Buddsoddi Mewn Seilwaith yng Ngorllewin Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:02, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb. Nawr, mae adolygiad hanner ffordd cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru yn tynnu sylw at y dyraniad o £110 miliwn o raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol Llywodraeth Cymru er mwyn adfywio canol trefi ledled Cymru. Wrth gwrs, mae Aberdaugleddau yn fy etholaeth wedi bod ar frig y rhestr cyfraddau siopau gwag yn rheolaidd dros yn y blynyddoedd diwethaf, ac felly, o ystyried y problemau hanesyddol yn sir Benfro, a allech ddweud wrthym sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddyrannu ledled Cymru, a pha gyllid penodol o'r rhaglen honno a fydd yn cael ei ddyrannu i adfywio trefi yn fy etholaeth i?