10. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Gwneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel

– Senedd Cymru am 5:36 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:36, 18 Gorffennaf 2018

Mae hynny'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef y ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar wneud i'r economi weithio i'r rheini sydd ag incwm isel. Rwy'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM6771 John Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Gwneud i’r economi weithio i’r rheini sydd ag incwm isel', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Mai 2018.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:36, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad ein pwyllgor. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ond yn enwedig i'r bobl a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws. Roedd clywed oddi wrthynt am heriau gwaith heb ddiogelwch, cyflogau isel a mynediad at y system les yn canolbwyntio ein meddyliau ac yn dylanwadu'n uniongyrchol ar ein casgliadau. Mae anghydraddoldeb yn achosi niwed mawr i'n cymunedau mewn cymaint o ffyrdd, gan leihau ansawdd bywyd i bawb, gan gynnwys pobl sy'n gymharol ffyniannus. Caiff hyn ei gydnabod yn fwyfwy amlwg, a chodwyd ymwybyddiaeth gan gyhoeddiadau megis y llyfr The Spirit Level. Mae Cymru'n wynebu heriau penodol o ran gwella safonau byw, ac mae'r adroddiad hwn yn un elfen o waith y pwyllgor i helpu i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thlodi. Rydym yn gwneud 23 o argymhellion i gyd ar amrywiaeth eang o faterion, o strategaeth economaidd y Llywodraeth i ansawdd gwaith a lles. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn chwe argymhelliad, wedi derbyn 15 mewn egwyddor ac wedi gwrthod dau.

Mae'r ymateb yn siomedig mewn mannau. Yn benodol, ceir diffyg manylder neu ymgysylltiad ystyrlon â'r argymhellion, a'r dystiolaeth sy'n sail iddynt. Mewn rhai meysydd, mae Llywodraeth Cymru yn teimlo na all ymrwymo i argymhellion penodol hyd nes y cwblheir yr adolygiad caffael parhaus. Buaswn yn gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gytuno i ddod yn ôl i'r pwyllgor yn sgil cyhoeddi'r adolygiad hwnnw gydag ymateb mwy manwl i argymhellion 14, 15 ac 16 ar gaffael. Hefyd, ceir y gweithgarwch parhaus ar waith teg, sy'n cael ei adlewyrchu yn safbwynt y Llywodraeth. Caiff argymhellion 18, 20, 21 a 22 eu trosglwyddo, i bob pwrpas, i'r comisiwn gwaith teg eu hystyried. Mae'r argymhellion hyn yn ymwneud â lleihau'r defnydd o gontractau dim oriau, cynyddu'r defnydd o'r cyflog byw a lleihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Gan fod y rhain oll yn faterion a allai effeithio'n uniongyrchol ar lefelau cyflogau pobl yn rheng flaen y farchnad lafur, mae'n destun pryder fod penderfyniadau wedi eu gohirio tan y flwyddyn nesaf. Byddwn yn parhau i fonitro'r ymateb i'r argymhellion hyn a chynnydd y comisiwn gwaith teg. Fel gyda chaffael, byddem yn disgwyl cael ymatebion manwl i'n hargymhellion gan Lywodraeth Cymru ar ôl i'r comisiwn gyflwyno'i adroddiad.

Lywydd, drwy gydol ein gwaith, roedd yna nifer o gyhoeddiadau polisi allweddol gan Lywodraeth Cymru a gafodd eu hystyried gennym, yn enwedig cyhoeddi'r cynllun gweithredu economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd. Er ein bod yn croesawu'r newid dull at ei gilydd, roeddem yn rhannu pryderon rhanddeiliaid fod y ddau gynllun yn brin o gamau gweithredu clir, terfynau amser a dangosyddion y gellir mesur perfformiad yn eu herbyn. Felly rydym wedi gwneud argymhelliad 2, sy'n galw am un cynllun gweithredu cydgysylltiedig sy'n manylu ar sut y cyflawnir y cynllun gweithredu economaidd a'r cynllun cyflogadwyedd. Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn hyn mewn egwyddor, gan ddweud y bydd yn parhau i ystyried y dulliau gorau posibl ar gyfer rheoli ac adrodd ar gyflawniad, a bydd yn cyhoeddi adroddiad cynnydd ar y cynllun cyflogadwyedd ym mis Medi. Mae hefyd yn cyfeirio at y dangosyddion llesiant fel mecanwaith i sicrhau dulliau cyson o fesur. Nid ydym yn teimlo bod hyn yn mynd yn ddigon pell. Rydym yn pryderu bod perygl na fydd y bwriadau da yn y ddau gynllun pwysig hwn yn cael eu gwireddu heb bennu amserlenni clir, amcanion cyflawnadwy a cherrig milltir. Mae hefyd yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ni fel Aelodau'r Cynulliad graffu ar effeithiolrwydd y cynlluniau. Hoffwn gael mwy o eglurder ynglŷn â pham na chafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn yn llawn.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 5:41, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wedi'u cysylltu'n agos â hyn mae ein pryderon parhaus y bydd diffyg strategaeth benodol ar gyfer trechu tlodi yn llesteirio bwriadau Llywodraeth Cymru i sicrhau ffyniant i bawb. Mae argymhelliad 1 yn yr adroddiad hwn yn ailadrodd ein hargymhelliad o'n hadroddiad Cymunedau yn Gyntaf, yn galw am strategaeth o'r fath. Wrth fyfyrio ar y dystiolaeth a glywsom drwy gydol yr ymchwiliad hwn, cawsom ein hargyhoeddi hyd yn oed yn fwy. Nid ydym yn derbyn barn Llywodraeth Cymru y byddai'n atal dull cyfannol o fynd i'r afael â materion cymhleth. Mae modd i'r Llywodraeth ddatblygu strategaeth sy'n mabwysiadu ymagwedd gyfannol o'r fath. Byddwn yn parhau i ddadlau'r achos.

