12. Dadl Fer: Gweithredu terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl ac adeiledig yng Nghymru

– Senedd Cymru am 6:19 pm ar 18 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:19, 18 Gorffennaf 2018

Mae hynny’n dod a ni, felly, at eitem olaf y prynhawn, sef y ddadl fer ac rydw i’n galw ar John Griffiths, unwaith eto, i gyflwyno'r ddadl fer yn ei enw—John Griffiths.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch Lywydd. Rwyf wedi rhoi munud yr un i Joyce Watson, Mike Hedges a David Melding.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 6:20, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddefnyddio'r ddadl fer hon heddiw i drafod manteision cyflwyno terfynau cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd trefol mewnol a pham y credaf y dylai hwn fod yn bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan. Byddai 20 mya mewn grym ar draws y wlad mewn ardaloedd adeiledig, preswyl lle mae pobl yn byw. Byddai awdurdodau lleol yn gallu eithrio ffyrdd pe bai amgylchiadau lleol yn cyfiawnhau hynny. Byddai hyn yn gwrthdroi'r sefyllfa bresennol lle mae 30 mya mewn grym yn gyffredinol yn amodol ar gyfyngiadau is ar gyfer ffyrdd penodol.

Ceir manteision niferus: mae'n gwneud ffyrdd yn fwy diogel er mwyn diogelu bywydau ac yn galluogi cymunedau lleol i adennill eu strydoedd. Byddai hynny'n hwyluso chwarae, beicio a cherdded, a mwy o gydlyniant a rhyngweithio cymunedol. Mae hwn, Lywydd, yn syniad ac yn bolisi y mae ei amser wedi dod yn fy marn i. Mae eisoes wedi'i sefydlu ac ar gynnydd ar draws y byd. Yn yr Iseldiroedd, mae terfyn cyflymder isaf o 30 km neu is ar 70 y cant o ffyrdd trefol. Yng ngwledydd Sgandinafia, mae'n dod yn norm mewn pentrefi a threfi. Yn wir, ledled Ewrop, mae'r cyfyngiadau hyn yn cael eu gosod yn gynyddol ar draws awdurdodau cyfan, gydag eithriadau ar gyfer ffyrdd mawr gyda chyfleusterau ar wahân megis llwybrau beicio. Mewn cymhariaeth, mae'r DU wedi dechrau'n hwyr, ond yn y 10 mlynedd diwethaf, mae dros 25 y cant o'r boblogaeth wedi elwa o gael terfyn cyflymder o 20 mya ar y strydoedd lle maent yn byw, yn dysgu, yn siopa neu'n gweithio.

Mae llawer o'n dinasoedd mawr, gan gynnwys Bryste, Manceinion a Chaeredin wedi gwneud y newid; mae 43 y cant o Lundeinwyr yn byw ar ffyrdd o'r fath, a 75 y cant o bobl ym mwrdeistrefi Llundain fewnol. Mae Bryste wedi cael llwyddiant mawr yn mabwysiadu'r dull hwn, ac mae siroedd cyfan hyd yn oed, megis swydd Gaerhirfryn, Sefton, Calderdale, Clackmannan a Fife, wedi gwneud hynny. Mae ein cyd-wledydd datganoledig hefyd yn ystyried cyflwyno'r polisi hwn. Ym mis Tachwedd y llynedd, yn yr Alban, cynigiodd yr MSP gwyrdd, Mark Ruskell, Fil i'r perwyl hwn. Mae'n destun ymgynghori ar hyn o bryd, a byddai'n hynod o arwyddocaol ar gyfer diogelwch ar y ffyrdd os caiff ei basio. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr un peth.

Yn y flwyddyn ddiwethaf, mae Cymru wedi gweld dros 3,000 o ddamweiniau traffig ceir a arweiniodd at anaf neu farwolaeth. Yn ninas Casnewydd lle rwy'n byw, cafwyd mwy na 140 o ddamweiniau a thair ohonynt yn angheuol, yn drasig iawn. Mae angen gweithredu pellach i ostwng y niwed hwn i'n teuluoedd a'n cymunedau. Wrth yrru drwy ystadau tai cymdeithasol gyda cheir wedi'u parcio ar hyd y ddwy ochr i'r ffordd a phlant yn chwarae, nid oes gan yrwyr fawr iawn o amser i ymateb os yw plentyn yn rhedeg i'r ffordd rhwng cerbydau sydd wedi'u parcio. Mae adroddiad diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru gan Dr Sarah Jones yn awgrymu, pe bai holl ffyrdd 30 mya presennol Cymru yn dod yn rhai 20 mya, y byddai hynny'n achub chwech i 10 o fywydau ac yn arbed rhwng 1,200 a 2,000 o anafiadau bob blwyddyn, a gwerth hynny o ran atal yn £58 miliwn i £84 miliwn.

