Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch i Jack Sargeant am ei gwestiwn. Llywodraeth Cymru a gomisiynodd yr adroddiad y cyfeiria ato ac rydym yn croesawu'r cyfraniad a wna i lywio'r drafodaeth ar drethu yng Nghymru ac i gefnogi datblygiad polisi treth. Mae'r adroddiad yn ychwanegu at gorff cynyddol o waith ar drethi yng Nghymru, gan gynnwys adroddiad diweddar yr Athro Gerry Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol.