Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch, Lywydd. A yw'r ffordd y mae treth incwm yn cael ei datganoli'n rhannol i Gymru yn gwyro cymhellion Llywodraeth Cymru tuag at gynyddu trethi, yn yr ystyr ein bod yn cael budd refeniw yn sgil unrhyw gynnydd yn y gyfradd dreth yng Nghymru, ond byddai unrhyw ostyngiad gwrthbwyso ar draws y sylfaen drethu o ganlyniad i newidiadau mewn ymddygiad wrth i bobl wynebu trethi uwch—rhwng hanner a thri chwarter y refeniw a gollir ar y sylfaen drethu honno—yn cael eu teimlo gan Lywodraeth y DU, na fydd yn gwneud y penderfyniad?