Wrth ystyried y ffocws ar ddatblygu economaidd rhanbarthol o fewn y cynllun gweithredu economaidd, roeddem yn cydnabod bod cymunedau ledled Cymru yn wynebu gwahanol heriau a chyfleoedd, a bod angen adlewyrchu hynny ym maes datblygu economaidd. Efallai na fydd yr hyn sy'n gweithio yng Nghaerfyrddin yn gweithio yng Nghaernarfon. Un o'r dulliau mwyaf uniongyrchol sydd ar gael yw lleoli swyddi sector cyhoeddus o ansawdd da mewn ardaloedd y tu allan i Gaerdydd. Rydym wedi gweld hyn i ryw raddau, gyda swyddfeydd Llywodraeth Cymru wedi agor ym Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, ond credwn y gellid ac y dylid gwneud mwy. Felly rydym yn gwneud argymhelliad 6, y dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei strategaeth leoli i sicrhau amrediad gwell o swyddi yn y sector cyhoeddus ledled Cymru, ac mewn ardaloedd difreintiedig yn benodol. Derbyniwyd hyn mewn egwyddor, ond nid yw'r naratif cysylltiedig yn cysylltu'n llawn â'r argymhelliad. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet i ba raddau y bydd y strategaeth leoli yn cyflawni ei nodau i adleoli swyddi i'r ardaloedd yng Nghymru sy'n mynd i golli cyllid strwythurol yr UE, ac a oes unrhyw gynlluniau i adolygu'r strategaeth.  

Galwodd argymhelliad 17 ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfansoddiad, cylch gorchwyl a manylion cyfarfodydd y bwrdd gwaith teg. Roedd ymateb y Llywodraeth yn derbyn hyn mewn egwyddor, gan nodi y gellid sicrhau bod y rhain ar gael. A allwch gadarnhau, Ysgrifennydd y Cabinet, p'un a fydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi? Rwyf eisoes wedi crybwyll ein hargymhellion sy'n ymwneud â chyflogau, sy'n cael eu hystyried gan y comisiwn gwaith teg. Fodd bynnag, ceir un argymhelliad pellach ar gyflogau yr hoffwn ofyn am eglurhad pellach arno heddiw. Galwai argymhelliad 19 ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu ymgyrch eang a phellgyrhaeddol i annog talu'r cyflog byw gwirfoddol. Derbyniwyd hyn mewn egwyddor, ond er bod manylion am y camau a gymerwyd hyd yma i annog ei dalu wedi cael eu darparu, nid yw'r ymateb yn rhoi ateb clir ynglŷn ag a fydd ymgyrch eang yn cael ei datblygu. Clywsom fod ymgyrch o'r fath yn yr Alban wedi bod yn gadarnhaol iawn, a chredwn y gallai hon fod yn ffordd effeithiol ymlaen. Hoffwn ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ymgyrch o'r fath.

Lywydd, rwy'n edrych ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau ar draws y llawr, ac ymateb Ysgrifennydd y Cabinet.

Photo of Janet Finch-Saunders Janet Finch-Saunders Conservative 5:45, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon heddiw, ar ôl yr adroddiad craff a syfrdanol ar dlodi yng Nghymru gan ein pwyllgor. Fel y gwyddoch, dyma'r drydedd elfen o waith ein pwyllgor ar y mater hynod bwysig hwn, ac mae'r adroddiad yn ategu'r angen i Lywodraeth Cymru symleiddio'r polisi a nodi strategaeth greadigol glir i fynd i'r afael â thlodi ac i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn gallu dod o hyd i waith ac incwm da.

Mae bron chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, ac yn fy etholaeth i, yng Nghonwy, yn benodol, mae 20 y cant o oedolion rhwng 16 a 64 oed yn ddi-waith. Yr hyn sy'n peri mwy o bryder byth yw mai ychydig iawn o welliant a fu, yn ôl y ffigurau, ers 2005. At hynny, pobl hŷn yn y gweithlu sydd fel mater o drefn yn ei chael hi waethaf. Fel y nododd Prime Cymru,

Mae dwy ran o dair o'r bobl rydym yn gweithio gyda hwy yn dweud eu bod yn dioddef gwahaniaethu ar sail oedran yn y gweithlu.

Ac nid yw'n braf darllen yr hyn y mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ei ddweud, mai 22 y cant yn unig o bobl hŷn sy'n gadael eu swyddi o'u gwirfodd yn hytrach na chael eu gwthio neu eu hannog o'u swyddi. Mae hyn yn amlygu pwysigrwydd cymorth ailhyfforddi a chyflogadwyedd, ond yn fwy na hynny, yr angen i gynlluniau cymorth cyflogaeth Llywodraeth Cymru dargedu'r rheini sydd fwyaf mewn angen, h.y. pobl sydd eisoes yn cael budd o gymorth Llywodraeth y DU. Fel y mae ein hadroddiad yn amlygu, er mwyn sicrhau bod gwaith i bawb, mae angen dull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru, ac mae'n hollbwysig atal pobl sy'n dychwelyd i'r farchnad swyddi rhag mynd ar goll ym miwrocratiaeth y Llywodraeth, er mwyn sicrhau y gallant gael cyfleoedd sy'n eu galluogi i wella eu hunain, a chael eu hysgogi a'u hailrymuso.

Byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn cyflwyno cynllun cymorth ochr yn ochr â Llywodraeth y DU a'i Rhaglen Waith ei hun, i agor cyfleoedd i'r bobl hynny gymryd rhan ynddo, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu manteisio ar gyfleoedd i uwchsgilio a chael hyfforddiant angenrheidiol. Er fy mod yn falch fod ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yn yr adroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan, rwy'n siomedig i weld fodd bynnag ei bod yn gwrthod yr argymhelliad i nodi a chyhoeddi strategaeth dlodi glir yn dwyn ynghyd y gwahanol elfennau o waith ar leihau tlodi a sefydlu dangosyddion perfformiad penodol i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio, a bod modd ei chyflawni.

Nododd yr archwilydd cyffredinol yn ei ohebiaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun ei fod, ar ôl ystyried yr adroddiadau niferus yn nodi problemau systemig yng Nghymru sydd angen eu hunioni, yn teimlo'n rhwystredig ac yn fwyfwy pryderus nad ydym wedi defnyddio datganoli fel cyfle i ailystyried yn sylfaenol. Rwy'n ategu'r farn hon, a buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau yma heddiw sut y mae'r argymhellion hyn yn yr adroddiad yn mynd i gael eu datblygu, a pha ganlyniadau y gallwn ddisgwyl eu gweld dros y 12 mis nesaf. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:49, 18 Gorffennaf 2018

Dyma ni, unwaith eto, yn trafod adroddiad pwyllgor arall sydd wedi derbyn ymateb hynod siomedig gan y Llywodraeth, gyda dim ond chwech o'r 23 argymhelliad yn cael eu derbyn. Mae'r defnydd annerbyniol o 'dderbyn mewn egwyddor' yn cael ei roi ar waith 15 gwaith yn yr adroddiad yma. Er ei bod hi'n wyth mis ers i Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru ddweud mewn llythyr i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus na ddylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor', 15 gwaith mae o'n digwydd yn fan hyn.

Mae hi'n siomedig iawn fod yna ddau argymhelliad pwysig a chwbl synhwyrol yn cael eu gwrthod—eu gwrthod yn llwyr. Yn gyntaf, argymhelliad 1, sef i

'argymell yn gryf bod strategaeth glir ar gyfer trechu tlodi yn cael ei chyhoeddi, un sy’n dwyn ynghyd yr elfennau niferus o waith i leihau tlodi i helpu i ddarparu cyfeiriad clir ac i helpu’r Cynulliad i graffu ar ddull y Llywodraeth.'

Yr ymateb oedd gwrthod. Mae’n anodd credu beth sydd yn cael ei ddweud wedyn yn y naratif fel esboniad dros wrthod. Dyma maen nhw’n ei ddweud:

'Dim ond trwy gydgysylltu popeth a wnawn y gallwn ni ymateb yn effeithiol i’r her hirdymor o drechu tlodi.'

Wel, yn union. Dyna’n union pam mae angen strategaeth, i ddwyn yr holl elfennau yma ynghyd o dan un ymbarél. Mae hynny’n gwneud synnwyr llwyr, ond mae’n cael ei wrthod yn fan hyn, yn anffodus.

Yr argymhelliad arall sydd yn cael ei wrthod ydy hwn: mae'r pwyllgor yn argymell,

'fel rhan o unrhyw ystyriaeth o ddatganoli pwerau ar weinyddu'r Credyd Cynhwysol, bod Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad o'r manteision a'r risgiau.'

Yr ymateb eto ydy gwrthod. Beth yn y byd sydd o’i le mewn cynnal dadansoddiad—edrych ar y manteision, edrych ar y risgiau a dod ag adroddiad gerbron? Ac os ydy’r dadansoddiad yn dangos bod yna ormod o risgiau, yna mae hynny wedyn yn mynd i gryfhau dadl y Llywodraeth, sydd yn erbyn meddwl am y syniad o ddatganoli budd-daliadau lles, a’r gwaith o’u gweinyddu nhw. A gawn ni fod yn glir—sôn am y gwaith o’u gweinyddu nhw i Gymru ydyn ni yn fan hyn. Mae dweud peth fel hyn—dyma mae’r Llywodraeth yn ei ddweud fel ymateb i hwn:

'Fel mater o egwyddor, dylai pob un ohonom fod yn gymwys i hawl cyfartal gan ein gwladwriaeth les.'

Wel, wrth gwrs, ond mae dweud rhywbeth fel yna yn ddadl yn erbyn datganoli ac mae’n ddadl beryglus. I mi, un o rinweddau datganoli ydy ein galluogi ni yng Nghymru i dorri cwys ein hunain os ydym ni’n teimlo bod polisïau’r Deyrnas Unedig yn anghydnaws â’n gwerthoedd ni, fel yn yr achos yma. A sôn am newid bychan yr ydym ni mewn gwirionedd—datganoli gweinyddu. Mae’n siom fawr nad ydy’r Llywodraeth yn fodlon cynnal astudiaeth, dim ond edrych arno fo a chyflwyno papur i ni yn sôn am beth fyddai’r manteision, a beth y byddan nhw’n gweld ydy’r risgiau. Rydw i’n falch o ddweud y bydd y pwyllgor yn edrych ar hyn. Mi fyddwn ni fel pwyllgor yn gwneud darn o waith i edrych ar sut y mae datganoli rhannau o weinyddu y system les wedi gallu gweithio yn yr Alban.

Mi wnaf i orffen ar nodyn ychydig bach yn fwy positif. Mi wnaeth ein pwyllgor dynnu sylw at bwysigrwydd lledaenu cyflogaeth sector cyhoeddus ar draws Cymru, ac mae’r adroddiad yn argymell bod mwy o hyn yn digwydd, efo’r ffocws ar ardaloedd difreintiedig. Mae’n hollbwysig lledaenu cyflogaeth allan o’r de-ddwyrain. Wrth i’r Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus eraill ystyried newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau, wrth iddyn nhw newid lleoliadau, neu wrth greu lleoliadau newydd ar gyfer gwasanaethau, mae hyn yn hollbwysig.

