Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Wel, Lywydd, nid wyf yn ymdrin â manylion y penderfyniad hwnnw fel Ysgrifennydd cyllid; rwy'n darparu'r arian i fy nghyd-Aelodau portffolio, ac yna maent yn gwneud y penderfyniadau y cyfeiria Paul Davies atynt, ac maent yn benderfyniadau pwysig iawn. A gwn fod gan fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd yr economi a thrafnidiaeth, gryn ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ddefnyddio'r cyllid a ddarparwyd i adfywio canol trefi ledled Cymru, gan gynnwys gorllewin Cymru. Byddaf yn sicrhau bod yr Aelod yn cael manylion y cwestiwn a ofynnodd i mi.