Mae'r achos dros newid yn seiliedig ar dystiolaeth dda. Mae Fforwm Trafnidiaeth Rhyngwladol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mewn adroddiad diweddar ar gyflymder a'r risg o ddamweiniau yn datgan yn bendant, lle mae cerbydau modur a defnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed yn rhannu'r un gofod, fel mewn ardaloedd preswyl, 20 mya yw'r terfyn cyflymder uchaf a argymhellir. Mae'n amlygu'r hyn a wyddom eisoes: mae cyflymder yn dylanwadu'n uniongyrchol ar amlder a difrifoldeb damweiniau. Wrth yrru'n gyflymach, mae nifer damweiniau a difrifoldeb damweiniau'n cynyddu'n anghymesur. Ar gyflymder is, mae nifer damweiniau a difrifoldeb damweiniau'n lleihau. Bydd 85 y cant o gerddwyr yn goroesi gwrthdaro 30 km/h—hynny yw 18.5 mya—tra bydd 80 y cant o gerddwyr yn marw mewn gwrthdaro 50 km/h, sef 32 mya.

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 6:25, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae difrifoldeb gwrthdrawiadau'n dilyn deddfau ffiseg. Ar gyflymder uwch, mae'r egni cinetig sy'n cael ei ryddhau mewn damwain yn cynyddu, fel y gwna'r trawma a brofir gan y rhai a drawyd gan y cerbyd, neu sydd yn y cerbyd. Gellir egluro'r cynnydd yn y risg o ddamwain gan y ffaith bod yr amser i ymateb i newid yn yr amgylchedd pan fo cyflymder yn cynyddu yn fyrrach a cheir llai o allu i drin y cerbyd.

Mae gostwng y terfyn diofyn o 30 mya i 20 mya mewn ardaloedd trefol adeiledig yn lleihau'r perygl o ddamweiniau'n sylweddol. Gallai arbed amser hefyd, helpu i wneud ein haer yn lanach, ac annog ffyrdd o fyw mwy egnïol. Mae pobl yn tybio'n anghywir fod terfynau cyflymder is yn gwneud amseroedd teithio'n hwy, ond yn gyffredinol, mae'r cyflymder cyfartalog mewn dinasoedd ymhell islaw 20 mya, oherwydd tagfeydd a chiwiau. Mae traffig yn llifo'n fwy rhydd ar 20 mya na 30 mya. Mae gyrwyr yn gwneud gwell defnydd o le ar y ffordd drwy barcio'n agosach ac mae cyffyrdd yn gweithio'n fwy effeithlon, ac ar gapasiti uwch, gan ei bod yn haws uno â llif y traffig.

Ar ansawdd aer, mae modelu mathemategol ar draws amrywiaeth o astudiaethau wedi dangos y dylai arwain at welliannau. Dengys ymchwil gan Goleg Imperial Llundain ar gyfyngiadau cyflymder fod cyfraddau allyriadau'n uwch lle y terfir ar lif y traffig. Daeth yr astudiaeth i'r casgliad y byddai'n anghywir rhagdybio y byddai 20 mya yn niweidiol i ansawdd aer yr amgylchedd yn lleol, gan fod yr effeithiau ar allyriadau cerbydau'n gymysg.

Mae terfynau cyflymder is yn lleihau tagfeydd drwy gynyddu cyfraddau llif a llyfnhau traffig drwy amgylcheddau trefol lle byddai ceir yn stopio ac yn ailddechrau fel arfer. Mae NICE, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, yn argymell gostwng y cyflymder trefol i gael llai o lygredd. Dywed eu canllawiau fod terfynau 20 mya heb fesurau ffisegol mewn ardaloedd trefol yn helpu i osgoi cyflymu ac arafu diangen. Mae gyrru mwy esmwyth gyda llai o frecio a chyflymu gwastraffus wedi torri 12 y cant oddi ar y defnydd o danwydd yn yr Almaen ar ôl gweithredu terfynau 30 km/h. Mae ansawdd aer yn gwella hefyd, gan fod traffig sy'n symud yn allyrru llai o lygredd na phan fo cerbyd yn sefyll yn llonydd gyda'r injan yn rhedeg. Mae argymhellion y Coleg Imperial yn cynnwys gostwng terfynau cyflymder ar ffyrdd trefol a chymell pobl i feicio.