Mae’r adroddiad yn rhoi sylw i gaffael, ac fe wnaed nifer o argymhellion ynglŷn â sut y gallai cytundeb economaidd gael ei ddefnyddio i hyrwyddo’r amcanion sy’n cael eu rhannu yma. Hefyd, rydym ni yn edrych ymlaen at weld y cynllun gweithredu ar leihau’r bwlch cyflogau rhywedd, unwaith fydd y bwrdd gwaith teg wedi cyhoeddi ei argymhellion. Mae'n rhaid inni sylweddoli, rydw i'n meddwl, fod cyflogau isel yn fater cydraddoldeb yn ogystal â bod yn fater economaidd.

Rydw i yn credu—rydw i yn gorffen rŵan—fod yr adroddiad yma yn un defnyddiol ac yn un cynhwysfawr. Mae o’n dangos sut y gall Llywodraeth Cymru wneud llawer iawn mwy, petai’n dymuno, ac y mae’n dangos y gall newidiadau cymharol fychan i bolisi wneud gwahaniaeth mawr i’r rhai sydd ar gyflogau isel yng Nghymru.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:54, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, ac i'r bobl a gymerodd ran yn yr ymchwiliad. Ceir nifer o ffactorau ynghlwm wrth fod ar incwm isel, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn gysylltiedig â sefyllfa cyflogaeth yr unigolyn. Un o'r datblygiadau sy'n peri pryder dros y blynyddoedd diwethaf yng Nghymru, ac yn y DU yn gyffredinol, yw mai pobl mewn cyflogaeth amser llawn yw llawer o'r bobl sydd ar incwm isel bellach. Mae hyn yn dangos mai cyflogau gwael a geir mewn llawer o swyddi. Hefyd, mae llawer o swyddi yn yr hyn a alwn bellach yn economi gig yn methu gwarantu wythnos lawn o waith. Mewn rhai swyddi bydd pobl yn cyrraedd y gwaith i gael gwybod nad oes gwaith ar eu cyfer y diwrnod hwnnw. Rhaid iddynt ddychwelyd adref wedyn. Felly, rhaid inni ymdrin â'r broblem fod cyfraith cyflogaeth yn y DU yn caniatáu ar gyfer contractau dim oriau a sefyllfaoedd tebyg.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 5:55, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Felly, mae gennym broblemau gyda byd gwaith, sy'n dir peryglus heddiw. Nid yw llawer o swyddi heddiw yn ddim mwy na gwaith, ac ni ellir ei galw'n swydd gyda rhagolygon fel y gellid ei wneud 40 mlynedd yn ôl. Felly, rwy'n llwyr gymeradwyo argymhelliad 12 y pwyllgor, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda chyflogwyr yn y sectorau sylfaenol i dreialu grisiau swyddi o fewn cwmnïau i wella gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa yn y cwmnïau hynny.

Nawr, rwyf wedi cael llawer o swyddi yn fy amser—o leiaf 35 ohonynt, pan ddechreuais eu cyfrif—ac efallai y bydd yn syndod i chi glywed i mi gael fy niswyddo o sawl un ohonynt, efallai ddim. Ond mae'n dorcalonnus gwneud gwaith hyd eithaf eich gallu a sylweddoli'n raddol nad oes unrhyw ffordd amlwg o gamu ymlaen yn eich gyrfa mewn gwirionedd, ni waeth pa mor dda y gwnewch y gwaith. Yr unig gymhelliant yw cadw'r swydd ei hun, ac wrth gwrs, mewn economi lle nad yw cyflogau'n codi, nid oes unrhyw sicrwydd y bydd eich cyflog yn cyd-fynd â chwyddiant hyd yn oed. Arferai fy ngwylltio'n aml fod rheolwyr yn cael eu dwyn i mewn o gwmnïau ar y tu allan i reoli tîm gwaith heb unrhyw wybodaeth am yr arferion gwaith a oedd yn digwydd. Buaswn bob amser yn ffafrio dyrchafu pobl o fewn y tîm, lle bo hynny'n bosibl.

Un o'r problemau sydd gennym heddiw yw bod gormod o bobl yn mynd i mewn i'r farchnad swyddi. Mae hyn yn golygu y cedwir cyflogau'n isel ac nid oes unrhyw gymhelliad i gwmni fuddsoddi yn ei weithlu ei hun. Mae'r diffyg buddsoddiad hwnnw yn ei staff ei hun yn rheswm allweddol pam fod cynhyrchiant heddiw yn waeth yn y DU nag yn yr Almaen er enghraifft. Wrth gwrs, o'n safbwynt ni yn UKIP, yr eliffant yn yr ystafell yw mewnfudo. Os oes gennych system sy'n caniatáu i gannoedd o filoedd o fewnfudwyr ddod i mewn i'ch gwlad bob blwyddyn, rydych yn caniatáu i gyflogwyr gael cyfle i barhau i logi llafur rhad. Mae'n creu marchnad cyflogwyr. Rheolau syml cyflenwad a galw yw'r rhain fel y'u cymhwysir i'r farchnad swyddi.

Wrth gwrs, ni fydd y pleidiau adain chwith yn cytuno â mi fod mewnfudo'n cael unrhyw effaith andwyol ar gyflogau gweithwyr ac ar amodau a gallu gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa. Bydd yn rhaid i mi anghytuno â hwy yn eithaf cryf ar y pwynt hwnnw. Yr hyn y gallwn gytuno yn ei gylch efallai yw'r angen i gwmnïau ddarparu strwythur da er mwyn galluogi gweithwyr i gamu ymlaen yn eu gyrfa, a chytuno bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn a allant i helpu i sicrhau'r canlyniad hwn. Felly, rwy'n cytuno y gallwn ddefnyddio pethau fel arian Llywodraeth Cymru a chontractau Llywodraeth Cymru fel abwyd i gymell cwmnïau i feithrin grisiau swyddi o'r fath yn eu cwmnïau.

