Part of the debate – Senedd Cymru am 6:35 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Hoffwn ddiolch i John Griffiths am godi'r mater pwysig hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Gwn fod hwn yn fater y mae wedi teimlo'n gryf yn ei gylch ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn o allu ymateb i'w sylwadau ac i sylwadau'r Aelodau eraill. Mae ein pwerau newydd dros derfynau cyflymder cenedlaethol yn cynnig cyfleoedd inni archwilio sut y gallant fod yn ddefnyddiol i'n helpu i gyrraedd ein nodau llesiant a gwneud Cymru'n wlad fwy cynhwysol, iach a ffyniannus, a bu llawer o ddiddordeb yn y pwnc hwn yn ddiweddar. Pan gyhoeddodd Dr Sarah Jones a Huw Brunt eu hymchwil a ddaeth i'r casgliad y gallai terfyn 20 mya diofyn mewn ardaloedd trefol wella diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer yng Nghymru, roeddem yn falch iawn o'u gwahodd i'n cynhadledd teithio llesol y llynedd i drafod y mater, ac mae eu syniadau a'u cyfraniad wedi bod o gymorth mawr. Gallai cyflymder traffig is effeithio'n gadarnhaol ar ddiogelwch ar y ffyrdd drwy leihau nifer y gwrthdrawiadau a hefyd eu difrifoldeb. Ac mae manteision posibl eraill yn cynnwys gwneud amgylcheddau ffyrdd yn fwy addas ar gyfer pobl yn gyffredinol, lleihau gwahanu ardaloedd o bobtu ffyrdd, annog teithio llesol drwy leihau'r gwahaniaeth cyflymder rhwng moddau modurol a dulliau teithio llesol, a gwella'r canfyddiad o ddiogelwch. Ni ellir gwireddu yr un o'r manteision hyn, wrth gwrs, heb fod y rhan fwyaf o yrwyr yn glynu at y terfynau cyflymder is hyn, neu heb fod y cyflymderau'n cael eu gostwng yn amlwg, fan lleiaf.
Hyd yn hyn, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi defnyddio terfynau cyflymder 20 mya yn bennaf mewn ardaloedd a dargedwyd yn fanwl. Weithiau, ni fydd y rhain ond yn ymestyn dros ddarn byr o ffordd a rhwydwaith mwy o strydoedd weithiau, a dros y blynyddoedd rydym wedi ariannu cannoedd o barthau a therfynau cyflymder 20 mya, o'n grantiau llwybrau diogel a hefyd ein grantiau diogelwch ffyrdd ar draws Cymru. Datblygir y cynlluniau hyn mewn ymgynghoriad—mae hynny'n bwysig—mewn ymgynghoriad â chymunedau, ac yn gyffredinol cânt gefnogaeth a chroeso da gan y cymunedau hynny. Rhaid imi ddweud mewn ymateb i Joyce Watson, a nododd bwynt pwysig iawn am gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ac nid cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yn unig, rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'n cefnffyrdd ac o ganlyniad rydym wedi cyflwyno ein rhaglen amlflwydd i sefydlu terfynau cyflymder 20 mya ger y mwyafrif helaeth o ysgolion ar ein cefnffyrdd neu'n agos atynt. Mae'r rhain yn gweithredu ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol i greu amgylchedd diogel ar gyfer plant sy'n teithio i ac o'r ysgol, ac maent hefyd yn annog newid mewn ymddygiad, ac yn hybu newid ymddygiad, ymhlith modurwyr. Nawr, bydd y rhaglen hon yn cael ei chwblhau yn y flwyddyn ariannol hon a bydd yn cwmpasu 45 o leoliadau ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol. Rwy'n falch o ddweud, yn Abergwaun, ein bod wedi cyflwyno terfyn cyflymder 20 mya parhaol ar y gefnffordd, ac ar sail tystiolaeth ac ymgynghoriad, buaswn yn fwy na pharod i ystyried terfynau cyflymder 20 mya parhaol mewn mannau eraill.
