit hyd yn oed yn credu yn y prosiect, nid yw'n syndod mai'r hyn a ddisgrifiodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gywir fel anhrefn a chamreoli yw'r canlyniad, oherwydd maent yn gasgliad o bobl wangalon, anobeithiol sy'n darogan gwae ac, yn wir, mae rhai ohonyn nhw eisiau tanseilio'r holl beth yn ogystal. Er gwaethaf yr holl iaith chwyddedig am eisiau parchu canlyniad y refferendwm, mae llawer o aelodau'r Llywodraeth yn gweld hyn, fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet, yn drychineb ar gyfer Prydain. Felly, maen nhw eisiau gwneud eu gorau i danseilio'r broses, ac maen nhw wedi llwyddo'n rhyfeddol.
Wrth gwrs, y broblem sylfaenol yw na fu erioed unrhyw baratoi ar gyfer canlyniad 'dim bargen'. Pe cafwyd hynny, yna gallem ni fod wedi gwneud rhywfaint o gynnydd yn ein trafodaethau â'r UE. 'Os ydych chi eisiau heddwch, paratowch am ryfel', yw'r hen ddihareb Lladin, ac mae'r un peth yn wir yn y trafodaethau yn ogystal. Mae'r syniad nad oes gan Brydain, y pumed economi fwyaf yn y byd a'r wythfed genedl weithgynhyrchu fwyaf yn y byd, sydd â diffyg masnachu enfawr â'r UE ac yn barod i dalu £40 biliwn y flwyddyn mewn cyfraniadau cyllideb dros y pum mlynedd nesaf, unrhyw arfau negodi yn ei dwylo yn gwbl hurt. Mae Donald Trump wedi bygwth codi tollau ar nwyddau o'r UE. Effaith hynny ar unwaith oedd i weithgynhyrchwyr ceir yr Almaen alw ar yr UE i gael gwared ar y tariffau mewnforio ceir o'r Unol Daleithiau, oherwydd maen nhw'n gosod tariffau ar 10 y cant. Fel y gwyddom ni, mae'r Unol Daleithiau yn gosod tariff o ddim ond 2.5 y cant. Mae'r UE yn system dwyllodrus enfawr sy'n gofalu am ddim ond ei buddiannau ei hun ac sy'n gweithredu er anfantais y bobl fwyaf difreintiedig yn ein cymdeithas—y tlodion, y rhai ar yr incwm isaf.
Canlyniad y cytundeb hwn yn Chequers, yr unig fantais o hynny oedd cynyddu'r gefnogaeth i UKIP o 3 y cant i 8 y cant yn y polau piniwn mewn wythnos—mae hynny i'w ganmol, o leiaf. Ond canlyniad y negodi hwn yn Chequers yw rheolau cyffredin nad ydyn nhw yn rheolau cyffredin o gwbl—mae'n sefyllfa o 'derbyn neu wrthod; derbyn rheolau'r UE'—ac, os ydym ni y tu allan i'r UE, ni fydd gennym ni hyd yn oed y llais cyfyngedig i ddatblygu'r rheolau hynny y bu gennym ni hyd yma. Byddwn yn dal yn destun dyfarniadau Llys Cyfiawnder Ewrop, felly ni fyddwn yn adennill rheolaeth dros ein cyfreithiau ein hunain chwaith. Yna'r trefniant tollau wedi'i hwyluso, fel y'i gelwir, y mae, fel y soniodd Ysgrifennydd y Cabinet, David Davis wedi dweud ei fod yn anymarferol, ac felly mae'n rhy—bydd yn gostus ac yn fiwrocrataidd iawn—ac yna'r fframwaith symudedd, fel y'i gelwir ef, sef dim byd ond cwmwl niwlog. Nid ydym ni'n gwybod unrhyw beth o gwbl am hynny fel na allwn ni, ar hyn o bryd, ddod i unrhyw gasgliad. Yr hyn y gallwn ni fod yn weddol sicr yn ei gylch, yn fy marn i, yw y bydd yr UE yn mynnu cymaint o ryddid symudiad ag sydd gennym ni ar y funud, ac felly ni fydd gennym ni hyd yn oed reolaeth dros ein ffiniau chwaith.