Nawr, mewn perthynas â Llywodraeth Cymru a chontractau sector cyhoeddus, rhaid inni ochel rhag ffyrdd penodol y gall cwmnïau osgoi cydymffurfio â'r rheolau. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru gyflwyno rheolau ynghylch caffael, fel rydym yn argymell yn argymhelliad 14, ond rhaid inni sicrhau bod y Llywodraeth yn edrych nid yn unig ar brif gontractwr y gwaith, a beth yw eu harferion cyflogaeth, ond hefyd ar arferion gwahanol is-gontractwyr a gaiff eu dwyn i mewn gan y prif gontractwr i wneud y gwaith mewn gwirionedd. Os nad awn i lawr y gadwyn gyflenwi'n drwyadl ac edrych ar hyn yn briodol, gallwch gael prif gontractwyr yn clochdar pa mor dda y maent yn trin eu gweithwyr, ond gan wybod yn iawn fod gan eu his-gontractwyr bobl ar gontractau dim oriau, er enghraifft.

Rwy'n cofio'r hen dystysgrifau Buddsoddwyr mewn Pobl a arferai fod gan gwmnïau yn y 1990au mewn cwpwrdd ffrâm ar y wal. Gwnâi imi chwerthin pan edrychwn ar rai o'r tystysgrifau hynny mewn un neu ddau o leoedd y bûm yn gweithio ynddynt a oedd yn gyflogwyr gwael iawn. Felly, rhaid inni sicrhau nad yw cael rhyw fath o nod Llywodraeth Cymru i gyflogwr da yn gyfystyr â chael deilen ffigys sy'n gorchuddio pob math o arferion drwg oddi tani.

Argymhelliad 23, sy'n ymwneud â datganoli credyd cynhwysol—cyfeiriodd Siân Gwenllian at hyn sawl gwaith yn ei hymateb, ac yn gyffredinol rwy'n cytuno â hi. Nawr, yn UKIP nid ydym wedi cefnogi datganoli taliadau lles, neu fel y mae Siân yn ei alw, datganoli gweinyddu lles. Ond rydym wedi cytuno y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi dadansoddiad yn awr o fanteision a risgiau hyn fel y gallwn o leiaf gael dadl gyda'r holl ffeithiau yn dryloyw o'n blaenau. Nid oedd yr argymhelliad hwn yn dweud y dylem gytuno i ddatganoli lles neu ni fyddai'r pwyllgor byth wedi cytuno iddo. Galwad am ddarparu rhywfaint o dystiolaeth yn unig ydoedd.

Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi datgan yn y Siambr yn y gorffennol mai'r rheswm pam y gwrthwynebent ddatganoli lles oedd oherwydd y byddai Cymru ar ei cholled yn ariannol. Mae Plaid Cymru wedi gwrthwynebu'r agwedd hon ar eu dadl. Ymddengys bod safbwynt Llywodraeth Cymru bellach wedi newid, ac nid ydynt yn sôn am y ddadl ariannol mwyach. Mae'n ddirgelwch llwyr. Rwyf am ailadrodd y cyngor yn ein hargymhelliad 23, fod angen i Lywodraeth Cymru roi dadansoddiad manteision a risg i ni yn awr i gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidogion wedi'i ddweud yn y gorffennol. Diolch yn fawr iawn.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:00, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Nid oeddwn yn bwriadu siarad am fewnfudo, ond credaf fod sylwadau Gareth Bennett yn galw am eu herio, oherwydd nid wyf yn credu o gwbl fod y problemau a wynebwn yn ein heconomi yn ymwneud â gormod o bobl yn chwilio am waith. Rwy'n meddwl ei fod yn ymwneud llawer mwy â'n hagwedd tuag at y cyfalaf pobl sydd gennym a sut rydym yn ei ddefnyddio, ac yng nghyd-destun awtomatiaeth, mae hwnnw'n fater eithriadol o bwysig.

Rwy'n anghytuno'n llwyr fod diweithdra'n deillio o fewnfudo. Heb fewnfudo, byddai gennym fylchau difrifol yn ein gwasanaethau iechyd gwladol—meddygon, nyrsys, radiograffyddion—yn ogystal â phobl yn gweithio yn y diwydiant lles anifeiliaid, ein milfeddygon, ein peirianwyr, yn ogystal â gweithwyr sy'n cynnal y diwydiant twristiaeth a'r diwydiant amaethyddol. Fe wnawn ddarganfod hyn os—. Rwy'n gobeithio na fydd yn digwydd, ond os yw Llywodraeth y DU yn gwneud cawl llwyr o'r negodiadau gydag Ewrop, fe welwn yn sydyn fod gennym fylchau enfawr wrth geisio cadw ein heconomi a'n gwasanaethau yn weithredol. Rwy'n meddwl ei bod yn gwbl gyfeiliornus i gredu bod yr heriau sy'n wynebu pobl rhag cael gwaith addas i'w priodoli i fewnfudwyr. Credaf eu bod yn gwella'r gweithlu'n fawr ac yn rhoi gwasanaethau o ansawdd gwell i ni. Y broblem sy'n rhaid i ni fynd i'r afael â hi, fodd bynnag, yw sut i sicrhau nad yw gangfeistri'n rheoli pobl ac yn camfanteisio arnynt.

