Part of the debate – Senedd Cymru am 5:07 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Llywydd, mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd wedi gwneud ei phwynt yn dda iawn, iawn—mae’r heriau sydd o'n blaenau yn ddifrifol ac yn sylweddol. O ystyried y modd y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, wrth weithredu fel Llywodraeth Lloegr, yn ceisio lleihau cymorth i awdurdodau lleol i bron ddim a gwneud i awdurdodau lleol—gorfodi awdurdodau lleol—i fod yn hunangynhaliol, bydd yn amlwg yn cael effaith ar yr ochr hon i'r ffin yn ogystal.
Mae'n gwestiwn da iawn—beth yn union fydd effaith hynny. Byddwn i wrth fy modd, Llywydd, yn gallu rhoi ateb i hynny i’r Aelod. Dydw i ddim yn gwybod beth fydd yr effaith. Yn amlwg, mae'n gwestiwn pwysig i ddyfodol y setliad, ond mae'n fater y mae angen inni roi sylw iddo o ddifrif.
Rwy’n meddwl, o ran cymharu gwahanol ddulliau o gefnogi llywodraeth leol, y byddwch chi’n gweld dargyfeirio sylweddol dros y blynyddoedd nesaf. Wrth i Lywodraeth y DU yn Lloegr gefnu ar lywodraeth leol a cheisio lleihau a gwanhau awdurdodau lleol, sy'n lleihau rôl democratiaeth leol, yng Nghymru hoffem ni fuddsoddi yn nyfodol llywodraeth leol a buddsoddi yn nyfodol democratiaeth leol. Hoffwn i weld awdurdodau lleol, o ganlyniad i'r gweithgor hwn, yn gwneud mwy ac nid llai. Hoffwn i eu gweld nhw’n cael mwy o bwerau ac nid llai o bwerau. Hoffwn i eu gweld nhw’n gallu gweithredu fel llunwyr a gwneuthurwyr cymunedau a lleoedd mewn ffordd y mae llawer yn methu â’i wneud heddiw, a hoffwn i i’n hawdurdodau lleol ni allu bod yn gynaliadwy yn y dyfodol.
Mae sut i gyflawni hyn yn amlwg yn destun sgwrs. Llywydd, mae’r Aelod dros Ganol Caerdydd yn codi mater byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy’n credu bod byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ffordd dda o ddarparu gwasanaethau ar draws ardal ddaearyddol ehangach, ac mae gennyf ddiddordeb mewn deall sut y gellid defnyddio byrddau gwasanaethau cyhoeddus fel modd o gynllunio gwasanaethau a chyflenwi gwasanaethau ar y cyd yn well, ac rwy’n meddwl bod hwn yn gyfle da iawn inni i seilio llawer o waith cychwynnol, o leiaf, y gweithgor yn y model byrddau gwasanaethau cyhoeddus o ddarparu gwasanaethau.
O ran materion eraill, mae mater y gyflogres yn enghraifft ddiddorol i’w defnyddio, o ran pa wasanaethau y gellid eu rhannu a sut y byddem ni’n cyflenwi gwasanaethau a rennir yn y dyfodol. Rwy’n gwybod bod llawer o arweinwyr llywodraeth leol—ac rwyf wedi trafod yr union fater hwn gyda rhai arweinwyr llywodraeth leol—ar hyn o bryd yn gobeithio sicrhau bod mwy o gyfrifoldeb cyffredin dros gyflenwi rhai o'r swyddogaethau gweinyddol hynny, ac rwy’n clywed rhai syniadau gwirioneddol arloesol, cyffrous a chreadigol gan lywodraeth leol ynghylch sut y gellir datblygu hynny yn y dyfodol.
Diben y gweithgor hwn, Llywydd, yw dod â’r syniadau hyn at ei gilydd, ystyried y dyfodol a datblygu a chyflawni cynllun sydd ddim yn ymwneud yn syml ag uno, ond sy'n diwygio’r sector cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru, ac sy’n symleiddio ac yn llyfnhau’r ffordd yr ydym ni’n cynnal Llywodraeth yng Nghymru, ac yna gyflawni hynny dros gyfnod hirach. Rwy’n credu bod honno’n agenda gyffrous iawn, iawn, ac rwy’n gobeithio y gwnaiff Aelodau ar bob ochr i'r Siambr hon gyfrannu at y weledigaeth honno.