Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 17 Gorffennaf 2018.
A gaf fi ddechrau hefyd drwy ddiolch i Donna Ockenden a'i thîm am eu gwaith wrth baratoi'r adroddiad hwn? Byddwn i wrth fy modd yn gallu ymestyn yr un diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad, ond mae arnaf ofn na allaf wneud hynny. Dydw i ddim yn teimlo y galla’i wneud hynny, a rhaid imi ddweud bod y paragraff cyntaf yn gosod y dôn, onid yw? Does ond rhaid ichi edrych ar yr ail frawddeg,
'Dyma adroddiad anodd arall i’r bwrdd'
—nid i Lywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gyfrifol am Betsi Cadwaladr am y tair blynedd diwethaf, ond i’r bwrdd, ac yna rydych chi’n mynd ymlaen i ddweud,
'Mae'r neges yn glir: rhaid i'r bwrdd gyflymu’r gwelliant a’r newid.'
Onid yw hyn yn ei wneud yn adroddiad anodd i'r Llywodraeth? Onid y Llywodraeth a ddylai gyflymu’r gwelliant a’r newid? Onid ydych chi’n gweld hyn fel eich cyfrifoldeb chi? Onid ydych chi’n gweld hyn fel eich problem chi? Neu, efallai, rwy’n meddwl, fod hynny'n rhan o'r broblem yma, ac yn rhywbeth yr ydych chi’n dal i fethu â rhoi sylw iddo. Ac yna rydym ni’n mynd ymlaen at y paragraff nesaf—ceir tonau cydymdeimladol a gresynu, o fath yma, ac nid wyf yn amau hynny, ond does dim ymddiheuriad, fel sydd wedi’i awgrymu eisoes. Onid oes arnoch chi ymddiheuriad i'r bobl hynny y mae eu bywydau wedi bod yn uffern dros y blynyddoedd diwethaf oherwydd llawer o'r methiannau hyn? Ac, wedi ichi fethu ag ymateb i'r cais hwnnw yn gynharach, byddwn yn gofyn ichi eto a wnewch chi ddefnyddio'r cyfle hwn y prynhawn yma i roi’r ymddiheuriad diamwys hwnnw i'r bobl hynny sydd allan yno sy'n dioddef oherwydd y methiannau hyn i gyd.
Nawr, mae eich datganiad yn pwysleisio bod y materion Tawel Fan yn ymwneud â’r gorffennol, wrth gwrs, ac mae angen inni ddysgu gwersi a symud ymlaen. Ond, fel y mae Ockenden yn ei ddangos yn glir, mae adroddiadau niferus wedi tynnu sylw at y problemau hyn, a dydy’r gwersi heb gael eu dysgu ac mae’r problemau hynny’n dal i fodoli. Dywedwch wrthym ni, felly, pam dylem ni fod yn hyderus yn eich gallu chi a'r Llywodraeth i ddysgu'r gwersi hynny y tro hwn, a chithau yn amlwg wedi methu â gwneud hynny dros y blynyddoedd? Mae Ockenden yn dweud wrthym, os caf i ddyfynnu,
'Mae staff meddygol a nyrsio yn parhau i beri pryder ' o fewn iechyd meddwl pobl hŷn hyd heddiw.
'Roedd nyrsys clinigol ar draws OPMH ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn disgrifio...staffio yn 2017 fel "anodd iawn" ac fel "diffodd tanau yn gyson." Hefyd, disgrifiodd nyrsys staffio fel "gwaeth nawr".'
Felly, dydy hyn ddim yn y gorffennol. Mae hyn o dan eich goruchwyliaeth chi, o dan eich rheolaeth chi, gyda'r bwrdd, wrth gwrs, o dan fesurau arbennig. Felly, oni wnewch chi gymryd mymryn o gyfrifoldeb am y sefyllfa bresennol, fel mae’r adroddiad yn ei disgrifio hi?
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at fethiant i ymchwilio i ddigwyddiadau difrifol ac i ymdrin â chwynion teuluoedd yn ddigonol. Mor ddiweddar â mis Hydref y llynedd, dywedodd llythyr gan nyrs glinigol rheng flaen a oedd wedi cyfrannu at yr adolygiad llywodraethu,
'"sut byddwn i’n teimlo am fod yn nyrs? Agored i niwed, anniogel, heb gymorth gan uwch reolwyr, gan eu bod nhw’n anwybodus o’r ffaith ei fod yn digwydd—er gwaethaf yr holl gofnodi digwyddiadau. Pam? Oherwydd dydyn nhw ddim yn mynd ar y wardiau mwyach. Maen nhw’n aros yn eu swyddfeydd yn dweud wrth benaethiaid yr ymddiriedolaeth nad oes gennym ni ddim problemau, er ei bod hi’n amlwg, pe baen nhw’n siarad â’r staff ar y llawr, dydyn ni ddim yn teimlo’n ddiogel mwyach".
'Mae'r nyrs hefyd yn disgrifio cleifion fel “ddim yn ddiogel gan nad oes digon o staff” ac "mae cleifion yn aros heb feddyginiaeth oherwydd nad oes meddygon ar wardiau". Ychwanegodd "mae arian yn bwysicach na diogelwch cleifion a staff. Rydw i’n teimlo mwy fel gard carchar na nyrs, yn ceisio cadw’r wardiau a'r cleifion yn ddiogel"'.
Diwedd 2017 yw hyn, ychydig fisoedd yn ôl—nid 2015, nid yn y gorffennol pell. Ac mae hyn ar ôl dwy flynedd o fesurau arbennig y Llywodraeth. Felly pryd ydych chi’n meddwl y byddwch chi'n gallu dweud bod Betsi Cadwaladr yn holliach? Rydych chi newydd ddweud eich bod chi’n disgwyl i’r mesurau arbennig gymryd cyhyd ag y maen nhw’n ei gymryd. Sut yn union, felly, ydym ni’n mesur eich perfformiad? Ai dim ond dychwelyd at y datganiadau hyn dro ar ôl tro ar ôl tro?
Yn olaf, os na welwn ni newidiadau strwythurol difrifol yn y ffordd y darperir gofal iechyd yn y gogledd, rwy’n ofni y byddwn ni’n gweld rhagor o adroddiadau'n tynnu sylw at yr un problemau yn y blynyddoedd sydd i ddod. Os nad yw’r bobl â gofal yn gallu dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol, fel sydd yn amlwg wedi digwydd o'r blaen, byddwn ni’n gweld yr hunllef erchyll hwn yn ailadrodd ei hun. Ar ôl bron i ddegawd o hercian o un argyfwng i’r nesaf, onid yw'n bryd inni dynnu llinell o dan fwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr ac ystyried a ddylid ei ailstrwythuro? Ac os nad nawr, beth fydd yn ei gymryd, a phryd wnewch chi dderbyn bod yn rhaid i rywbeth newid?