Brexit

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:18, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ond fe allwch lunio cynlluniau wrth gefn, ac nid oes unrhyw anghysondeb rhwng y ddau safbwynt. Dyna a ddywedais yn fy ateb i'r Aelod. Bydd yr hyn a ddywedodd yr archwilydd cyffredinol yn ei lythyr ymadawol, yn rhywfaint o gysur iddi rwy'n siŵr. Dywedodd ei bod

'yn ymddangos bod gwaith yn symud ymlaen o fewn Llywodraeth Cymru a llawer o gyrff cyhoeddus eraill ledled Cymru i reoli rhai o’r heriau cynharaf y mae proses Brexit a’i hansicrwydd parhaus yn eu gosod'.

Felly, roedd yn amlwg i'r archwilydd cyffredinol fod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Rwy'n ei sicrhau ei fod. Buom yn ei drafod yn fanwl ar lawr y Cynulliad ddoe. Natur wrth gefn sydd i'r cynlluniau hynny. Nid oes unrhyw gynllun a all gael gwared yn gyfan gwbl ar effaith drychinebus gadael heb gytundeb ar Gymru.