Lywydd, byddai cyflwyno'r polisi hwn o fudd i iechyd cyhoeddus hefyd mewn nifer o ffyrdd yn unol â Deddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant. Mewn ardaloedd adeiledig, byddai mwy o bobl yn teimlo'n gyfforddus i gerdded a beicio'n ddiogel, a byddai'r amgylchedd yn fwy dymunol i gymunedau, gan annog rhyngweithio cymunedol a chwarae awyr agored i blant.

Mae Sustrans Cymru yn nodi tystiolaeth y bydd newid i gyflymder arafach yn arwain at gymunedau mwy diogel ac iachach gyda lefelau uwch o gerdded a beicio. Yn 2013, cynhaliodd yr elusen arolwg o drigolion yng Nghymru, gyda chwech o bob 10 yn cefnogi terfynau 20 mya fel y cyflymder diofyn ar gyfer lle maent yn byw. Fel Gweinidog Llywodraeth Cymru, roeddwn yn falch o fwrw ymlaen â Deddf Teithio Llesol (Cymru), a basiwyd yn 2013. Mae'n gosod dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol yng Nghymru i archwilio llwybrau presennol ar gyfer cerdded a beicio cyn cynllunio a darparu rhwydwaith cynhwysfawr o lwybrau i'r gwaith, i ysgolion ac i gyfleusterau lleol. Bydd terfynau 20 mya yn hwyluso hyn.

Dros yr ychydig genedlaethau diwethaf, yn anffodus bu gostyngiad dramatig yn y rhyddid a roddir i blant fynd allan heb oruchwyliaeth oedolion. Dengys astudiaeth gymharol gan y Sefydliad Astudiaethau Polisi dros 40 mlynedd fod 86 y cant o blant oedran ysgol gynradd yn cael teithio adref o'r ysgol ar eu pen eu hunain yn 1971. Erbyn 2010, 25 y cant yn unig oedd y ganran. Mae traffig yn ffactor mawr yn y newid hwn ac yn un o'r rhwystrau mwyaf i ryddid plant i chwarae y tu allan. Mae ein strydoedd preswyl wedi dod yn amgylcheddau peryglus i blant a phobl ifanc, ac mae chwarae anffurfiol ar y stryd wedi'i ddisodli gan y car i raddau helaeth.

Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n ymgorffori'r hawl i chwarae, yn datgan y dylid rhoi ystyriaeth i greu amgylcheddau trefol a gwledig sy'n addas ar gyfer plant drwy fesurau traffig ar y ffyrdd, gan gynnwys terfynau cyflymder. Ac mae Chwarae Cymru wedi darparu gwybodaeth bwysig am rôl bosibl terfynau cyflymder 20 mya yn gwella gallu plant i chwarae—gweithgaredd sy'n ganolog i'w hiechyd a'u lles corfforol, meddyliol, cymdeithasol ac emosiynol. Argymhellir y polisi hefyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant Cymru, sy'n nodi y gallai gael effaith eang a chadarnhaol tu hwnt.

Lywydd, mae taer angen datblygu ymyriadau cadarn a fydd yn effeithio'n gadarnhaol ar yr heriau sy'n wynebu iechyd y cyhoedd heddiw, ar lygredd aer, ar ordewdra ac ar anafiadau traffig ar y ffyrdd, ac mae cydberthynas rhwng y rhain i gyd. Gall terfyn cyflymder diofyn o 20 mya chwarae rhan bwysig yn hyn ac rwy'n credu bod angen cysondeb cenedlaethol gyda disgresiwn lleol i gyflawni'r newid angenrheidiol. Mae a wnelo'r materion hyn lawn cymaint â chonsensws cyhoeddus ag â rheoli traffig. Os ydym am i ystyriaeth o amwynder a diogelwch trigolion cymunedau fod yn norm cenedlaethol, yna ar ryw adeg, mae angen inni gael trafodaeth genedlaethol. Mae angen inni roi cymunedau yn gyntaf ac ailddiffinio'r gofod rhwng ein cartrefi. Rwy'n cefnogi'r newid hwn yn frwd a chredaf y bydd yn caniatáu inni adennill ein ffyrdd a chreu strydoedd cymunedol—strydoedd cymunedol sy'n dod yn lleoedd gwell i fod ynddynt.

