Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rydym yn cefnogi busnesau ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn y sector twristiaeth, drwy ystod o gynlluniau rhyddhad ardrethi. Yn y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn darparu £210 miliwn mewn rhyddhad ardrethi, gan gefnogi mwy na thri chwarter o dalwyr ardrethi busnes yng Nghymru.