Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
A gaf fi sôn am Brexit yn nhermau sefydliadau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn aml, a llywodraeth leol yn benodol? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o senario 'dim bargen'? Oherwydd yn aml, nid yw awdurdodau lleol yn cael eu crybwyll pan fyddwn yn sôn am Brexit, ond mewn llawer o achosion, byddant ar y rheng flaen pan fyddwn yn gadael.