Yr wythnos diwethaf, cyfarfu sawl Aelod a minnau â dirprwyaeth o Wlad y Basg, dan arweiniad Arlywydd Llywodraeth Gwlad y Basg. Gwn nad fi yw'r unig un sydd wedi bod yng Ngwlad y Basg yn edrych ar ddiwydiannau Mondragon, sydd wedi llwyddo i'r fath raddau i greu diwydiannau defnyddiol yn gymdeithasol, a hynod gynhyrchiol a llwyddiannus. Ond ar ymweliad ddwy flynedd yn ôl rwy'n cofio bod un ystadegyn wedi glynu yn fy nghof, sef nad ydynt erioed wedi diswyddo unrhyw un o'r holl weithwyr sydd ganddynt, am fod eu polisïau adnoddau dynol yn cyd-fynd mor agos ag anghenion unigol pobl a allai fod ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion hyfforddi fel nad oes angen iddynt ddiswyddo pobl byth. Efallai y bydd angen iddynt eu hannog i newid eu patrwm gyrfa, ond mae hynny'n fater hollol wahanol. Felly, mae yna lawer iawn y gallem ei ddysgu gan Brifysgol Mondragon ynglŷn â hyrwyddo arferion cyflogaeth foesegol ar draws ein busnesau—cyhoeddus a phreifat.

Yn rhan o'r ddirprwyaeth, roedd nifer o bobl, gan gynnwys Gweinidog yr economi. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn nisgrifiad Lesley Griffiths o'i hymweliad â Gwlad y Basg ym mis Mehefin i edrych ar eu hymagwedd tuag at y diwydiant bwyd, sydd, wrth gwrs, yn un o bedair elfen economi sylfaenol Llywodraeth Cymru. Roedd gennyf ddiddordeb arbennig yn ymagwedd y Basgiaid tuag at fwyd, nad yw'n ymwneud yn unig â hybu a marchnata bwyd ar gyfer y farchnad dwristiaeth a bwytai o ansawdd da sy'n gwasanaethu ymwelwyr. Maent hefyd yn canolbwyntio ar anghenion maeth eu cenedl gyfan, gyda diddordeb arbennig yn y bwyd maethlon ffres sydd ei angen ar gyfer grwpiau allweddol, sef plant a phobl oedrannus—pensiynwyr, mewn cartrefi preswyl ac yn eu cartrefi eu hunain—er mwyn sicrhau eu bod yn bwyta'n iawn, a hefyd pobl a wynebai risgiau i'w hiechyd. Soniodd am ganser a diabetes. Buaswn yn ychwanegu gordewdra, ond rwy'n tybio nad oes gan Wlad y Basg lefelau gordewdra tebyg i'r hyn sydd gennym yn y wlad hon.

Felly, o edrych ar y diwydiant bwyd a'r argymhellion y mae'r Llywodraeth yn eu derbyn mewn egwyddor yn unig, gwyddom fod y diwydiant bwyd yn sector cyflogau isel, sy'n dibynnu cryn dipyn ar fewnfudwyr Ewropeaidd i lenwi bylchau yn y gweithlu nad yw pobl eraill eisiau eu llenwi am fod y cyflogau'n isel ac am fod yr amodau gwaith yn eithaf heriol. Ond mae angen inni nodi eu bod yn allweddol ar gyfer cynaeafu ffrwythau a llysiau, edrych ar ôl anifeiliaid mewn lladd-dai, yn y ffatrïoedd prosesu—yn wir, ym mhob agwedd ar y gadwyn fwyd. Mae angen inni boeni sut y cawn bobl eraill yn eu lle pe bai'r mewnfudwyr Ewropeaidd hyn yn diflannu.

Felly, roeddwn yn bryderus fod llawer o argymhellion y Llywodraeth i adroddiad sy'n hir, rhaid cyfaddef, yn argymhellion mewn egwyddor. Rydych yn sôn am gynlluniau galluogi, ond heb lawer o fanylion ynglŷn â sut rydych yn mynd i ddatrys rhai o'r pryderon sydd gennym ynghylch y gwahaniaethu systematig yn erbyn menywod, er enghraifft, naill ai cyn neu ar ôl iddynt gael plant. Yn ymateb Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gall ddweud wrthym beth oedd canlyniadau'r symposiwm ar 13 Gorffennaf a grybwyllir mewn un neu ddau o'ch atebion, neu ymateb y Llywodraeth.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 18 Gorffennaf 2018

Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gyfrannu i'r ddadl—Ken Skates. 

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r holl Aelodau sydd wedi siarad heddiw, ac i holl aelodau'r pwyllgor am adroddiad craff? Yn benodol, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am arwain gwaith y pwyllgor?

Er nad yw'r holl ddulliau ar gyfer creu unrhyw newid sylweddol yn lefelau tlodi ym meddiant Llywodraeth Cymru, yn enwedig pwerau dros y system les, credaf fod yr adroddiad yn nodi'n briodol fod rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad at waith o ansawdd da sy'n darparu incwm digonol. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', yn darparu fframwaith clir a chyson ar gyfer ein dull Llywodraeth gyfan o gynyddu ffyniant a mynd i'r afael â gwraidd achosion tlodi mewn ffordd fwy effeithiol a chydgysylltiedig nag yn y gorffennol. Cefnogir hyn, wrth gwrs, gan ein cynllun gweithredu economaidd, y cynllun cyflogadwyedd, sy'n gweithio ar y cyd i gynyddu cyfoeth a lles, yn ogystal â lleihau'r anghydraddoldebau mewn cyfoeth a lles.

Nawr, wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, Lywydd, mae perthynas newydd rhwng Llywodraeth a busnes, yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol, perthynas rhywbeth-am-rywbeth rhwng busnes a'r Llywodraeth. Rydym yn cydnabod mai rhan yn unig o'r ateb yw helpu pobl i gael gwaith o ran yr her sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi. Mae angen inni weithio gyda chyflogwyr i wella ansawdd swyddi, ac i gynorthwyo pobl i aros mewn gwaith a chamu ymlaen yn eu gwaith, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Mae'r contract economaidd newydd yn rhwymo Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn twf economaidd, ond gyda'r disgwyliad y bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi egwyddor gwaith teg a chyflogaeth weddus, ddiogel sy'n rhoi boddhad. Byddwn yn parhau i hyrwyddo manteision talu'r cyflog byw gwirioneddol i fusnesau, sy'n cynnwys gwelliannau i ansawdd gwaith eu staff, llai o absenoldeb ac effeithiau cadarnhaol ar recriwtio a chadw staff.

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn darparu cyd-destun ar gyfer gweithio gyda busnesau mewn sectorau sylfaenol, megis manwerthu, i ddeall yn well yr heriau a wynebant, ac i hyrwyddo'r cyflog byw fel rhan o dwf cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gwaith wedi'i dargedu i gefnogi twf a gwerth yn y sectorau hyn, gyda'r nod o gefnogi mwy o gyfleoedd ar gyfer camu ymlaen a chyflogau gweddus. Unwaith eto, cyfeiriodd Jenny Rathbone yn benodol at y sectorau sylfaenol fel y meysydd gweithgaredd lle mae menywod yn arbennig wedi wynebu anfantais sylweddol. I sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd gwell a mwy diogel ar gael, rydym yn bwriadu lleihau'r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod.

Nawr, teimlai nifer o rieni sengl eu bod yn wynebu heriau penodol wrth ddod o hyd i waith hyblyg. Rydym yn cydnabod nad yw cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw yn unig yn ddigon a bod angen eu gosod ochr yn ochr â chyfres o bolisïau sy'n cefnogi canlyniadau gwell i aelwydydd incwm isel. Er enghraifft, bydd ein cynnig gofal plant yn cefnogi rhieni sy'n gweithio a chanddynt blant tair a phedair oed, a bydd hyn yn cynyddu'r dewisiadau cyflogaeth, gan alluogi'r rhai sy'n gweithio'n rhan-amser i weithio mwy o oriau, ac i gynorthwyo rhai a allai ennill ail incwm i gael gwaith. Mae aelwydydd sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant yn fwy tebygol o elwa o gynnydd mewn cyfraddau cyflog, ac mae potensial gan y cyfuniad hwn o bolisïau i effeithio'n gadarnhaol ar incwm y cartref.

Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cyflwyno model datblygu economaidd newydd gyda ffocws rhanbarthol, ac rwy'n falch o weld y gefnogaeth eang i'r dull hwn yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor. Mae'r dull yn cydnabod amgylchiadau unigryw pob rhanbarth ac yn rhwymo Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i fynd i'r afael â heriau, i adeiladu ar gryfderau ac i ddatblygu cyfleoedd unigryw i sicrhau'r twf mwyaf posibl ar draws Cymru. Nododd Janet Finch-Saunders y lefelau cymharol uchel o ddiweithdra y mae'n dyst iddynt yn ei hetholaeth, a nod uniongyrchol y dull rhanbarthol yw lleddfu anghydraddoldebau rhanbarthol ar draws Cymru, gan nodi'r cryfderau allweddol ar gyfer pob un o'r rhanbarthau ond gan wneud yn siŵr hefyd ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau unigol sy'n wynebu ein rhanbarthau.

Ein huchelgais hefyd yw gwneud Cymru yn genedl waith teg, un lle y gall pawb ddisgwyl gwaith gweddus, sy'n gwella bywyd. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi'r Athro Linda Dickens o restr fer o ymgeiswyr addas, annibynnol ac awdurdodol i gadeirio'r comisiwn gwaith teg. Bydd y comisiwn annibynnol yn adeiladu ar waith y bwrdd gwaith teg ac yn ymchwilio i lawer o'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor ac yn fwy eang gan y bobl a'r sefydliadau sydd wedi rhoi tystiolaeth.

Gyda bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid ydym yn bychanu maint yr her. Fodd bynnag, drwy gydweithio â phartneriaid, gallwn adeiladu ar ein sylfeini, diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a grymuso ein pobl a'n cymunedau fel bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu at dwf economaidd ac elwa ohono. Er fy mod yn cydnabod gwerth The Spirit Level fel beirniadaeth o'r anghydraddoldeb a welwn ar draws economïau cyfalafol y gorllewin, rwy'n argymell Affluenza i gadeirydd y pwyllgor, gan ei fod, gyda The Spirit Level, wedi dylanwadu ar y strategaeth genedlaethol a datblygiad y cynllun gweithredu economaidd.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, Lywydd, ac yn amlwg, i Ysgrifennydd y Cabinet. Credaf ein bod wedi gweld themâu cyffredin ymhlith rhai o'r pwyntiau a godwyd—er enghraifft, nodwyd yr argymhelliad i gael strategaeth trechu tlodi a'i phwysigrwydd gan Siân a Gareth, a soniais innau am hynny yn fy sylwadau agoriadol. Fel y dywedais bryd hynny, dyma fater y byddwn yn dychwelyd ato fel pwyllgor, ar ôl gwneud yr argymhelliad hwn bellach mewn dau adroddiad gwahanol.

Hefyd, o ran y drydedd elfen, fel y dywedodd Janet, o waith trechu tlodi'r pwyllgor, yr adroddiad hwn yn sicr yw'r drydedd elfen yn wir, a chredaf ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd trechu tlodi i ni a'i arwyddocâd yng Nghymru wrth gwrs, lle mae pawb ohonom yn gwybod bod yna heriau economaidd-gymdeithasol penodol o fewn y DU sydd angen inni eu deall a mynd i'r afael â hwy.

Hefyd, Lywydd, cafwyd pwyslais ar ganlyniadau a mesuradwyedd strategaeth a pholisi Llywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae hynny'n berthnasol i'r strategaeth trechu tlodi, ond mae hefyd yn berthnasol yn fwy cyffredinol. Rwy'n cytuno'n gryf â'r Aelodau fod hynny'n rhywbeth y mae angen inni ddychwelyd ato wrth inni symud ymlaen a gofyn am ragor o wybodaeth a sicrwydd gan Lywodraeth Cymru.

