Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
A gaf i ddiolch i Steffan Lewis am yr holl gwestiynau hynny? Dechreuodd drwy wneud pwynt pwysig iawn. Mae'r hyn sydd yn y fantol yma yn hollol real, a bydd yr effaith ar ein cenedl yn os na chawn ni gytundeb â'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei theimlo ym mywydau pobl ledled y wlad.
Rwy'n ddiolchgar hefyd am gael cyfle i ymateb i'w sylw ynghylch cynllunio, oherwydd er gwaethaf yr holl stŵr a wneir weithiau ynghylch hyn nid wyf yn credu bod unrhyw wahaniaeth rhwng ein dwy blaid ar y mater hwn. Rydym ni'n cytuno na allwch chi gynllunio i osgoi canlyniadau trychinebus Brexit 'dim bargen', nid yw hynny'n rhywbeth y gallwch chi ddyfeisio ffordd o liniaru canlyniad o'r fath. A yw hynny'n golygu nad ydym ni'n cynllunio wrth gefn yn y modd a ddisgrifiwyd ganddo? Wel, wrth gwrs nid yw'n golygu hynny, ac mae digwyddiadau dros yr wythnos diwethaf yn golygu bod yn rhaid gwneud y cynllunio wrth gefn hwnnw ar fwy o frys.
Fe'i trafodwyd yn is-bwyllgor Brexit y Cabinet yr wythnos diwethaf. Cafodd ei wyntyllu yn y grŵp cynghori Ewropeaidd a gyfarfu ar ddydd Iau. Byddaf yn cwrdd â swyddogion ddydd Iau yr wythnos hon. Byddaf yn cyfarfod â'r Ysgrifennydd Parhaol ynglŷn â'r mater hwn yr adeg hon yr wythnos nesaf. Oherwydd bydd gan Brexit trychinebus heb unrhyw gytundeb oblygiadau uniongyrchol ar y cyfrifoldebau sydd gennym ni, Lywodraeth Cymru: a fyddwn ni'n gallu cael gafael ar feddygaeth niwclear, sut fyddwn ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau priffyrdd os oes llinell hir o draffig o Gaergybi i'r ffin â Lloegr. Mae rhai problemau ymarferol y mae'n rhaid inni feddwl amdanyn nhw, a bu'r gwaith hwnnw yn mynd rhagddo ers peth amser a bydd yn awr yn dwysáu dros yr haf, nid oherwydd y credwn ni y gallwn ni lunio cynllun sy'n golygu, os ceir Brexit o'r fath, y gellir diddymu ei effeithiau, ond oherwydd, yn yr ystyr hwnnw o gynllunio wrth gefn, fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu buddiannau Cymru.
Siaradais am hyblygrwydd yn yr amserlen oherwydd dyna'r pwynt yr oedd Prif Weinidog Cymru yn ei wneud yn uniongyrchol i arweinwyr yr UE ddoe. Buom yn dweud ers tro nad ydym ni'n credu y gallwn ni gwblhau popeth sydd angen ei wneud yn ystod y cyfnod pontio erbyn diwedd mis Rhagfyr 2020. Yn hynny o beth, ymddengys bod estyniad i amserlen erthygl 50 yn anochel. Y pwynt yr oedd y Prif Weinidog yn ei wneud oedd un yr oeddwn i yn ei wneud pan roeddwn i ym Mrwsel ddiwethaf, sef nad yw hi'n llesol i neb ganfod ein hunain wedi ein caethiwo pan, pe byddai pawb yn cytuno yn nhymor yr hydref 2020 y byddai estyn yr amser ar gyfer y cyfnod pontio yn caniatáu i bawb gael gwell canlyniadau—pam y byddem ni eisiau rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle gwrthodwyd y ffordd synhwyrol honno o weithredu i bob un ohonom ni?
Dywedodd Steffan Lewis nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cael golwg lawn ar y Papur Gwyn cyn ei gyhoeddi. Mewn unrhyw ystyr ymarferol roedd yn gywir, oherwydd ni chyrhaeddodd fersiwn ohono yma tan 1.35 a.m.—ychydig oriau o gwsg cyn y cyhoeddwyd y Papur Gwyn mewn gwirionedd.
Rydym ni'n parhau â'n cynlluniau mewn perthynas â'r Bil parhad. Rydym ni'n edrych yn ofalus, wrth gwrs, ar bopeth sy'n digwydd o'n cwmpas. Caiff ein holl gynlluniau, yn anochel, o gofio ansicrwydd y dyddiau diwethaf, eu hadolygu'n barhaus.
Soniodd Steffan Lewis am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae'r papur a gyhoeddais heddiw ynglŷn â threfniadau cyllidol yn y dyfodol—y pumed yn y gyfres o bapurau yr ydym ni wedi'u cyhoeddi ers y Papur Gwyn gwreiddiol—yn wir yn gwneud y pwynt hwnnw, Dirprwy Lywydd. Fyddwn ni ddim—fyddwn ni ddim—yn cytuno i gronfa ffyniant gyffredin lle mai'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei olygu mewn gwirionedd yw cyfle i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig gyfranogi o'r arian sydd wedi dod i Gymru oherwydd yr anghenion sydd gennym ni yma. Fyddwn ni ddim yn cyfaddawdu ar y sefyllfa honno; gallaf roi'r sicrwydd hwnnw iddo.
Yn olaf, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ers tro wedi dweud ar goedd y bydd Brexit yn cael effaith niweidiol ar economi'r DU ac ar y refeniw treth sydd ar gael i'r Canghellor. Yn hytrach na bod difidend Brexit, mae twll Brexit i'r Canghellor ei lenwi, ac mae'r twll hwnnw'n mynd yn fwy, nid llai, fel y mae'r anhrefn yn Llundain yn cynyddu.