Felly, dros yr ychydig fisoedd diwethaf, rwyf wedi cyfarfod â Rod King, sylfaenydd 20's Plenty for Us, sefydliad sy'n ymgyrchu dros y newid hwn, a hoffwn yn fawr ddiolch iddo am ei arbenigedd a'i gyngor. Pan fydd y Cynulliad yn ailddechrau yn nhymor yr hydref, byddaf yn cynnal digwyddiad bwrdd crwn ar 3 Hydref i drafod y pwnc hwn ymhellach. Rwy'n falch iawn fod Rod King yn mynd i fod yno, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, academyddion, Jeff Cuthbert, Sustrans Cymru a Llywodraeth Cymru.

Lywydd, mae hwn yn bolisi a fydd yn sicrhau manteision pwysig a sylweddol i'n cymunedau. Rwy'n gobeithio y gallwn barhau i adeiladu a chryfhau ein hymgyrch a bod Llywodraeth Cymru yn gwneud 20 mya yn ddigon yng Nghymru.

Photo of Joyce Watson Joyce Watson Labour 6:32, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am gyflwyno'r ddadl hon, John. Bûm yn dadlau ynglŷn â hyn flynyddoedd lawer yn ôl, a chredaf yn sicr fod 20 mya yn ddigon. Rwy'n meddwl fy mod am ofyn i'r Llywodraeth ystyried y cefnffyrdd sy'n rhedeg drwy rannau o fy etholaeth. Mae Llanfair Caereinion wedi cysylltu â mi ar fater o'r fath, lle mae'n rhaid i blant ysgol groesi ffordd fawr i gyrraedd eu hysgol. Yn aml iawn, mae'n rhaid iddynt wneud yr un peth i fynd i barciau neu unrhyw le arall y mae angen iddynt fynd. Felly, er mai awdurdodau lleol sy'n bennaf gyfrifol, rhaid inni edrych ar gefnffyrdd.

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 6:33, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i John Griffiths am roi munud imi yn y ddadl hon? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 20 mya a 30 mya? Nid yw'n swnio'n fawr iawn. Wel, mae'r canfyddiad, y golwg drwy gornel y llygad, faint rydych yn ei weld mewn gwirionedd, yn cynyddu po arafaf rydych yn mynd. Mae eich amser ymateb—. I'r rhai a wnaeth eu prawf gyrru flynyddoedd lawer yn ôl, roedd tudalen gefn 'Rheolau'r Ffordd Fawr' yn dweud wrthych pa mor hir y byddai'n cymryd i stopio ar gyflymderau gwahanol. A pho gyflymaf y byddwch chi'n mynd, yr hiraf fydd eich amser ymateb a'r hiraf y bydd hi'n cymryd i chi stopio pan fyddwch chi yn ymateb. A chanlyniadau'r ddamwain—po gyflymaf y byddwch chi'n mynd, y mwyaf tebygol rydych chi o wneud niwed difrifol i rywun, a phlant ydynt yn aml.

Fe soniaf yn fyr am erthygl a oedd yn y South Wales Evening Post ddydd Sadwrn, lle roedd Robyn Lee, y colofnydd, yn ysgrifennu am weld damwain pan redodd plentyn yn syth i'r ffordd a chael ei daro gan gar. Nid oedd yn ddamwain ddifrifol; cleisiau'n unig a gafodd y plentyn. Pam? Nid oherwydd mai 20 mya oedd y terfyn cyflymder, ond yn ffodus, oherwydd bod yna dagfa draffig hir iawn. Ni allwn ddibynnu ar dagfeydd traffig i gadw ein plant yn ddiogel; mae angen parthau 20 mya.

Photo of David Melding David Melding Conservative 6:34, 18 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n frwd fy nghefnogaeth i'r achos a gyflwynwyd gan John Griffiths. Rwy'n credu y dylid cael terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mae'r dystiolaeth yn ddiymwad. Credaf fod galw cynyddol amdano ymhlith y boblogaeth. Cyhoeddwyd data arolwg heddiw ynglŷn â sut y mae'r cyhoedd yn galw'n llawer mwy pendant am yr hyn y maent yn ei ddisgwyl yn eu dinasoedd, ac maent eisiau llai o ddibyniaeth ar geir a mwy o ddefnydd cyfrifol ar geir. Mae'r ymgyrch 20's Plenty wedi bod yn llwyddiant mawr. Rwy'n cymeradwyo ymgyrch 20's Plenty yn Sili, y gallaf ddweud ei bod heddiw wedi cyflwyno deiseb i Gyngor Bro Morgannwg wedi'i llofnodi gan 718 o drigolion Sili. Rwyf wedi cyfarfod â'r ymgyrchwyr hynny, ac rwy'n dymuno'n dda iddynt. Rwyf hefyd yn cymeradwyo'r gwaith gwych a wneir yng Nghaerdydd; efallai nad ydynt yn cyrraedd safon Bryste eto, ond maent yn gwneud cynnydd go iawn ar symud tuag at wneud 20 mya yn derfyn cyflymder diofyn yng Nghaerdydd hefyd. Mae'n bryd gwneud y newid hwn. Dylem ei wneud. Dylem ei osod fel y cyflymder diofyn a chyfiawnhau ei godi wedyn, neu ganiatáu i gynghorau gyfiawnhau ei godi'n uwch wedyn mewn mannau dethol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:35, 18 Gorffennaf 2018

Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl. Ken Skates.

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i John Griffiths am godi'r mater pwysig hwn ar gyfer y ddadl heddiw. Gwn fod hwn yn fater y mae wedi teimlo'n gryf yn ei gylch ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn o allu ymateb i'w sylwadau ac i sylwadau'r Aelodau eraill. Mae ein pwerau newydd dros derfynau cyflymder cenedlaethol yn cynnig cyfleoedd inni archwilio sut y gallant fod yn ddefnyddiol i'n helpu i gyrraedd ein nodau llesiant a gwneud Cymru'n wlad fwy cynhwysol, iach a ffyniannus, a bu llawer o ddiddordeb yn y pwnc hwn yn ddiweddar. Pan gyhoeddodd Dr Sarah Jones a Huw Brunt eu hymchwil a ddaeth i'r casgliad y gallai terfyn 20 mya diofyn mewn ardaloedd trefol wella diogelwch ar y ffyrdd ac ansawdd aer yng Nghymru, roeddem yn falch iawn o'u gwahodd i'n cynhadledd teithio llesol y llynedd i drafod y mater, ac mae eu syniadau a'u cyfraniad wedi bod o gymorth mawr. Gallai cyflymder traffig is effeithio'n gadarnhaol ar ddiogelwch ar y ffyrdd drwy leihau nifer y gwrthdrawiadau a hefyd eu difrifoldeb. Ac mae manteision posibl eraill yn cynnwys gwneud amgylcheddau ffyrdd yn fwy addas ar gyfer pobl yn gyffredinol, lleihau gwahanu ardaloedd o bobtu ffyrdd, annog teithio llesol drwy leihau'r gwahaniaeth cyflymder rhwng moddau modurol a dulliau teithio llesol, a gwella'r canfyddiad o ddiogelwch. Ni ellir gwireddu yr un o'r manteision hyn, wrth gwrs, heb fod y rhan fwyaf o yrwyr yn glynu at y terfynau cyflymder is hyn, neu heb fod y cyflymderau'n cael eu gostwng yn amlwg, fan lleiaf.

Hyd yn hyn, mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi defnyddio terfynau cyflymder 20 mya yn bennaf mewn ardaloedd a dargedwyd yn fanwl. Weithiau, ni fydd y rhain ond yn ymestyn dros ddarn byr o ffordd a rhwydwaith mwy o strydoedd weithiau, a dros y blynyddoedd rydym wedi ariannu cannoedd o barthau a therfynau cyflymder 20 mya, o'n grantiau llwybrau diogel a hefyd ein grantiau diogelwch ffyrdd ar draws Cymru. Datblygir y cynlluniau hyn mewn ymgynghoriad—mae hynny'n bwysig—mewn ymgynghoriad â chymunedau, ac yn gyffredinol cânt gefnogaeth a chroeso da gan y cymunedau hynny. Rhaid imi ddweud mewn ymateb i Joyce Watson, a nododd bwynt pwysig iawn am gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, ac nid cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yn unig, rydym wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'n cefnffyrdd ac o ganlyniad rydym wedi cyflwyno ein rhaglen amlflwydd i sefydlu terfynau cyflymder 20 mya ger y mwyafrif helaeth o ysgolion ar ein cefnffyrdd neu'n agos atynt. Mae'r rhain yn gweithredu ar ddechrau ac ar ddiwedd y diwrnod ysgol i greu amgylchedd diogel ar gyfer plant sy'n teithio i ac o'r ysgol, ac maent hefyd yn annog newid mewn ymddygiad, ac yn hybu newid ymddygiad, ymhlith modurwyr. Nawr, bydd y rhaglen hon yn cael ei chwblhau yn y flwyddyn ariannol hon a bydd yn cwmpasu 45 o leoliadau ar ein rhwydwaith ffyrdd strategol. Rwy'n falch o ddweud, yn Abergwaun, ein bod wedi cyflwyno terfyn cyflymder 20 mya parhaol ar y gefnffordd, ac ar sail tystiolaeth ac ymgynghoriad, buaswn yn fwy na pharod i ystyried terfynau cyflymder 20 mya parhaol mewn mannau eraill.

