Part of 2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 18 Gorffennaf 2018.
Ceir tystiolaeth o lafur dan orfod mewn sefydliadau golchi ceir â llaw, a chredir bod hynny'n tyfu o 10,000 i 20,000 o fusnesau yn y DU, gyda llawer ohonynt heb eu rheoleiddio. Gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi lansio ymchwiliad i sefydliadau golchi ceir â llaw fis Ebrill diwethaf, a'r prif nod yw archwilio effeithiau amgylcheddol a'r rheoliadau sy'n llywodraethu sefydliadau golchi ceir â llaw, ond bydd hefyd yn edrych ar sut y mae Llywodraeth y DU yn cyflawni ei rhwymedigaeth i leihau camfanteisio ar bobl o dan nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Arweinydd y tŷ, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried lansio ymchwiliad tebyg sy'n canolbwyntio ar reoleiddio diwydiannau o'r fath, a'u cysylltiad â masnachu pobl a chamfanteisio?