Nawr, fel y dywedais, er mwyn cyflawni'r effeithiau cadarnhaol, mae angen cydymffurfio â therfynau cyflymder is, fel y dywedodd John Griffiths yn gywir. Mae terfynau cyflymder 20 milltir yr awr wedi bod yn fwyaf effeithiol am leihau cyflymder lle maent naill ai'n rhan o barthau 20 mya, pan fo'r terfynau cyflymder wedi'u cefnogi gan fesurau ffisegol fel twmpathau ffordd, byrddau arafu a chulhau ffyrdd, neu lle mae'r amgylchedd ffisegol presennol yn cynnwys cyfyngiadau sy'n golygu bod cyflymder is yn teimlo'n iawn i'r modurwr. Lywydd, mae terfynau cyflymder ardal gyfan gydag arwyddion yn unig wedi llwyddo i sicrhau gostyngiadau sy'n amrywiol ond yn llai ar y cyfan i'r cyflymder cyfartalog. Fodd bynnag, maent yn dod yn fwy cyffredin, yn arbennig mewn ardaloedd trefol mwy o faint. Mae hyn yn cynnwys Caerdydd, lle mae terfynau cyflymder 20 mya ardal gyfan yn cael eu cyflwyno, a chymeradwyaf y cyngor am wneud hyn. O ganlyniad, mae'r sylfaen dystiolaeth yn tyfu. Wrth benderfynu os a sut y defnyddiwn ein pwerau newydd, bydd yn ddefnyddiol iawn inni edrych yn fanwl ar brofiadau'r lleoedd hyn ochr yn ochr â'r gwaith ymchwil cynhwysfawr a wnaed ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ar effaith terfynau cyflymder 20 mya mewn amrywiaeth eang o leoliadau ar draws y DU, ac maent i fod i gyflwyno eu hadroddiad yn fuan.
I ategu hyn, Lywydd, rwyf wedi comisiynu ein harolwg ein hunain o dystiolaeth gwerthusiadau a gyhoeddwyd. Nawr, fel y dywedodd John Griffiths yn y ddadl flaenorol, efallai na fydd beth sy'n gweithio yng Nghaernarfon yn gweithio yng Nghaerfyrddin. Felly mae'n bwysig ystyried dulliau amgen neu ychwanegol o wella diogelwch ar y ffyrdd hefyd. Ceir mesurau eraill a all gyfrannu at wella diogelwch ar ein ffyrdd, megis trwydded yrru raddedig, ac rwy'n cefnogi hynny, ac rwyf hefyd yn un o gefnogwyr brwd y fenter strydoedd chwarae, sydd i bob pwrpas yn trosglwyddo ffyrdd yn ôl i'r cymunedau, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc at ddibenion chwarae.
Rwyf hefyd yn cefnogi dulliau o gael gwared ar yr hyn sy'n achosi'r nifer fwyaf o ddamweiniau traffig, sef pethau sy'n tynnu sylw gyrwyr—dulliau fel annog modurwyr i leihau'r risg y bydd rhywbeth yn tynnu eu sylw drwy wneud yn siŵr nad yw'r ffôn symudol ymlaen ganddynt pan fyddant yn gyrru, a sicrhau bod unrhyw adloniant sydd ganddynt yn eu car yn cael ei gyfyngu cymaint ag y bo modd fel nad yw'n tynnu eu sylw. Credaf fod yr amgylchedd trefol a gynllunnir yn hollbwysig hefyd er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bethau'n tynnu sylw gyrwyr.
Felly, rwy'n credu'n gryf fod y pwnc hwn yn haeddu ystyriaeth ddifrifol iawn, Lywydd, ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch 20's Plenty yn frwd. Byddwn yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael a byddwn yn ei thrafod gyda'n partneriaid cyn cyhoeddi'r argymhellion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd yn ehangach.