Soniodd Gareth a Siân hefyd am ein hargymhelliad y dylid cael dadansoddiad o risgiau a manteision datganoli'r gwaith o weinyddu credyd cynhwysol. Unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth a godwyd gennym mewn adroddiad blaenorol. Felly, rydym wedi ymdrin â'r mater hwn a gwneud yr argymhellion hyn mewn dau adroddiad yn awr, Lywydd. Unwaith eto, ni fyddwn yn gadael pethau yn y fan honno, ond rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at y materion hynny unwaith yn rhagor a hefyd yn eu codi yn ein sesiynau craffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet. Felly, yn sicr rydym yn bwriadu mynd ar drywydd y mater hwnnw oherwydd credwn ei fod yn un pwysig iawn ac yn un sy'n galw am ddadansoddiad pellach ac ystyriaeth bellach.

Lywydd, rwy'n falch fod Jenny Rathbone wedi ymateb i sylwadau Gareth Bennett ar fewnfudo oherwydd credaf fod y rhain yn faterion y mae angen eu herio o ran y sylwadau a wnaeth Gareth. Hoffwn ychwanegu at yr hyn a ddywedodd Jenny ynglŷn â pha mor bwysig yw hi i bobl ddod yma i weithio i wneud swyddi hanfodol yn ein gwasanaethau cyhoeddus a pha mor ddibynnol yw'r gwasanaethau cyhoeddus ar y gweithwyr hyn, ond mae hefyd yn wir, os edrychwn ar economïau llwyddiannus drwy'r byd, yn aml iawn byddant yn ffynnu ar yr egni, y doniau, a'r sgiliau a ddaw yn sgil mewnfudo, ac i raddau helaeth, maent wedi llwyddo drwy fod yn agored i'r mewnfudo hwnnw. Daw pobl i mewn ag egni go iawn, gan ddechrau eu busnesau eu hunain a chyflogi pobl eraill, yn ogystal â darparu cyflogaeth i gwmnïau eraill. Ie, Gareth.

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 6:16, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Sut rydych chi'n esbonio'r ffaith felly fod gennym bellach gyflogau sy'n aros yn yr unfan a bod gennym lawer o bobl mewn gwaith amser llawn sy'n dioddef yn sgil cyflogau isel?

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, fel erioed, Gareth, rwy'n credu bod y rheini'n faterion cymhleth iawn na allwch eu datrys yn syml drwy ddweud y dylem gael llai o fewnfudo i'r DU a Chymru. Wyddoch chi, rydym wedi bod mewn oes o gyni ers oddeutu 10 mlynedd bellach, yn anffodus. Mae'n ddewis polisi bwriadol gan Lywodraeth y DU a arweiniodd at gyflogau'n sefyll yn eu hunfan yn ogystal â llawer o effeithiau niweidiol eraill, buaswn yn dadlau.

Roedd yn ddiddorol fod Jenny wedi sôn am Wlad y Basg a'r ffaith bod ganddynt gwmnïau yno nad ydynt erioed wedi diswyddo'r un gweithiwr, a chredaf fod honno'n enghraifft wych o gyflogwyr cyfrifol a chymdeithasol gyfrifol. Nodaf fod Gareth wedi dweud wrthym ei fod wedi cael 35 o swyddi, sy'n gryn dipyn o nifer, Gareth, a phrofiad da i'w ddwyn i'r math hwn o waith pwyllgor, ond fe wnaeth fy nharo y gallech feddwl, os nad ydych yn llwyddiannus yn yr etholiad Cynulliad nesaf, am gael rhagor o fanylion y cyflogwr hwnnw gan Jenny Rathbone yng Ngwlad y Basg, sy'n darparu cyflogaeth mor gynaliadwy a dibynadwy dros gyfnod o amser. Ond wrth gwrs, rwy'n siŵr fod ganddynt agwedd wahanol i'ch un chi tuag at fewnfudo, a fyddai'n ei gwneud hi'n hawdd i chi symud, pe baech yn dymuno gwneud hynny.

A gaf fi ddweud hefyd, Lywydd, ei bod yn bwysig iawn, rwy'n meddwl, fel y soniodd Gareth, ein bod yn mynd â chaffael i lawr i lefel is-gontractwr? Rydym yn ymdrin â hynny yn yr adroddiad, a gwn fod Llywodraeth Cymru yn effro i'r angen i edrych nid yn unig ar y rheini sy'n cael contractau cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd ar yr is-gontractwyr sy'n bwydo oddi ar y busnes hwnnw, oherwydd, yn amlwg, mae'r is-gontractwyr hynny'n cyflogi nifer o bobl ac mae angen inni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu cyrraedd gan y math o arfer da a chod moeseg cyflogaeth gyfrifol a ddisgwyliwn gan y contractwyr gwreiddiol o dan y polisi caffael.

Lywydd, fel y dywedais, ceir nifer o faterion y byddwn yn dychwelyd atynt fel pwyllgor. Rydym yn croesawu'r newid yn ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at ddatblygu economaidd. Rydym am weld y bwriadau da yn cael eu dilyn gan gamau pendant a fydd yn cyflawni o ddifrif ar gyfer y rheini sydd yn rheng flaen yr economi, a byddwn yn cadw llygad manwl ar ddatblygiadau perthnasol a gweithrediad yr argymhellion a dderbyniwyd—y rhai a dderbyniwyd yn llawn a'r rhai a dderbyniwyd yn rhannol. Yn benodol, byddwn yn ailedrych arnynt yn dilyn cyhoeddi'r adolygiad caffael ac allbynnau'r comisiwn gwaith teg. Byddwn hefyd yn parhau i ddadlau'r achos o blaid strategaeth wrth-dlodi drawsbynciol.

Hoffwn gloi drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad unwaith eto. Diolch yn fawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:19, 18 Gorffennaf 2018

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.