Part of the debate – Senedd Cymru am 6:06 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddechrau drwy fynegi fy ngwerthfawrogiad i'r holl Aelodau sydd wedi siarad heddiw, ac i holl aelodau'r pwyllgor am adroddiad craff? Yn benodol, a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am arwain gwaith y pwyllgor?
Er nad yw'r holl ddulliau ar gyfer creu unrhyw newid sylweddol yn lefelau tlodi ym meddiant Llywodraeth Cymru, yn enwedig pwerau dros y system les, credaf fod yr adroddiad yn nodi'n briodol fod rhaid inni wneud popeth a allwn i sicrhau bod gan bobl yng Nghymru fynediad at waith o ansawdd da sy'n darparu incwm digonol. Mae ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', yn darparu fframwaith clir a chyson ar gyfer ein dull Llywodraeth gyfan o gynyddu ffyniant a mynd i'r afael â gwraidd achosion tlodi mewn ffordd fwy effeithiol a chydgysylltiedig nag yn y gorffennol. Cefnogir hyn, wrth gwrs, gan ein cynllun gweithredu economaidd, y cynllun cyflogadwyedd, sy'n gweithio ar y cyd i gynyddu cyfoeth a lles, yn ogystal â lleihau'r anghydraddoldebau mewn cyfoeth a lles.
Nawr, wrth wraidd y cynllun gweithredu economaidd, Lywydd, mae perthynas newydd rhwng Llywodraeth a busnes, yn seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol, perthynas rhywbeth-am-rywbeth rhwng busnes a'r Llywodraeth. Rydym yn cydnabod mai rhan yn unig o'r ateb yw helpu pobl i gael gwaith o ran yr her sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â thlodi. Mae angen inni weithio gyda chyflogwyr i wella ansawdd swyddi, ac i gynorthwyo pobl i aros mewn gwaith a chamu ymlaen yn eu gwaith, fel y dywedodd Jenny Rathbone. Mae'r contract economaidd newydd yn rhwymo Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn twf economaidd, ond gyda'r disgwyliad y bydd y buddsoddiad hefyd yn cefnogi egwyddor gwaith teg a chyflogaeth weddus, ddiogel sy'n rhoi boddhad. Byddwn yn parhau i hyrwyddo manteision talu'r cyflog byw gwirioneddol i fusnesau, sy'n cynnwys gwelliannau i ansawdd gwaith eu staff, llai o absenoldeb ac effeithiau cadarnhaol ar recriwtio a chadw staff.
Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn darparu cyd-destun ar gyfer gweithio gyda busnesau mewn sectorau sylfaenol, megis manwerthu, i ddeall yn well yr heriau a wynebant, ac i hyrwyddo'r cyflog byw fel rhan o dwf cynaliadwy. Mae hyn yn cynnwys gwaith wedi'i dargedu i gefnogi twf a gwerth yn y sectorau hyn, gyda'r nod o gefnogi mwy o gyfleoedd ar gyfer camu ymlaen a chyflogau gweddus. Unwaith eto, cyfeiriodd Jenny Rathbone yn benodol at y sectorau sylfaenol fel y meysydd gweithgaredd lle mae menywod yn arbennig wedi wynebu anfantais sylweddol. I sicrhau bod mwy o swyddi o ansawdd gwell a mwy diogel ar gael, rydym yn bwriadu lleihau'r bwlch cyflog rhwng dynion a menywod.
Nawr, teimlai nifer o rieni sengl eu bod yn wynebu heriau penodol wrth ddod o hyd i waith hyblyg. Rydym yn cydnabod nad yw cynnydd yn yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyflog byw yn unig yn ddigon a bod angen eu gosod ochr yn ochr â chyfres o bolisïau sy'n cefnogi canlyniadau gwell i aelwydydd incwm isel. Er enghraifft, bydd ein cynnig gofal plant yn cefnogi rhieni sy'n gweithio a chanddynt blant tair a phedair oed, a bydd hyn yn cynyddu'r dewisiadau cyflogaeth, gan alluogi'r rhai sy'n gweithio'n rhan-amser i weithio mwy o oriau, ac i gynorthwyo rhai a allai ennill ail incwm i gael gwaith. Mae aelwydydd sy'n manteisio ar y cynnig gofal plant yn fwy tebygol o elwa o gynnydd mewn cyfraddau cyflog, ac mae potensial gan y cyfuniad hwn o bolisïau i effeithio'n gadarnhaol ar incwm y cartref.
Mae ein cynllun gweithredu economaidd yn cyflwyno model datblygu economaidd newydd gyda ffocws rhanbarthol, ac rwy'n falch o weld y gefnogaeth eang i'r dull hwn yn y dystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor. Mae'r dull yn cydnabod amgylchiadau unigryw pob rhanbarth ac yn rhwymo Llywodraeth Cymru i weithio ar y cyd ar draws y Llywodraeth a chyda phartneriaid i fynd i'r afael â heriau, i adeiladu ar gryfderau ac i ddatblygu cyfleoedd unigryw i sicrhau'r twf mwyaf posibl ar draws Cymru. Nododd Janet Finch-Saunders y lefelau cymharol uchel o ddiweithdra y mae'n dyst iddynt yn ei hetholaeth, a nod uniongyrchol y dull rhanbarthol yw lleddfu anghydraddoldebau rhanbarthol ar draws Cymru, gan nodi'r cryfderau allweddol ar gyfer pob un o'r rhanbarthau ond gan wneud yn siŵr hefyd ein bod yn mynd i'r afael â'r heriau unigol sy'n wynebu ein rhanbarthau.
Ein huchelgais hefyd yw gwneud Cymru yn genedl waith teg, un lle y gall pawb ddisgwyl gwaith gweddus, sy'n gwella bywyd. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod wedi penodi'r Athro Linda Dickens o restr fer o ymgeiswyr addas, annibynnol ac awdurdodol i gadeirio'r comisiwn gwaith teg. Bydd y comisiwn annibynnol yn adeiladu ar waith y bwrdd gwaith teg ac yn ymchwilio i lawer o'r materion a nodwyd yn adroddiad y pwyllgor ac yn fwy eang gan y bobl a'r sefydliadau sydd wedi rhoi tystiolaeth.
Gyda bron i chwarter y bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi, nid ydym yn bychanu maint yr her. Fodd bynnag, drwy gydweithio â phartneriaid, gallwn adeiladu ar ein sylfeini, diogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a grymuso ein pobl a'n cymunedau fel bod pawb yn cael cyfle i gyfrannu at dwf economaidd ac elwa ohono. Er fy mod yn cydnabod gwerth The Spirit Level fel beirniadaeth o'r anghydraddoldeb a welwn ar draws economïau cyfalafol y gorllewin, rwy'n argymell Affluenza i gadeirydd y pwyllgor, gan ei fod, gyda The Spirit Level, wedi dylanwadu ar y strategaeth genedlaethol a datblygiad y cynllun gweithredu economaidd.