Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Diolch. Rydym yn benderfynol o wneud popeth a allwn i sicrhau bod Cymru yn elyniaethus tuag at gaethwasiaeth. Ym mis Ebrill, cawsom yr erlyniad cyntaf yn y DU am 'linellau sirol' gan ddefnyddio deddfwriaeth caethwasiaeth fodern. Arweiniodd hyn at garcharu dau ddyn am fasnachu menyw agored i niwed o Lundain i Abertawe i werthu heroin.