Nawr, fel y dywedais, er mwyn cyflawni'r effeithiau cadarnhaol, mae angen cydymffurfio â therfynau cyflymder is, fel y dywedodd John Griffiths yn gywir. Mae terfynau cyflymder 20 milltir yr awr wedi bod yn fwyaf effeithiol am leihau cyflymder lle maent naill ai'n rhan o barthau 20 mya, pan fo'r terfynau cyflymder wedi'u cefnogi gan fesurau ffisegol fel twmpathau ffordd, byrddau arafu a chulhau ffyrdd, neu lle mae'r amgylchedd ffisegol presennol yn cynnwys cyfyngiadau sy'n golygu bod cyflymder is yn teimlo'n iawn i'r modurwr. Lywydd, mae terfynau cyflymder ardal gyfan gydag arwyddion yn unig wedi llwyddo i sicrhau gostyngiadau sy'n amrywiol ond yn llai ar y cyfan i'r cyflymder cyfartalog. Fodd bynnag, maent yn dod yn fwy cyffredin, yn arbennig mewn ardaloedd trefol mwy o faint. Mae hyn yn cynnwys Caerdydd, lle mae terfynau cyflymder 20 mya ardal gyfan yn cael eu cyflwyno, a chymeradwyaf y cyngor am wneud hyn. O ganlyniad, mae'r sylfaen dystiolaeth yn tyfu. Wrth benderfynu os a sut y defnyddiwn ein pwerau newydd, bydd yn ddefnyddiol iawn inni edrych yn fanwl ar brofiadau'r lleoedd hyn ochr yn ochr â'r gwaith ymchwil cynhwysfawr a wnaed ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth ar effaith terfynau cyflymder 20 mya mewn amrywiaeth eang o leoliadau ar draws y DU, ac maent i fod i gyflwyno eu hadroddiad yn fuan.

I ategu hyn, Lywydd, rwyf wedi comisiynu ein harolwg ein hunain o dystiolaeth gwerthusiadau a gyhoeddwyd. Nawr, fel y dywedodd John Griffiths yn y ddadl flaenorol, efallai na fydd beth sy'n gweithio yng Nghaernarfon yn gweithio yng Nghaerfyrddin. Felly mae'n bwysig ystyried dulliau amgen neu ychwanegol o wella diogelwch ar y ffyrdd hefyd. Ceir mesurau eraill a all gyfrannu at wella diogelwch ar ein ffyrdd, megis trwydded yrru raddedig, ac rwy'n cefnogi hynny, ac rwyf hefyd yn un o gefnogwyr brwd y fenter strydoedd chwarae, sydd i bob pwrpas yn trosglwyddo ffyrdd yn ôl i'r cymunedau, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc at ddibenion chwarae.

Rwyf hefyd yn cefnogi dulliau o gael gwared ar yr hyn sy'n achosi'r nifer fwyaf o ddamweiniau traffig, sef pethau sy'n tynnu sylw gyrwyr—dulliau fel annog modurwyr i leihau'r risg y bydd rhywbeth yn tynnu eu sylw drwy wneud yn siŵr nad yw'r ffôn symudol ymlaen ganddynt pan fyddant yn gyrru, a sicrhau bod unrhyw adloniant sydd ganddynt yn eu car yn cael ei gyfyngu cymaint ag y bo modd fel nad yw'n tynnu eu sylw. Credaf fod yr amgylchedd trefol a gynllunnir yn hollbwysig hefyd er mwyn sicrhau bod cyn lleied â phosibl o bethau'n tynnu sylw gyrwyr.

Felly, rwy'n credu'n gryf fod y pwnc hwn yn haeddu ystyriaeth ddifrifol iawn, Lywydd, ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch 20's Plenty yn frwd. Byddwn yn edrych ar yr holl dystiolaeth sydd ar gael a byddwn yn ei thrafod gyda'n partneriaid cyn cyhoeddi'r argymhellion ar gyfer ymgynghori â'r cyhoedd yn ehangach.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:42, 18 Gorffennaf 2018

Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet, a dyna ddod â'n trafodion i ben.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:42.