Part of the debate – Senedd Cymru am 5:50 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
Fodd bynnag, hoffwn gofnodi unwaith eto fy mod yn ymwybodol iawn o ba mor anodd fu'r cyfnod hwn i'r unigolion, y teuluoedd a'r cleifion yr effeithiwyd arnynt gan y pryderon gwreiddiol. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan nifer o deuluoedd Tawel Fan ac mae fy swyddfa ar hyn o bryd yn cytuno ar amser i mi gwrdd â nhw eto, nawr fod yr adroddiadau i gyd yn gyhoeddus. Rwy'n deall hefyd sut y mae'n rhaid bod staff y bwrdd iechyd yn teimlo bod eu bwrdd iechyd yn y penawdau unwaith eto o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Byddaf yn canolbwyntio yn awr ar symud y bwrdd iechyd ymlaen, dysgu o'r gorffennol a rhoi camgymeriadau'r gorffennol y tu ôl iddynt i sicrhau gwelliant gwirioneddol a pharhaus.
Bu gwelliant yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn Betsi Cadwaladr ers 2013. Fodd bynnag, mae ganddyn nhw daith hir o'u blaenau. Yn ei chyflwyniad i'r bwrdd yr wythnos diwethaf, tynnodd Donna Ockenden ei hun sylw at feysydd o gynnydd ac yn enwedig gwaith y cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth ar reoli cwynion, pryderon a diogelu. Fodd bynnag, mae'n bwysig bod y bwrdd iechyd lleol yn cyfathrebu'n fwy effeithiol y gwelliannau a wneir er mwyn ailadeiladu ffydd eu poblogaeth yn eu gwasanaethau iechyd meddwl. Rwy'n gwybod bod y prif weithredwr yn cydnabod yr angen i wneud hyn ac mae erbyn hyn wedi ysgrifennu llythyr agored sy'n disgrifio'r gwelliannau diweddar mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Mae'r gwelliannau hynny yn ymateb i argymhellion Donna Ockenden a'r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Er enghraifft, mae yna strwythur rheoli cwbl newydd ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl erbyn hyn.
Rwy'n gwybod hefyd fod adroddiad blynyddol diweddaraf Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi ei gyflwyno i'r bwrdd yr wythnos diwethaf. Yn briodol, adroddodd fod yna feysydd lle ceir pryder parhaus o hyd, ond nododd yr adroddiad hefyd fod y cleifion, yn gyffredinol, yn hapus â'r gofal a gawsant, y staff yn teimlo'u bod yn cael eu cefnogi, ac mae tystiolaeth dda o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf. Amlygodd hefyd fod y bwrdd iechyd wedi bod yn agored ac yn ymatebol drwy gydol ei ymwneud ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac yn bwysig, fod yr arweinyddiaeth wedi cryfhau ers 2013 ac yn fwy effeithiol yn dilyn newidiadau sylfaenol i'w strwythur.
At hynny, roedd asesiad strwythuredig diweddaraf Swyddfa Archwilio Cymru o fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn tynnu sylw at y cynnydd a wneir wrth fynd i'r afael ag argymhellion blaenorol, a bod cynllunio strategol a threfniadau gweithredol yn gyffredinol yn effeithiol. Fodd bynnag, rhaid i gyflymder y gwelliant hwn gynyddu.
Wrth fwrw ymlaen, bydd y cadeirydd newydd yn arwain bwrdd ar ei newydd wedd, ar ôl recriwtio is-gadeirydd newydd a thri aelod annibynnol. Mae yna newidiadau hefyd yn y tîm cyfarwyddwyr gweithredol, gan gynnwys cyfarwyddwr gweithredol y gweithlu a datblygu sefydliadol newydd a benodwyd yn ddiweddar, ac mae cyfarwyddwr gofal sylfaenol a chyfarwyddwr strategaeth ar fin cael eu recriwtio.
Cytunodd y bwrdd yn ei gyfarfod ar 12 Gorffennaf i sefydlu grŵp gwella i ymateb i argymhellion HASCAS ac Ockenden. Bydd y grŵp yn cael ei gadeirio gan y cyfarwyddwr gweithredol nyrsio a bydwreigiaeth, ac yn arwain, yn llywodraethu ac yn craffu ar y cynnydd o'i gymharu â'r argymhellion. Disgwyliaf i'r grŵp hwnnw adrodd yn rheolaidd i'r bwrdd llawn. Rydym ni'n parhau i roi rhagor o gymorth trawsnewid dwys ar gyfer y gwelliannau, gyda phwyslais cychwynnol ar gefnogi gwell llywodraethu ac atebolrwydd, gwaith â phwyslais ar y cyd â chlinigwyr a phartneriaid i sicrhau gwelliannau cynaliadwy, a'r cyfan yn ymateb yn uniongyrchol i faterion a godwyd yn adroddiad Donna Ockenden.
Mae'n bwysig hefyd nodi cynnydd a wnaed mewn gwasanaethau eraill, yn enwedig gwasanaethau mamolaeth, a gafodd eu hisgyfeirio o fesurau arbennig yn gynharach eleni. Mae hynny'n dangos beth y gall y bwrdd iechyd ei gyflawni ag arweinyddiaeth a chamau gweithredu â phwyslais. Ond dydw i ddim o dan unrhyw gamargraff. Rwy'n cydnabod bod yr adolygiad yn atgyfnerthu'r hyn y gwyddom eisoes am sefyllfa'r bwrdd iechyd a pham iddo gael ei roi mewn mesurau arbennig—mae'n adlewyrchu gwaith sylweddol sydd i'w wneud o hyd.
Mae dros bedair blynedd a hanner ers i bryderon gael eu codi am y tro cyntaf ynghylch y gofal a'r driniaeth ar ward Tawel Fan. Mae cyhoeddi adroddiad Donna Ockenden ac ymchwil HASCAS yn nodi diwedd y gyfres hir ond angenrheidiol o ymchwiliadau ac adolygiadau. Fel y dywedais yn gynharach, mae'n rhaid i'r pwyslais yn awr fod ar fwrw ymlaen a chynyddu cyflymder y gwella. Dydy staff a chyhoedd y gogledd yn haeddu dim llai.