Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Roedd yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd yn amlinellu cynigion i greu cynghorau mwy o faint, cryfach a mwy cynaliadwy, fel y nodwyd yn ein maniffesto. Roedd y Papur Gwyrdd yn cynnig tri llwybr posibl i gyflawni hyn: uno gwirfoddol; uno graddol gydag uno cynhwysfawr yn yr etholiadau llywodraeth leol ar ôl y nesaf; ac uno cynhwysfawr cyn gynted â phosibl. Roedd hefyd yn tynnu sylw at gynigion eraill i’w hystyried, gan gynnwys cydnabyddiaeth ehangach i gyfraniad gwerthfawr aelodau etholedig, y cwmpas posibl ar gyfer rhannu gwasanaethau a phwerau ychwanegol, a hyblygrwydd i awdurdodau lleol. Roedd hefyd yn cydnabod pwysigrwydd parhau â gwaith rhanbarthol clir, penderfynol gan awdurdodau, sydd eisoes yn gweld manteision i lawer o wasanaethau.
Roedd y Papur Gwyrdd yn cynnig ôl troed penodol ar gyfer dyfodol diwygio llywodraeth leol. Roeddwn i’n glir iawn o'r dechrau fy mod i’n credu y byddai ôl troed o'r fath yn bwysig i gyflawni newid cyson a thryloyw, ac rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn trafodaeth ynglŷn â sut y gallai hyn edrych, os a sut y gellid ei ddefnyddio.
At ei gilydd, Llywydd, cawsom dros 170 o ymatebion i'r ymgynghoriad hwn, a heddiw, byddaf yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion hynny. Rwy’n falch ein bod wedi cael ymatebion o bob rhan o gymdeithas Cymru a bod llawer o aelodau o'r cyhoedd wedi ymateb, gan ddangos y gwerth y maen nhw'n ei roi ar atebolrwydd democrataidd lleol. Roedd y mwyafrif o'r rhai a ymatebodd o blaid creu nifer llai o awdurdodau lleol mwy o faint, a chafodd hyn ei adlewyrchu’n arbennig yn yr ymatebion gan y cyhoedd. Ar yr un pryd, doedd y rhan fwyaf o awdurdodau lleol ddim yn gefnogol i newid o'r fath mewn egwyddor, er eu bod yn agored i newid gwirfoddol wedi’i arwain yn lleol.
Rwyf wedi dweud drwy gydol yr ymgynghoriad hwn nad oeddwn wedi ymrwymo i unrhyw un map a fy mod yn gwahodd dadleuon a chynigion ar gyfer dewis amgen i’r opsiynau a amlinellwyd gennym ni. Mae'n glir o'r ymatebion i'r Papur Gwyrdd nad oes cytundeb clir ar fap penodol, ond ar yr un pryd, does dim dewis arall wedi cael ei gynnig.
Rwyf wedi gwrando'n astud drwy gydol yr ymgynghoriad ac wedi dweud erioed yr hoffwn i weithio gyda llywodraeth leol i gytuno mewn partneriaeth ar ffordd i sicrhau dyfodol cynaliadwy i gymunedau lleol. Fodd bynnag, dydy dim newid ddim yn opsiwn, nac ychwaith dod o hyd i fwy o arian ar adeg o gyni a dryswch parhaus dros Brexit. Hoffwn i weithio gyda llywodraeth leol i gytuno ar weledigaeth a rennir ar gyfer y dyfodol, ac i ddatblygu atebion ar y cyd i'r heriau sy’n eu hwynebu. Wnaiff yr heriau hynny, ynghylch sut i gynnal gwasanaethau cyhoeddus blaengar yng nghyd-destun cyfnod o gyni hirdymor, ddim mynd i ffwrdd.
Mae’r ymgynghoriad wedi awgrymu bod awydd ymhlith llywodraeth leol i gydweithio i fwrw ymlaen ag uno gwirfoddol ac i gynyddu a gwella gweithio rhanbarthol. Felly, rwy’n bwriadu cyflwyno’r Bil llywodraeth leol (Cymru) yn gynnar y flwyddyn nesaf i ddeddfu er mwyn galluogi hyn i symud ymlaen cyn gynted â phosibl. Cafodd hyn, Llywydd, ei gadarnhau gan y Prif Weinidog yn gynharach heddiw. Bydd y Bil hefyd yn darparu ar gyfer diwygio etholiadol, newidiadau i drefniadau llywodraethu a pherfformiad llywodraeth leol, a nifer o gynigion eraill, gan gynnwys y pŵer cymhwysedd cyffredinol, a gefnogwyd yn fras yn yr ymgynghoriad.
Ond ni allwn anwybyddu'r angen am ddiwygio mwy sylfaenol, na symud oddi wrtho. Felly rwy’n bwriadu sefydlu, mewn partneriaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, gweithgor annibynnol i lunio ymagwedd a rennir a fydd yn llywio dyfodol llywodraeth leol a chyflenwi gwasanaethau yn y dyfodol. Rwy’n falch iawn o ddweud bod Derek Vaughan wedi cytuno i ymgymryd â swyddogaeth cadeirydd y grŵp hwn, a bydd aelodaeth y grŵp yn dod yn bennaf o lywodraeth leol gyda chefnogaeth ysgrifenyddiaeth ar y cyd o Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddan nhw'n ystyried yr ystod eang o safbwyntiau a syniadau a fynegwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a’r ddadl. Bydd y grŵp yn gyfrifol am gynnig ffordd ymlaen o ran strwythurau, pwerau ychwanegol, hyblygrwydd a chymorth i newid. Yr allbwn fydd cynllun pellweledol a hirdymor ar gyfer newid, a bydd yn cynnwys cynigion ar gyfer newid strwythurol a ysgogir gan lywodraeth leol a beth fyddai'r ffordd orau o gefnogi’r newidiadau hynny a'r broses hon a'r rhaglen ddiwygio, gan a thrwy Lywodraeth Cymru.
Llywydd, byddaf yn parhau i ddiweddaru'r Aelodau am waith y grŵp wrth iddo fwrw ymlaen.