Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Wel, cyn bo hir, bydd y Llywodraeth yn derbyn yr astudiaeth dichonoldeb yn deillio o'r cytundeb gyda Plaid Cymru ar ailagor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth. Pan ddaeth y Prif Weinidog i'r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog yn Aberystwyth, fe wnaeth dywallt dŵr oer dros y syniad o ailagor y rheilffordd, chwedl golygyddol y Cambrian News. Ond, erbyn hyn, gyda'r cyhoeddiad ddoe gan Ken Skates o cyn lleied o arian rŷm ni wedi ei dderbyn i fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng Nghymru, a'r ffaith bod gyda chi drafodaethau i gael mynediad at y rheilffyrdd a'r arian yn llifo o'r Llywodraeth yma i Llywodraeth San Steffan, a'r ffordd arall rownd, onid yw'n briodol ac yn amser i wneud yr achos cenedlaethol dros ailagor y rheilffordd yma, ac a ydych chi a'ch Llywodraeth chi yn barod i arwain y frwydr yma i gael y buddsoddiad sydd yn haeddiannol ond sydd hefyd yn deilwng i'r rhan yma o'r byd?