Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Wel, Llywydd, clywais i beth ddywedodd Ken Skates yn y datganiad yma ddoe. Clywais i beth ddywedodd Aelodau eraill hefyd am y buddsoddiad nad ydym ni wedi'i gael yma yng Nghymru oddi wrth y Deyrnas Unedig yn y rheilffyrdd sydd gyda ni. Rwy'n edrych ymlaen at yr adroddiad yr ydym ni'n mynd i'w gael am ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Mae nifer o bethau lle rŷm ni wedi cytuno i wneud gwaith i weld sut rŷm ni'n gallu mynd ymlaen â nhw yn y dyfodol ond bydd yn rhaid i ni aros am yr adroddiad ar y rheilffordd. Ond mae mwy nag un o adroddiadau rŷm ni'n aros i'w gweld a bydd yn rhaid i ni gyda'n gilydd wneud rhyw fath o flaenoriaethau mas o'r pethau rŷm ni wedi edrych i mewn iddyn nhw i weld beth rŷm ni'n gallu ei wneud a sut rŷm ni'n gallu eu gwneud nhw yn y dyfodol.