Part of the debate – Senedd Cymru am 3:57 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
A gaf i ddweud fy mod i'n gresynu, i ddweud y lleiaf, at rai o'r sylwadau a wnaed gan lefarydd y Ceidwadwyr? Mae dweud ein bod ni ym Mhlaid Cymru yn ceisio dinistrio pobl Prydain, rwy'n credu, yn mynd y tu hwnt i ffiniau arferol pryfocio gwleidyddol. Rwy'n siŵr yr hoffai'r Aelod bendroni ynghylch ei sylwadau ac efallai ymddiheuro ar ryw adeg pan mae wedi ymbwyllo. Ac mae defnyddio termau fel 'rwdl-mi-ri' pan mai ei wleidyddiaeth ffantasi ef sy'n mynd i gostio swyddi i bobl yn y wlad hon, yn fy marn i yn ddim llai na chywilyddus.
Ond rwy'n diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad heddiw ac am ei sylwadau ar y llanastr parhaus wrth inni wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni ar y meinciau hyn, wrth gwrs, yn rhannu ei bryderon y bydd yr ansefydlogrwydd cynyddol ar ben arall yr M4 yn arwain at y Brexit 'dim bargen' trychinebus, fel y disgrifir yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet.
Yn hynny o beth, bydd yn gwybod fy mod wedi gofyn iddo ar sawl achlysur yn y gorffennol, ac mae arweinydd fy mhlaid hefyd wedi gofyn i'r Prif Weinidog, ynglŷn â'r cynllunio wrth gefn a all ddigwydd os ceir Brexit 'dim bargen'. Rwy'n cytuno'n llwyr nad oes unrhyw ffordd o liniaru ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd yn economaidd, waeth beth fo ffurf yr ymadael, heb sôn am ymadawiad 'dim bargen'. Ond, fel yr ydym ni wedi cyfeirio ato yn y gorffennol, mae Pennaeth y GIG yn Lloegr wedi siarad am y cynllunio wrth gefn sy'n digwydd yno o ran storio cyffuriau a chyfarpar meddygol er mwyn osgoi difrod diangen i'r gwasanaethau y mae cleifion a'u teuluoedd yn dibynnu arnynt. A all roi sicrwydd inni fod trafodaethau o'r fath yn digwydd yn Llywodraeth Cymru, ac mewn meysydd sy'n ymwneud ag iechyd nad ydyn nhw wedi'u datganoli, yn enwedig, fel rheoli cyffuriau, bod trafodaethau'n digwydd ar lefel y DU rhwng y gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn osgoi sefyllfa lle nad oes digon o feddyginiaethau ac offer ar gael i'n gwasanaeth iechyd gwladol?
Yn y datganiad, mae sôn am yr angen am hyblygrwydd o ran yr amserlen ar gyfer gwahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n cytuno â hynny. Nid yw'n ymddangos bod y datganiad yn mynd mor bell ag yr aeth Prif Weinidog Cymru ei hun y diwrnod o'r blaen pan ddywedodd y byddai'n croesawu estyniad i'r broses Erthygl 50. Ac, o ystyried y ffaith ei bod hi'n bosib na fydd gennym ni Lywodraeth yn y DU mewn mater o wythnosau, dyddiau neu fisoedd, bydd yr angen i ymestyn y broses 50 Erthygl efallai yn angenrheidiol. Felly, tybed a allai egluro safbwynt Llywodraeth Cymru y dylid ystyried ymestyn erthygl 50, yn enwedig os ceir etholiad cyffredinol yn y DU a'r gohirio anochel y bydd hynny yn ei achosi i drafodaethau â'r Undeb Ewropeaidd.
O ystyried ei arfarniad deifiol—rwy'n credu ei bod hi'n deg ei ddisgrifio yn arfarniad deifiol—o berfformiad Llywodraeth y DU hyd yma a'r ffordd ofnadwy y mae llywodraethau datganoledig yn dal i gael eu trin ar lefel y Cyd-bwyllgor Gweinidogion—deallaf na chafodd Llywodraeth Cymru olwg llawn ar Bapur Gwyn y DU cyn ei gyhoeddi—tybed, felly, o gofio'r ansefydlogrwydd hwnnw, o ystyried y diffyg parch parhaus, hyd yn oed ar ôl llofnodi'r cytundeb rhynglywodraethol ac i hwnnw gael amser i ymwreiddio, a wnaiff Llywodraeth Cymru ailystyried diddymu'r Ddeddf parhad mor frysiog ag y mae'n ei wneud? Oherwydd mae'n swnio i mi fel y dylem ni barhau i fod efallai yn ochelgar rhag dibynnu ar ewyllys da Llywodraeth y DU o ran datblygiadau yn y dyfodol.
O ran datblygiadau yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru heddiw wedi cyhoeddi un o'i chyhoeddiadau mwyaf arwyddocaol hyd yn hyn, rwy'n credu, ynglŷn â'r holl broses Brexit, sef y trefniadau cyllidol yn y dyfodol ar gyfer y DU ar ôl gwahanu oddi wrth yr UE, yn benodol y cwestiwn ynglŷn â pholisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac mae un o'r darnau yn yr adroddiad hwnnw yn nodi:
byddai sefydlu "cronfa ffyniant gyffredin" ar gyfer Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli ac o bosib yn amddifadu rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig o arian y mae ei angen arnynt er mwyn datblygu yn economaidd.
Rydym ni'n cytuno, ond, pe bai Llywodraeth y DU yn symud ymlaen ac yn deddfu waeth beth yw ein dymuniadau yn y fan yma, oni fyddai hi'n ddoeth i ni gael trefniadau deddfwriaethol wrth gefn er mwyn gallu gweithredu ein polisi rhanbarthol ein hunain?
Ychydig o bwyntiau terfynol, Dirprwy Lywydd. Nawr y gwyddom ni fod y grŵp ymchwil Ewropeaidd yn Nhŷ'r Cyffredin wedi cael rhan lawn yn y broses ddeddfwriaethol wrth inni adael yr UE a'u bod wedi llwyddo i newid cylch gorchwyl y Bil masnach, a all Ysgrifennydd y Cabinet egluro beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru o ran y Bil masnach? A fydd Llywodraeth Cymru yn argymell ein bod yn gwrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil Masnach hwnnw, neu a yw eto i ffurfio barn?
Ac, yn olaf, a all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud gair am sylwadau'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddoe na fydd unrhyw ddifidend Brexit i'w wario ar y gwasanaeth iechyd gwladol, neu unrhyw ran arall o'r sector cyhoeddus yn hynny o beth, a bod honiad Prif Weinidog Prydain mai dyna oedd yr achos yn anghywir? A allai felly roi unrhyw esboniad i'r Cynulliad o ran lle y gallem ni ddisgwyl dod o hyd i'r arian ychwanegol a addawyd ar gyfer gwasanaeth iechyd gwladol Cymru, yn ychwanegol wrth gwrs i'r £350 miliwn yr wythnos hynny yr ydym ni i gyd yn dal i edrych ymlaen ato?