10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:36 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:36, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ond yn enwedig i'r bobl a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws. Roedd clywed oddi wrthynt am heriau gwaith heb ddiogelwch, cyflogau isel a mynediad at y system les yn canolbwyntio ein meddyliau ac yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein casgliadau. Mae anghydraddoldeb yn achosi niwed mawr i'n cymunedau mewn cymaint o ffyrdd, gan leihau ansawdd bywyd i bawb, gan gynnwys pobl sy'n gymharol ffyniannus. Caiff hyn ei gydnabod yn fwyfwy amlwg, a chodwyd ymwybyddiaeth gan gyhoeddiadau megis y llyfr The Spirit Level. Mae Cymru'n wynebu heriau penodol o ran gwella safonau byw, ac mae'r adroddiad hwn yn un elfen o waith y pwyllgor i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi. Rydym yn gwneud 23 o argymhellion i gyd ar amrywiaeth eang o faterion, o strategaeth economaidd y Llywodraeth i ansawdd gwaith a lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwe argymhelliad, wedi derbyn 15 mewn egwyddor ac wedi gwrthod dau.

Mae'r ymateb yn siomedig mewn mannau. Yn benodol, ceir diffyg manylder neu ymgysylltiad ystyrlon â'r argymhellion, a'r dystiolaeth sy'n sail iddynt. Mewn rhai meysydd, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo na all ymrwymo i argymhellion penodol hyd nes y cwblheir yr adolygiad caffael parhaus. Buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i ddod yn ôl i'r pwyllgor yn sgil cyhoeddi'r adolygiad hwnnw gydag ymateb mwy manwl i argymhellion 14, 15 ac 16 ar gaffael. Hefyd, ceir y gweithgarwch parhaus ar waith teg, sy'n cael ei adlewyrchu yn safbwynt y Llywodraeth. Caiff argymhellion 18, 20, 21 a 22 eu trosglwyddo, i bob pwrpas, i'r comisiwn gwaith teg eu hystyried. Mae'r argymhellion hyn yn ymwneud â lleihau'r defnydd o gontractau dim oriau, cynyddu'r defnydd o'r cyflog byw a lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Gan fod y rhain oll yn faterion a allai effeithio'n uniongyrchol ar lefelau cyflogau pobl yn rheng flaen y farchnad lafur, mae'n destun pryder fod penderfyniadau wedi eu gohirio tan y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i fonitro'r ymateb i'r argymhellion hyn a chynnydd y comisiwn gwaith teg. Fel gyda chaffael, byddem yn disgwyl cael ymatebion manwl i'n hargymhellion gan Lywodraeth Cymru ar ôl i'r comisiwn gyflwyno'i adroddiad.

Lywydd, drwy gydol ein gwaith, roedd yna nifer o gyhoeddiadau polisi allweddol gan Lywodraeth Cymru a gafodd eu hystyried gennym, yn enwedig cyhoeddi'r cynllun gweithredu economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd. Er ein bod yn croesawu'r newid dull at ei gilydd, roeddem yn rhannu pryderon rhanddeiliaid fod y ddau gynllun yn brin o gamau gweithredu clir, terfynau amser a dangosyddion y gellir mesur perfformiad yn eu herbyn. Felly rydym wedi gwneud argymhelliad 2, sy'n galw am un cynllun gweithredu cydgysylltiedig sy'n manylu ar sut y cyflawnir y cynllun gweithredu economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd. Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn mewn egwyddor, gan ddweud y bydd yn parhau i ystyried y dulliau gorau posibl ar gyfer rheoli ac adrodd ar gyflawniad, a bydd yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd ym mis Medi. Mae hefyd yn cyfeirio at y dangosyddion llesiant fel mecanwaith i sicrhau dulliau cyson o fesur. Nid ydym yn teimlo bod hyn yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn pryderu bod perygl na fydd y bwriadau da yn y ddau gynllun pwysig hwn yn cael eu gwireddu heb bennu amserlenni clir, amcanion cyflawnadwy a cherrig milltir. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ni fel Aelodau'r Cynulliad graffu ar effeithiolrwydd y cynlluniau. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â pham na chafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn yn llawn.