Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Yn gyntaf oll, a gaf i ymddiheuro wrth unrhyw Aelodau yr oedd hi'n hwyr yn y dydd arnyn nhw'n gweld y datganiad a wneuthum y prynhawn yma? Fel y bydd Aelodau yn ymwybodol, mae hon yn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, ac roedd y datganiad wrthi'n cael ei ddatblygu drwy'r bore ac yn gynnar yn y prynhawn.
Gadewch imi ddweud fy mod i'n gwrthod yn llwyr yr hyn a ddywedodd yr Aelod. Rydym ni wedi bod yn canolbwyntio nid ar ffaith Brexit—a gafodd ei setlo mewn refferendwm—ond ar ffurf Brexit. Yn hynny o beth, mae yna nifer fawr o ffyrdd gwahanol y gallai'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda rhai ohonynt yn lleihau'r niwed a achosir, rhai yn ychwanegu at y niwed a achosir, ac rydym ni wedi bod yn canolbwyntio'n ddiflino ar geisio darbwyllo Llywodraeth y DU i fabwysiadu dull fyddai'n lleihau'r niwed y gellid ei achosi i economi Cymru ac i'r dyfodol y gall pobl Cymru edrych ymlaen ato.
Wrth geisio gwneud hynny, roeddem ni'n barod i roi croeso gochelgar i rai rhannau o Bapur Gwyn Chequers. Yn anffodus, mae ein gallu i wneud hynny wedi ymddatod wrth i anallu Prif Weinidog y DU gael cefnogaeth i'r Papur Gwyn ymysg ei phlaid ei hun ymddatod hyd yn oed ynghynt. Felly, rydym ni'n wynebu sefyllfa heddiw ble gwelsom ni wiriondeb llwyr un o Weinidogion y DU yn gorfod ymddiswyddo er mwyn arddel y sefyllfa yr oedd ei Brif Weinidog ei hun ynddi dim ond hanner awr yn gynharach. Mae hynny'n dweud rhywbeth wrthych chi am yr anhrefn llwyr sy'n teyrnasu ar ben arall yr M4 a doeddwn i ddim yn genfigennus o swyddogaeth yr Aelod yn codi i geisio amddiffyn safbwynt Llywodraeth y DU, oherwydd ni allai fod yn hyderus erbyn iddo eistedd, y byddai'r sefyllfa a gododd i'w hamddiffyn yn dal i fod yr un yr oedd Llywodraeth y DU yn ei chefnogi.
O ran ei gwestiynau penodol, felly, byddwn yn parhau i drafod pryd bynnag y cawn ni gyfle i wneud hynny, ni waeth pa mor anfoddhaol y fforwm, ni waeth pa mor anfoddhaol natur y drafodaeth. Bydd cyfarfod yma yng Nghaerdydd ar 1 Awst â Gweinidogion y DU yn bresennol, â Gweinidogion o'r Alban yn bresennol, pan fydd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans a minnau yn cynrychioli Llywodraeth Cymru, ac y byddwn ni, unwaith eto, yn achub ar y cyfle i geisio pwyso ar Lywodraeth y DU y dylai eu mandad wrth iddyn nhw drafod gyda'r Undeb Ewropeaidd fod yn un sy'n rhoi swyddi a bywoliaeth pobl yn y Deyrnas Unedig yn gyntaf.
Rwyf wedi gwrando eto ar Mark Isherwood yn rhoi inni'r farn hiraethus hon am y byd lle gallwn ni droi ein cefnau ar ein cymdogion yn Ewrop—y bobl yr ydym ni wedi gweithio gyda nhw ers 40 mlynedd—oherwydd bod Cymanwlad sy'n cofio sut yr oedd hi yn yr hen ddyddiau da ac yn aros i ail-greu'r gorffennol yn amgylchiadau'r dyfodol. Does bosib cyflawni hyn yn ymarferol ac fel gweledigaeth ar gyfer Cymru fodern, yn ceisio llwyddo mewn amgylchiadau cyfoes, mae'n weledigaeth hollol ffug. Lle ceir cyfleoedd, fel y dywedaf, a lle mae'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Masnach Ryngwladol yn edrych i weithio'n agos gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, yna, wrth gwrs, byddwn wastad yn ceisio sicrhau bod buddiannau Cymru a blaenoriaethau Cymru yn hysbys i Lywodraeth y DU.