Brexit

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:20, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Mike Hedges am ei gwestiwn. Hoffwn ei sicrhau bod llywodraeth leol yn chwarae rhan bwysig yn ein proses gynllunio a'i bod yn cael ei chynrychioli'n dda iawn yn y grŵp cynghori ar Ewrop gan arweinydd cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, sy'n rhoi adroddiadau rheolaidd yn y grŵp hwnnw ynglŷn â materion sy'n peri pryder i awdurdodau lleol a'r camau sy'n cael eu cymryd. Yn gynharach y mis hwn, roeddwn yn falch iawn o allu cadarnhau gwerth £150,000 o gymorth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru o'n cronfa bontio Undeb Ewropeaidd £50 miliwn, ac mae'r gronfa honno yno i gynorthwyo awdurdodau lleol gyda'r gwaith hanfodol a wnânt wrth baratoi ar gyfer Brexit.